Aelodaeth o fwrdd a hawliau pleidleisio
Adran 16 – Cyfyngiad ar aelodaeth awdurdodau lleol o fwrdd a hawliau pleidleisio
89.Mae Atodlen 1 yn mewnosod Pennod 1A newydd yn Rhan 1 o Ddeddf 1996 (sector rhentu cymdeithasol a reoleiddir gan Weinidogion Cymru), er mwyn gosod cyfyngiadau ar y rheolaeth y caniateir i awdurdodau lleol ei chael ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Ceir nodiadau pellach ym mharagraffau 92-105 isod.
Adran 17 - Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
90.Mae Atodlen 2 yn nodi’r diwygiadau a wneir i ddeddfwriaeth o ganlyniad i’r darpariaethau eraill a nodir yn y Ddeddf hon.
Adran 18 – Pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol pellach etc.
91.Mae Adran 18 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau canlyniadol neu at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon, neu oddi tani.
Adran 19 - Dod i rym
92.Bydd darpariaethau’r Ddeddf yn dod i rym yn unol â gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru, ac eithrio adrannau 19 ac 20 sy’n dod i rym drannoeth y diwrnod y mae’r Ddeddf yn cael y Cydsyniad Brenhinol.
Adran 20 – Enw byr
93.Mae’r adran hon yn cadarnhau mai enw’r Ddeddf yw Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018