RHAN 2LL+CANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 4LL+COSGOI A DATRYS ANGHYTUNDEBAU

Apelau a cheisiadau i’r TribiwnlysLL+C

81Apelau o Dribiwnlys Addysg Cymru i’r Uwch DribiwnlysLL+C

(1)Caiff parti i unrhyw drafodion o dan adran 70 neu 72 gerbron Tribiwnlys Addysg Cymru apelio i’r Uwch Dribiwnlys ar unrhyw bwynt cyfreithiol sy’n deillio o benderfyniad a wneir gan Dribiwnlys Addysg Cymru yn y trafodion hynny.

(2)Dim ond os yw Tribiwnlys Addysg Cymru neu’r Uwch Dribiwnlys, ar gais a wneir gan y parti o dan sylw, wedi rhoi ei ganiatâd y caniateir i apêl gael ei dwyn o dan is-adran (1).

(3)Mae adran 12 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15) (trafodion ar apêl i’r Uwch Dribiwnlys) yn gymwys mewn perthynas ag apelau i’r Uwch Dribiwnlys o dan yr adran hon fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag apelau iddo o dan adran 11 o’r Ddeddf honno, ond fel pe bai cyfeiriadau at y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gyfeiriadau at Dribiwnlys Addysg Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 81 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 81 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(g)