73Penderfyniadau ar apelau o dan adran 72LL+C
Ar apêl o dan adran 72, caiff Tribiwnlys Addysg Cymru—
(a)gwrthod yr apêl;
(b)gorchymyn bod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth neu nad oes gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol o fath a bennir yn y gorchymyn;
(c)gorchymyn i awdurdod cartref lunio cynllun datblygu unigol;
(d)gorchymyn i awdurdod cartref ddiwygio cynllun datblygu unigol fel a bennir yn y gorchymyn;
(e)anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod cartref sy’n gyfrifol am y mater er mwyn iddo ailystyried, ar ôl rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y Tribiwnlys, a oes angen gwneud penderfyniad gwahanol neu gymryd camau gwahanol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 73 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(f)