xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau at ddiben rhoi effaith i’r Rhan hon mewn achos pan na fo gan riant plentyn, neu pan na fo gan berson ifanc, alluedd ar yr adeg berthnasol.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth sy’n cymhwyso unrhyw ddeddfiad gydag addasiadau, gan gynnwys (er enghraifft) ddarpariaeth—
(a)i gyfeiriadau at riant plentyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at, neu fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at, gynrychiolydd y rhiant;
(b)i gyfeiriadau at berson ifanc gael eu dehongli fel cyfeiriadau at, neu fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at, gynrychiolydd y person ifanc, rhiant y person ifanc, neu gynrychiolydd rhiant y person ifanc;
(c)i addasiadau gael effaith er gwaethaf adran 27(1)(g) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9) (nad yw’n caniatáu i benderfyniadau ar gyflawni cyfrifoldebau rhiant mewn materion nad ydynt yn ymwneud ag eiddo plentyn gael eu gwneud ar ran person).
(3)Yn is-adran (1), ystyr “yr adeg berthnasol” yw’r adeg, o dan y deddfiad o dan sylw, pan fo’n ofynnol, neu pan ganiateir, i rywbeth gael ei wneud gan y rhiant neu’r person ifanc neu mewn perthynas â’r rhiant neu’r person ifanc.
(4)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at fod heb alluedd yn gyfeiriad at fod heb alluedd o fewn yr ystyr a roddir i “lacking capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005.
(5)Ystyr “cynrychiolydd”, mewn perthynas â rhiant neu berson ifanc, yw—
(a)dirprwy a benodir gan y Llys Gwarchod o dan adran 16(2)(b) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 i wneud penderfyniadau ar ran y rhiant neu’r person ifanc mewn perthynas â materion o fewn y Rhan hon;
(b)rhoddai atwrneiaeth arhosol (o fewn yr ystyr a roddir i “lasting power of attorney” yn adran 9 o’r Ddeddf honno) a benodir gan y rhiant neu’r person ifanc i wneud penderfyniadau ar ei ran mewn perthynas â materion o fewn y Rhan hon;
(c)atwrnai y mae atwrneiaeth barhaus (o fewn yr ystyr a roddir i “enduring power of attorney” yn Atodlen 4 i’r Ddeddf honno) sydd wedi ei chreu gan y rhiant neu’r person ifanc wedi ei breinio ynddo, pan fo’r atwrneiaeth wedi ei chofrestru yn unol â pharagraffau 4 a 13 o’r Atodlen honno neu pan fo cais i gofrestru’r atwrneiaeth wedi ei wneud.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 83 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 83 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(j)