Search Legislation

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Adran 76 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 21 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

76Cyrff GIG: tystiolaeth ac argymhellion y TribiwnlysLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Tribiwnlys Addysg Cymru, mewn perthynas ag apêl o dan y Rhan hon,—

(a)arfer ei swyddogaethau i’w gwneud yn ofynnol i gorff GIG roi tystiolaeth ynghylch arfer swyddogaethau’r corff;

(b)gwneud argymhellion i gorff GIG ynghylch arfer swyddogaethau’r corff.

(2)Nid oes dim yn is-adran (1) sy’n effeithio ar gyffredinolrwydd y pwerau i wneud rheoliadau yn adrannau 74 a 75.

(3)Rhaid i gorff GIG y gwnaed argymhelliad iddo gan y Tribiwnlys lunio adroddiad i’r Tribiwnlys cyn diwedd unrhyw gyfnod rhagnodedig sy’n dechrau â’r dyddiad y gwneir yr argymhelliad.

(4)Rhaid i’r adroddiad o dan is-adran (3) nodi—

(a)y camau y mae’r corff GIG wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhelliad, neu

(b)pam nad yw’r corff GIG wedi cymryd unrhyw gamau a pham nad yw’n bwriadu cymryd unrhyw gamau mewn ymateb i’r argymhelliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 76 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(i)

I3A. 76 mewn grym ar 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/373, ergl. 8(g)

Back to top

Options/Help