Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018

Cyffredinol

18Rheoliadau i barhau i gael effaith

Nid yw’r gwaharddiadau ar wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon ar ôl amser penodol yn effeithio ar barhad mewn grym reoliadau a wneir ar neu cyn yr amser hwnnw (gan gynnwys arfer ar ôl yr amser hwnnw unrhyw bŵer a roddir drwy reoliadau a wneir ar neu cyn yr amser hwnnw).

19Rheoliadau

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud—

(a)darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol neu ardaloedd gwahanol;

(b)darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol neu arbed.

(3)Mae Atodlen 2 yn darparu ar gyfer y gweithdrefnau sy’n gymwys i wneud rheoliadau.

20Dehongli cyffredinol

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • mae “addasu” (“modify”) yn cynnwys diwygio, diddymu neu ddirymu (ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w darllen yn unol â hynny);

  • ystyr “yr AEE” (“the EEA”) yw’r Ardal Economaidd Ewropeaidd;

  • nid yw “Aelod-wladwriaeth” (“member State”) (ac eithrio yn y diffiniad o “cyfeiriad at yr UE”) yn cynnwys y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yw awdurdod cyhoeddus o fewn ystyr adran 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998;

  • ystyr “cyfarwyddeb gan yr UE” (“EU directive”) yw cyfarwyddeb o fewn ystyr Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd;

  • ystyr “cyfeiriad at yr UE” (“EU reference”) yw—

    (a)

    unrhyw gyfeiriad at yr UE, endid o’r UE neu Aelod-wladwriaeth,

    (b)

    unrhyw gyfeiriad at gyfarwyddeb gan yr UE neu unrhyw ddarn arall o gyfraith yr UE, neu

    (c)

    unrhyw gyfeiriad arall sy’n ymwneud â’r UE;

  • ystyr “cyfraith yr UE” (“EU law”) yw—

    (a)

    yr holl hawliau, pwerau, atebolrwyddau, rhwymedigaethau a chyfyngiadau a grëir neu sy’n codi o bryd i’w gilydd gan neu o dan Gytuniadau’r UE, a

    (b)

    yr holl rwymedïau a gweithdrefnau y darperir ar eu cyfer o bryd i’w gilydd gan neu o dan Gytuniadau’r EU;

  • mae i “cymhwysedd datganoledig” (“devolved competence”) yr ystyr a roddir gan adran 17;

  • mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (gweler adran 158 o’r Ddeddf honno);

  • ystyr “cytundeb ymadael” (“withdrawal agreement”) yw cytundeb (pa un a yw wedi ei gadarnhau ai peidio) rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE o dan Erthygl 50(2) o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd sy’n nodi’r trefniadau i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r UE;

  • ystyr “darpariaeth ôl-weithredol” (“retrospective provision”), mewn perthynas â darpariaeth a wneir drwy reoliadau, yw darpariaeth sy’n cymryd effaith o ddyddiad sy’n gynharach na’r dyddiad y gwneir y rheoliadau;

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn unrhyw un o’r canlynol (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir)—

    (a)

    Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;

    (b)

    Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

    (c)

    is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “deddfwriaeth drydyddol yr UE” (“EU tertiary legislation”) yw—

    (a)

    unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan—

    (i)

    rheoliad gan yr UE,

    (ii)

    penderfyniad o fewn ystyr Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, neu

    (iii)

    cyfarwyddeb gan yr UE,

    yn rhinwedd Erthygl 290 neu 291(2) o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd neu Erthygl 202 flaenorol o’r Cytuniad sy’n sefydlu’r Gymuned Ewropeaidd, neu

    (b)

    unrhyw fesur a fabwysiedir yn unol â Erthygl 34(2)(c) flaenorol o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd i weithredu penderfyniadau o dan Erthygl 34(2)(c) flaenorol, ond nid yw’n cynnwys unrhyw ddarpariaeth neu fesur o’r fath sy’n gyfarwyddeb gan yr UE;

  • ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” (“primary legislation”) yw—

    (a)

    Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig,

    (b)

    Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “diwrnod ymadael” (“exit day”) yw diwrnod neu amser ar ddiwrnod a benodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn unol ag is-adran (4);

  • ystyr “endid o’r UE” (“EU entity”) yw un o sefydliadau’r UE neu unrhyw un o swyddfeydd, cyrff neu asiantaethau’r UE;

  • ystyr “penderfyniad gan yr UE” (“EU decision”) yw—

    (a)

    penderfyniad o fewn ystyr Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd; neu

    (b)

    penderfyniad o dan Erthygl 34(2)(c) flaenorol o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd;

  • ystyr “rheoliad gan yr UE” (“EU regulation”) yw rheoliad o fewn ystyr Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd;

  • ystyr “Siarter Hawliau Sylfaenol” (“Charter of Fundamental Rights”) yw Siarter Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd ddyddiedig 7 Rhagfyr 2000, fel y’i haddaswyd yn Strasbwrg ar 12 Rhagfyr 2007;

  • mae i “swyddogaeth cyn cychwyn” yr ystyr a roddir i “pre-commencement function” gan Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (gweler paragraff 1(3) o Ran 2 o’r Atodlen honno);

  • ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”) yw unrhyw dribiwnlys y caniateir i achosion cyfreithiol gael eu dwyn ynddo;

  • ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant criminal offence”) yw trosedd y mae unigolyn sydd wedi cyrraedd 18 oed yn gallu cael ei ddedfrydu i garchar amdani am gyfnod o fwy na 2 flynedd (gan anwybyddu unrhyw ddeddfiad sy’n gwahardd carchariad unigolion nad oes ganddynt unrhyw euogfarnau blaenorol neu sy’n cyfyngu ar garchariad unigolion o’r fath);

  • mae i “un o Weinidogion y Goron” yr ystyr a roddir i “Minister of the Crown” gan Ddeddf Gweinidogion y Goron 1975 ac mae hefyd yn cynnwys Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

(2)Yn y Ddeddf hon—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi amser yn ogystal â diwrnod fel y diwrnod ymadael, mae cyfeiriadau at cyn, ar ôl neu ar y diwrnod hwnnw, neu at ddechrau â’r diwrnod hwnnw, i’w darllen yn unol â hynny fel cyfeiriadau at cyn, ar ôl neu ar yr amser hwnnw ar y diwrnod hwnnw neu (yn ôl y digwydd) at ddechrau â’r amser hwnnw ar y diwrnod hwnnw, a

(b)pan na fo Gweinidogion Cymru yn penodi amser yn ogystal â diwrnod fel y diwrnod ymadael, mae cyfeiriad at y diwrnod ymadael i’w ddarllen fel cyfeiriad at ddechrau’r diwrnod hwnnw.

(3)At ddibenion adrannau 14 a 15, gall addasiad fod yn ddatganedig neu’n oblygedig ac mae’n cynnwys gofyniad i gydymffurfio â chyfraith yr UE nad yw’n gymwys mwyach i arfer y swyddogaeth.

(4)Wrth i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-adran (1) at ddibenion y diffiniad o “diwrnod ymadael”—

(a)rhaid iddynt roi sylw i unrhyw ddiwrnod neu unrhyw amser ar ddiwrnod a benodir at yr un dibenion neu at ddibenion tebyg mewn neu o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig i roi effaith i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd;

(b)ni chânt benodi diwrnod nac amser ar ddiwrnod sy’n digwydd cyn yr adeg y mae’r Cytuniadau yn peidio â bod yn gymwys i’r Deyrnas Unedig yn unol ag Erthygl 50(3) o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd.

(5)Yn is-adran (4)(b), ystyr “y Cytuniadau” yw’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd a’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

(6)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at Erthygl 34(2)(c) flaenorol o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd yn gyfeiriadau at yr Erthygl honno fel y cafodd effaith ar unrhyw adeg cyn i Gytuniad Lisbon ddod i rym.

(7)Mae unrhyw gyfeiriad arall yn y Ddeddf hon at Erthygl o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd neu’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd yn cynnwys cyfeiriad at yr Erthygl honno fel y’i cymhwysir gan Erthygl 106a o Gytuniad Euratom.

21Dod i rym

Daw’r Ddeddf hon i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

22Diddymu’r Ddeddf hon

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiddymu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon.

23Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018.