Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018

Cydsyniad Gweinidogion Cymru i is-ddeddfwriaeth sydd o fewn cwmpas cyfraith yr UE

14Cydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth

(1)Cyn gwneud is-ddeddfwriaeth sy’n cynnwys darpariaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi, rhaid i un o Weinidogion y Goron, neu unrhyw berson arall (ac eithrio Gweinidogion Cymru) y mae’r swyddogaeth o wneud y ddeddfwriaeth wedi ei rhoi iddo, gael cydsyniad Gweinidogion Cymru.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys i ddarpariaeth os yw—

(a)amodau 1, 2 a 3 wedi eu bodloni, a

(b)amod 4 neu 5 wedi ei fodloni.

(3)Amod 1 yw bod y ddarpariaeth yn gymwys o ran Cymru (pa un a yw’r ddarpariaeth yn rhychwantu tiriogaethau eraill neu’n gymwys iddynt ai peidio) ac o fewn cymhwysedd datganoledig.

(4)Amod 2 yw bod y ddarpariaeth yn dod, neu y byddai wedi dod, o fewn cwmpas cyfraith yr UE fel y mae’n cael effaith ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym.

(5)Amod 3 yw bod y ddarpariaeth i’w gwneud o dan swyddogaeth a arferir drwy offeryn statudol.

(6)Amod 4 yw bod y ddarpariaeth i’w gwneud o dan swyddogaeth a roddir gan neu o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig a ddeddfir ar ôl y diwrnod y daw’r adran hon i rym.

(7)Amod 5 yw—

(a)bod y ddarpariaeth i’w gwneud o dan swyddogaeth a addesir gan neu o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig a ddeddfir ar ôl y diwrnod y daw’r adran hon i rym,

(b)bod y swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) wedi ei haddasu gan y Ddeddf mewn ffordd sy’n galluogi, neu’n ei gwneud yn ofynnol, i ddarpariaeth gael ei gwneud na ellid ei gwneud yn flaenorol, ac

(c)na ellid bod wedi gwneud y ddarpariaeth cyn i’r swyddogaeth gael ei haddasu.

15Cydsyniad Gweinidogion Cymru i gymeradwyo neu gadarnhau is-ddeddfwriaeth

(1)Cyn cymeradwyo neu gadarnhau is-ddeddfwriaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi, rhaid i un o Weinidogion y Goron, neu unrhyw berson arall (ac eithrio Gweinidogion Cymru) y mae’r swyddogaeth o gymeradwyo neu gadarnhau’r ddeddfwriaeth wedi ei rhoi iddo, gael cydsyniad Gweinidogion Cymru.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfwriaeth os yw—

(a)amodau 1, 2 a 3 wedi eu bodloni, a

(b)amod 4 neu 5 wedi ei fodloni.

(3)Amod 1 yw bod yr is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth sy’n gymwys o ran Cymru (pa un a yw’r ddarpariaeth yn rhychwantu tiriogaethau eraill neu’n gymwys iddynt ai peidio) ac sydd o fewn cymhwysedd datganoledig.

(4)Amod 2 yw bod y ddarpariaeth y cyfeirir ati yn amod 1 yn dod, neu y byddai wedi dod, o fewn cwmpas cyfraith yr UE fel y mae’n cael effaith ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym.

(5)Amod 3 yw bod yr is-ddeddfwriaeth i’w gwneud gan berson ac eithrio Gweinidogion Cymru o dan swyddogaeth a arferir drwy offeryn statudol.

(6)Amod 4 yw bod yr is-ddeddfwriaeth i’w chymeradwyo neu ei chadarnhau o dan swyddogaeth a roddir gan neu o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig a ddeddfir ar ôl y diwrnod y daw’r adran hon i rym.

(7)Amod 5 yw—

(a)bod yr is-ddeddfwriaeth i’w chymeradwyo neu ei chadarnhau o dan swyddogaeth a addesir gan neu o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig a ddeddfir ar ôl y diwrnod y daw’r adran hon i rym, a

(b)bod yr is-ddeddfwriaeth yn cynnwys y math o ddarpariaeth y mae’r addasiad yn ei ganiatáu neu’n ei wneud yn ofynnol neu y mae’r addasiad yn gymwys iddo.

(8)Addesir swyddogaeth at ddibenion is-adran (7) os, o ganlyniad i addasiad i ddeddfiad—

(a)yw’r is-ddeddfwriaeth y mae’r swyddogaeth yn gymwys iddi yn gallu cynnwys darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig na allai ei chynnwys yn flaenorol, neu

(b)yw’r swyddogaeth yn gymwys i is-ddeddfwriaeth sy’n cynnwys darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig nad oedd yn gymwys iddi yn flaenorol.

(9)At ddibenion yr adran hon, mae swyddogaeth o gymeradwyo yn cynnwys swyddogaeth o roi cydsyniad.

16Dyletswydd i adrodd ar arfer swyddogaethau o dan adrannau 14(1) a 15(1)

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar arfer eu swyddogaeth cydsyniad o dan adran 14(1) neu 15(1) cyn diwedd cyfnod o 60 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir cydsyniad.

(2)Rhaid i adroddiad a lunnir o dan is-adran (1)—

(a)rhoi esboniad o’r is-ddeddfwriaeth sy’n cael ei gwneud, ei chymeradwyo neu ei chadarnhau;

(b)pennu’r person y mae’r swyddogaethau o wneud, cymeradwyo neu gadarnhau’r ddeddfwriaeth wedi eu rhoi iddo;

(c)pennu rhesymau Gweinidogion Cymru dros roi’r cydsyniad.

(3)At ddibenion is-adran (1), nid oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw amser pan yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.