RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 4OSGOI A DATRYS ANGHYTUNDEBAU

Apelau a cheisiadau i’r Tribiwnlys

I1I274Rheoliadau ynghylch apelau a cheisiadau

1

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch apelau a cheisiadau i Dribiwnlys Addysg Cymru o dan y Rhan hon, gan gynnwys, er enghraifft, ddarpariaeth—

a

ynghylch materion eraill yn ymwneud â chynllun datblygu unigol y gellir dwyn apêl yn ei erbyn;

b

ynghylch gwneud apelau neu geisiadau a dyfarnu arnynt;

c

sy’n rhoi pwerau pellach i’r Tribiwnlys wrth ddyfarnu ar apelau neu geisiadau;

d

ar gyfer apelau neu geisiadau heb wrthwynebiad.

2

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(c) gynnwys darpariaeth sy’n rhoi pŵer i’r Tribiwnlys, wrth ddyfarnu ar apêl yn erbyn mater neu wrth ddyfarnu ar gais, i wneud argymhellion mewn cysylltiad â materion eraill (gan gynnwys materion na chaniateir i apêl gael ei dwyn neu i gais gael ei ddwyn yn eu herbyn).