Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

79TroseddLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad—

(a)mewn cysylltiad â datgelu neu arolygu dogfennau, neu

(b)i fod yn bresennol i roi tystiolaeth a dangos dogfennau,

pan fo’r gofyniad hwnnw wedi ei osod drwy reoliadau o dan adran 74 neu 75 mewn perthynas ag apêl neu gais o dan adran 70 neu 72.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 79 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 79 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(g)