(a gyflwynir gan adran 13)
ATODLEN 1FFIOEDD A THALIADAU
Pŵer i ddarparu ar gyfer ffioedd neu daliadau: swyddogaethau newydd
1(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer codi ffioedd neu daliadau eraill, neu mewn cysylltiad â chodi ffioedd neu daliadau eraill, mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth (“y swyddogaeth berthnasol”) sydd gan awdurdod lleol yn rhinwedd darpariaeth a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn—
(a)adran 3 (pwerau i wneud darpariaeth sy’n cyfateb i gyfraith uniongyrchol yr UE);
(b)adran 4 (pwerau i ailddatgan deddfiadau sy’n deillio o’r UE);
(c)adran 5 (pwerau i bennu darpariaeth a wneir o dan bwerau sy’n ymwneud â’r UE fel un sy’n parhau i gael effaith);
(d)adran 9 (pwerau sy’n ymwneud â chydymffurfedd â rhwymedigaethau rhyngwladol);
(e)adran 10 (pwerau i weithredu’r cytundeb ymadael);
(f)adran 11 (pŵer i weithredu rhwymedigaethau gan yr UE).
(2)Caiff rheoliadau o dan y paragraff hwn (ymhlith pethau eraill)—
(a)pennu’r ffioedd neu’r taliadau neu wneud darpariaeth o ran sut y maent i’w penderfynu;
(b)darparu ar gyfer adennill neu waredu unrhyw symiau sy’n daladwy o dan y rheoliadau;
(c)rhoi pŵer i’r awdurdod cyhoeddus i wneud, drwy is-ddeddfwriaeth, unrhyw ddarpariaeth y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud o dan y paragraff hwn mewn perthynas â’r swyddogaeth berthnasol.
(3)Ni chaiff rheoliadau o dan y paragraff hwn—
(a)rhoi swyddogaeth i un o Weinidogion y Goron na gosod swyddogaeth arno;
(b)dileu nac addasu swyddogaeth cyn cychwyn un o Weinidogion y Goron oni bai bod gwneud hynny yn gysylltiedig â darpariaeth arall sydd wedi ei chynnwys yn y rheoliadau neu’n ganlyniadol iddi.
Pŵer i addasu ffioedd neu daliadau cyn ymadael
2(1)Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan fo is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth (“y ddarpariaeth codi tâl”) ar gyfer codi ffioedd neu daliadau eraill neu mewn cysylltiad â chodi ffioedd neu daliadau eraill—
(a)sydd wedi ei gwneud mewn rheoliadau o dan adran 4 neu sy’n cael ei thrin fel pe bai wedi ei gwneud o dan adran 5, a
(b)a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, wedi ei gwneud o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 neu adran 56 o Ddeddf Cyllid 1973.
(2)Mae is-baragraff (3) hefyd yn gymwys pan fo is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth a addesir o dan y paragraff hwn.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau sy’n addasu’r is-ddeddfwriaeth at ddibenion—
(a)dirymu’r ddarpariaeth codi tâl,
(b)newid swm unrhyw un neu ragor o’r ffioedd neu’r taliadau sydd i’w codi,
(c)newid sut y mae unrhyw un neu ragor o’r ffioedd neu’r taliadau i’w penderfynu, neu
(d)newid fel arall y ffioedd neu’r taliadau y caniateir iddynt gael eu codi mewn perthynas ag unrhyw beth y caniateir i ffioedd neu daliadau gael eu codi mewn cysylltiad ag ef o dan y ddarpariaeth codi tâl.
(4)Caniateir i reoliadau o dan y paragraff hwn gael eu gwneud cyn y diwrnod ymadael os bydd y ddarpariaeth codi tâl yn dod o fewn is-baragraff (1) ar y diwrnod ymadael.
Cyfyngu ar arfer pŵer o dan baragraff 2
3(1)Pan fo’r ddarpariaeth codi tâl yn cynnwys darpariaeth Deddf 1972 yn unig, ni chaiff rheoliadau o dan baragraff 2 osod na chynyddu trethiant.
(2)Yn is-baragraff (1), ystyr “darpariaeth Deddf 1972” yw—
(a)darpariaeth o fewn paragraff 2(1)(a) a wnaed yn union cyn y diwrnod ymadael o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac nid o dan adran 56 o Ddeddf Cyllid 1973, gan gynnwys darpariaeth o’r fath fel y’i haddesir o dan baragraff 2, neu
(b)darpariaeth a wneir o dan baragraff 2 ac sy’n gysylltiedig â darpariaeth o fewn paragraff (a) neu sy’n ychwanegu ati neu yn ei disodli.
(3)Ni chaiff rheoliadau o dan baragraff 2—
(a)rhoi swyddogaeth i un o Weinidogion y Goron na gosod swyddogaeth arno;
(b)dileu nac addasu swyddogaeth cyn cychwyn un o Weinidogion y Goron oni bai bod gwneud hynny yn gysylltiedig â darpariaeth arall sydd wedi ei chynnwys yn y rheoliadau neu’n ganlyniadol iddi.
Perthynas â phwerau eraill
4Nid yw’r Atodlen hon yn effeithio ar y pwerau o dan adran 3, 4, 5, 9, 10 neu 11, neu unrhyw bŵer arall sy’n arferadwy ar wahân i’r Atodlen hon, i’w gwneud yn ofynnol i ffioedd neu daliadau eraill gael eu talu, neu i wneud darpariaeth arall mewn perthynas â ffioedd neu daliadau eraill.