Isafbris am alcohol
1Isafbris am alcohol
1
Mae’r isafbris cymwys am alcohol i gael ei gyfrifo, at ddibenion adran 2 o’r Ddeddf hon, drwy ddefnyddio’r fformiwla I × Cr × Cy, pan—
a
I yw pa bris bynnag a bennir mewn rheoliadau fel yr isafbris uned at ddibenion y Ddeddf hon, a fynegir mewn punnoedd sterling,
b
Cr yw cryfder canrannol yr alcohol, a fynegir fel rhif prifol,
c
Cy yw cyfaint yr alcohol, a fynegir mewn litrau.
2
Pan, oni bai am yr is-adran hon, na fyddai’r isafbris cymwys am alcohol yn rhif cyfan o geiniogau, mae i gael ei dalgrynnu i’r geiniog gyfan agosaf (gan gymryd bod hanner ceiniog yn nes at y geiniog gyfan nesaf i fyny).
3
Er enghraifft—
a
yn achos potel o win, Cr (cryfder canrannol y gwin) yw 12.5%, a Cy (cyfaint y gwin) yw 75 o gentilitrau;
b
gan gymryd bod I (yr isafbris uned penodedig) yn £0.50, byddai’r isafbris cymwys am y gwin yn cael ei gyfrifo fel £0.50 × 12.5 × 0.75 = £4.69.
Troseddau
2Troseddau
1
Mae’n drosedd i berson sy’n fanwerthwr alcohol—
a
cyflenwi alcohol o fangre gymhwysol yng Nghymru, neu
b
awdurdodi cyflenwi alcohol o fangre gymhwysol yng Nghymru,
am bris gwerthu sy’n is na’r isafbris cymwys am yr alcohol.
2
Mae’n amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon ddangos i’r person gymryd camau rhesymol ac arfer diwydrwydd dyladwy i osgoi ei chyflawni.
3
Os yw person sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon yn dibynnu ar yr amddiffyniad yn is-adran (2), ac y dygir tystiolaeth sy’n ddigonol i godi mater mewn cysylltiad â’r amddiffyniad hwnnw, rhaid i’r llys gymryd bod yr amddiffyniad wedi ei fodloni oni bai bod yr erlyniad yn profi y tu hwnt i amheuaeth resymol nad yw wedi ei fodloni.
4
Mae’n amherthnasol at ddibenion is-adran (1)(b) a yw’r awdurdodiad yn digwydd yng Nghymru neu yn rhywle arall.
5
At ddibenion yr adran hon ac adran 6, ystyr “pris gwerthu”, mewn perthynas ag alcohol, yw ei bris gan gynnwys TAW a phob treth arall.
6
Yn Atodlen 4 (trwydded bersonol: troseddau perthnasol) i Ddeddf 2003, ar ôl paragraff 2 mewnosoder—
2A
An offence under the Public Health (Minimum Price for Alcohol) (Wales) Act 2018.
Dehongli’r termau craidd
3Ystyr “cyflenwi alcohol” a “mangre gymhwysol”
1
Yn y Ddeddf hon, ystyr cyflenwi alcohol yw—
a
gwerthu drwy fanwerthu alcohol i berson yng Nghymru, neu
b
cyflenwi alcohol gan neu ar ran clwb i aelod o’r clwb, a’r aelod hwnnw yng Nghymru, neu i berson yng Nghymru ar orchymyn aelod o’r clwb,
ac mae ymadroddion cysylltiedig i gael eu dehongli yn unol â hynny.
2
Mae mangre yn fangre gymhwysol at ddibenion y Ddeddf hon—
a
os yw trwydded mangre a roddir o dan Ran 3 o Ddeddf 2003 yn awdurdodi defnyddio’r fangre i gyflenwi alcohol,
b
os yw tystysgrif mangre clwb a roddir o dan Ran 4 o Ddeddf 2003 yn ardystio y caniateir i’r fangre gael ei defnyddio i gyflenwi alcohol, neu
c
os yw cyflenwi alcohol yn y fangre neu o’r fangre yn weithgaredd dros dro a ganiateir at ddibenion Rhan 5 o Ddeddf 2003.
4Ystyr “manwerthwr alcohol”
1
Mewn perthynas â chyflenwi alcohol o fangre sy’n fangre gymhwysol yn rhinwedd adran 3(2)(a), mae pob un o’r canlynol i gael ei drin fel manwerthwr alcohol at ddibenion y Ddeddf hon—
a
unigolyn y mae trwydded bersonol wedi ei rhoi iddo o dan Ran 6 o Ddeddf 2003 sy’n awdurdodi’r unigolyn i gyflenwi alcohol, neu i awdurdodi cyflenwi alcohol, yn unol â’r drwydded mangre o dan sylw;
b
yr unigolyn sy’n oruchwyliwr dynodedig y fangre at ddibenion Deddf 2003.
2
Mewn perthynas â chyflenwi alcohol o fangre sy’n fangre gymhwysol yn rhinwedd adran 3(2)(b), mae’r person sy’n ddeiliad y dystysgrif mangre clwb o dan sylw i gael ei drin fel manwerthwr alcohol at ddibenion y Ddeddf hon.
3
Mewn perthynas â chyflenwi alcohol o fangre sy’n fangre gymhwysol yn rhinwedd adran 3(2)(c), mae’r unigolyn sy’n ddefnyddiwr y fangre at ddibenion Rhan 5 o Ddeddf 2003 i gael ei drin fel manwerthwr alcohol at ddibenion y Ddeddf hon.
Cynigion arbennig
5Cynigion arbennig: prynu sawl eitem o alcohol
1
Pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi mewn trafodiad alcohol amleitem, mae’r isafbris cymwys i gael ei gyfrifo drwy gyfeirio at yr holl alcohol sydd wedi ei gynnwys yn y trafodiad.
2
Cyflenwir alcohol mewn trafodiad alcohol amleitem—
a
os y’i cyflenwir yn rhad ac am ddim drwy gyfeirio at gyflenwi alcohol arall, neu
b
os cyflenwir alcohol arall yn rhad ac am ddim drwy gyfeirio ato,
ac, yn y naill achos neu’r llall, mae’r alcohol am ddim a’r alcohol y cyflenwir yr alcohol am ddim drwy gyfeirio ato i gael eu trin fel pe baent wedi eu cynnwys yn yr un trafodiad.
3
Cyflenwir alcohol mewn trafodiad alcohol amleitem hefyd—
a
os y’i cyflenwir am bris penodol a bennir drwy gyfeirio at gyflenwi alcohol arall, neu
b
os cyflenwir alcohol arall am bris penodol a bennir drwy gyfeirio ato,
ac, yn y naill achos neu’r llall, mae’r alcohol pris penodol a’r alcohol y cyflenwir yr alcohol pris penodol drwy gyfeirio ato i gael eu trin fel pe baent wedi eu cynnwys yn yr un trafodiad.
4
Cyflenwir alcohol mewn trafodiad alcohol amleitem hefyd os y’i cyflenwir, ynghyd ag alcohol arall, am bris penodol, ac, yn yr achos hwnnw, mae’r holl alcohol a gyflenwir am y pris hwnnw i gael ei drin fel pe bai wedi ei gynnwys yn yr un trafodiad.
5
Ond nid yw alcohol i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gyflenwi mewn trafodiad alcohol amleitem os cyflenwir unrhyw beth ac eithrio alcohol yn y trafodiad.
6
Er enghraifft—
a
mewn cynnig arbennig, cyflenwir 4 can o lager a 4 can o seidr gyda’i gilydd am bris penodol: Cr (cryfder canrannol) yw 4% mewn perthynas â’r lager, a 6% mewn perthynas â’r seidr, tra bo Cy (cyfaint) yn 440 ml ym mhob achos;
b
gan gymryd bod I (yr isafbris uned penodedig) yn £0.50, yr isafbris cymwys am y trafodiad yw £8.80; a’r swm hwnnw yw cyfanswm y cyfrifiadau a ganlyn—
£0.50 × 4 × 1.76 = £3.52 (isafbris y lager), a
£0.50 × 6 × 1.76 = £5.28 (isafbris y seidr).
6Cynigion arbennig: cyflenwi alcohol gyda nwyddau a gwasanaethau
1
Pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi ynghyd â nwyddau ac eithrio alcohol, neu gyda gwasanaethau, am un pris, mae is-adran (2) yn gymwys.
2
Mae’r alcohol i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gyflenwi am yr un pris hwnnw at ddiben penderfynu a yw pris gwerthu’r alcohol yn is na’r isafbris cymwys.
3
Er enghraifft—
a
mewn cynnig arbennig, cyflenwir y caniau o lager a seidr a grybwyllir yn yr enghraifft a roddir yn adran 5(6) gyda pitsa am un pris;
b
gan gymryd bod I (yr isafbris uned penodedig) yn £0.50, mae pris gwerthu’r alcohol i gael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel cyfanswm pris y caniau a’r pitsa, ac ni chaniateir i’r pris hwnnw fod yn is nag £8.80, sef yr isafbris cymwys am y lager a’r seidr.
4
Pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi am bris a bennir drwy gyfeirio at gyflenwi nwyddau ac eithrio alcohol, neu wasanaethau (“pris arbennig”), mae is-adran (5) yn gymwys at ddiben penderfynu a yw pris gwerthu’r alcohol yn is na’r isafbris cymwys.
5
Mae’r alcohol i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gyflenwi am bris sy’n hafal i gyfanswm y pris arbennig a’r pris (os oes un) y cyflenwir y nwyddau eraill a’r gwasanaethau amdano.
6
Er enghraifft—
a
mewn cynnig arbennig, cyflenwir y caniau o lager a seidr a grybwyllir yn yr enghraifft a roddir yn adran 5(6) am bris arbennig os yw pitsa yn cael ei brynu am £5.00;
b
gan gymryd bod I (yr isafbris uned penodedig) yn £0.50, mae pris gwerthu’r alcohol i gael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel cyfanswm pris y pitsa a’r pris arbennig, ac ni chaniateir i’r pris arbennig hwnnw fod yn is na £3.80, sef yr isafbris cymwys am y caniau o lager a seidr (sy’n £8.80) llai pris y pitsa (sy’n £5.00).
7Cynigion arbennig: atodol
1
Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo rhan o’r alcohol a gyflenwir mewn trafodiad alcohol amleitem, neu am un pris neu am bris arbennig, o gryfder gwahanol i’r alcohol arall a gyflenwir yn y trafodiad neu am y pris hwnnw.
2
Mae’r isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwir yn y trafodiad neu am y pris hwnnw i gael ei gyfrifo drwy ychwanegu’r isafbris cymwys am bob cryfder o alcohol a gyflenwir yn y trafodiad neu am y pris.
3
Mae cyfeiriadau yn adran 6 at alcohol yn cael ei gyflenwi ynghyd â nwyddau eraill a gwasanaethau yn cynnwys cyfeiriadau at drafodiadau pan fo alcohol yn cael ei ddarparu ynghyd â nwyddau eraill a gwasanaethau, ac—
a
y cyflenwir y nwyddau eraill neu’r gwasanaethau am bris, ond
b
y disgrifir yr alcohol fel pe bai’n cael ei gyflenwi yn rhad ac am ddim.
Cosbau
8Cosbau
Mae person sy’n euog o drosedd o dan adran 2 yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
9Cosbau penodedig
1
Pan fo gan swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 2 yn ardal yr awdurdod lleol, caiff y swyddog roi i’r person hwnnw hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd honno.
2
Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i berson i gael ei ryddhau o fod yn agored i euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig.
3
Yn achos trosedd y mae gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y person y caniateir rhoi hysbysiad cosb benodedig iddo i gael ei drin fel cyfeiriad at y bartneriaeth.
4
Yn achos trosedd y mae gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y person y caniateir rhoi hysbysiad cosb benodedig iddo i gael ei drin fel cyfeiriad at y gymdeithas.
5
Am ddarpariaeth bellach ynghylch cosbau penodedig, gweler Atodlen 1.
6
Am ystyr “swyddog awdurdodedig”, gweler adran 11.
Gorfodi
10Camau gorfodi gan awdurdodau lleol
1
Caiff awdurdod lleol—
a
dwyn erlyniadau mewn cysylltiad â throseddau yn ei ardal o dan y Ddeddf hon;
b
ymchwilio i gwynion mewn cysylltiad â throseddau honedig yn ei ardal o dan y Ddeddf hon;
c
cymryd unrhyw gamau eraill gyda golwg ar leihau nifer y troseddau sy’n digwydd yn ei ardal o dan y Ddeddf hon.
2
Rhaid i awdurdod lleol—
a
ystyried, o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o ddeuddeng mis, y graddau y mae’n briodol i’r awdurdod gynnal yn ei ardal raglen o gamau gorfodi mewn perthynas â’r Ddeddf hon, a
b
i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gynnal rhaglen o’r fath.
3
Wrth gydymffurfio ag is-adran (2), rhaid i awdurdod yn benodol roi sylw i’r amcanion a ganlyn—
a
gwella iechyd y cyhoedd;
b
amddiffyn plant rhag niwed.
4
At ddibenion is-adran (2), mae rhaglen o gamau gweithredu mewn perthynas â’r Ddeddf hon yn rhaglen sy’n ymwneud â chymryd pob un neu unrhyw un neu ragor o’r camau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).
11Swyddogion awdurdodedig
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol yn gyfeiriadau at unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod at ddibenion y Ddeddf hon.
12Pŵer i wneud pryniannau prawf
Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol wneud unrhyw bryniannau a threfniadau, a sicrhau’r ddarpariaeth o unrhyw wasanaethau, y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf hon.
13Pwerau mynediad
1
Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol fynd i fangre yng Nghymru ar unrhyw adeg resymol—
a
os oes gan y swyddog seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol, a
b
os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.
2
Ond nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.
3
Ni chaiff swyddog awdurdodedig fynd i fangre drwy rym o dan yr adran hon.
4
Rhaid i swyddog awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’r awdurdodiad y cyfeirir ato yn adran 11 cyn mynd i fangre o dan yr adran hon.
14Gwarant i fynd i annedd
1
Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (2) mewn perthynas â mangre yng Nghymru a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
a
bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni yn ardal awdurdod lleol, a
b
ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.
2
Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i’r awdurdod lleol i fynd i’r fangre, drwy rym os oes angen.
3
Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.
15Gwarant i fynd i fangreoedd eraill
1
Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (2) mewn perthynas â mangre yng Nghymru ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
a
bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni yn ardal awdurdod lleol,
b
ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni, ac
c
bod gofyniad a nodir yn is-adran (3) neu (4) wedi ei fodloni.
2
Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i’r fangre, drwy rym oes oes angen.
3
Y gofyniad yw—
a
bod gofyn am fynd i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a
b
bod hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon wedi ei roi i’r meddiannydd neu i berson yr ymddengys yn rhesymol i’r awdurdod lleol ei fod yn ymwneud â rheoli’r fangre.
4
Y gofyniad yw bod gofyn am fynd i’r fangre, neu roi hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon, yn debygol o danseilio diben y mynediad.
5
Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.
16Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad
1
Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol sy’n mynd i fangre o dan adran 13, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddir o dan adran 14 neu 15, fynd ag unrhyw bersonau eraill ac unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol.
2
Os yw meddiannydd mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd iddi drwy warant o dan adran 14 neu 15 yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu’r warant, rhaid i’r swyddog—
a
rhoi enw’r swyddog i’r meddiannydd;
b
cyflwyno i’r meddiannydd dystiolaeth ddogfennol o awdurdodiad y swyddog;
c
cyflenwi copi o’r warant i’r meddiannydd.
3
Os nad yw mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd iddi drwy warant o dan adran 14 neu 15 wedi ei meddiannu, neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, yna wrth adael y fangre rhaid i’r swyddog ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.
17Pwerau arolygu, etc.
1
Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol sy’n mynd i fangre o dan adran 13, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddir o dan adran 14 neu 15, wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni—
a
cynnal arolygiadau ac archwiliadau yn y fangre;
b
ei gwneud yn ofynnol cyflwyno unrhyw beth yn y fangre, ei arolygu, a chymryd a chadw samplau neu echdynion ohono;
c
cymryd meddiant o unrhyw beth yn y fangre, a’i gadw am gyhyd ag y mae’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw;
d
ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi gwybodaeth, neu ddarparu cyfleusterau a chymorth mewn cysylltiad â materion sydd o fewn rheolaeth y person.
2
Os yw’r swyddog awdurdodedig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni, caiff y swyddog drefnu i unrhyw beth a gyflwynir o dan is-adran (1)(b), neu unrhyw beth y mae’r swyddog wedi cymryd meddiant ohono o dan is-adran (1)(c), gael ei ddadansoddi.
3
Os yw swyddog awdurdodedig, yn rhinwedd is-adran (1)(c), yn cymryd meddiant o unrhyw beth, rhaid i’r swyddog adael yn y fangre y cafodd ei gymryd ohoni ddatganiad—
a
sy’n rhoi manylion yr hyn sydd wedi ei gymryd ac sy’n datgan bod y swyddog wedi cymryd meddiant ohono, a
b
sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd.
4
Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys y pŵer—
a
i gopïo dogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre;
b
i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre ac a gedwir yn electronig).
5
At y diben hwn, mae “dogfennau” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf; ac mae cyfeiriadau at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—
a
dogfennau a gedwir ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre, a
b
dogfennau a gedwir yn rhywle arall ac y gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre.
6
Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru a Lloegr neu at ddibenion achos o’r fath.
18Rhwystro etc. swyddogion
1
Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan adrannau 13 i 17 yn cyflawni trosedd.
2
Mae unrhyw berson sydd, heb achos rhesymol, yn methu—
a
â darparu i swyddog awdurdodedig gyfleusterau y mae’n rhesymol i’r swyddog awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu darparu at ddiben gofyniad o dan adran 17(1), neu
b
â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 17(1)(b) neu (d),
yn cyflawni trosedd.
3
Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
4
Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 17(6).
19Eiddo a gedwir: apelau
1
Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth yr eir ymaith ag ef o dan adran 17(1)(c) (“eiddo a gedwir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau, naill ai i P neu i berson arall.
2
Os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni nad yw’n angenrheidiol parhau i gadw’r eiddo a gedwir at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni, caiff wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.
3
Caiff gorchymyn o dan yr adran hon gynnwys pa ddarpariaeth bynnag y mae’r llys yn meddwl ei bod yn briodol er mwyn gohirio ei ddwyn i rym wrth aros i apel (gan gynnwys cais o dan adran 111 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (Magistrates’ Courts Act 1980 (c. 43))) gael ei gwneud a dyfarnu arni.
4
Os yw’r llys yn gohirio gwrandawiad cais o dan yr adran hon, caiff wneud gorchymyn mewn cysylltiad a’r eiddo a gedwir sy’n para tan wrandawiad terfynol y cais neu hyd nes y gwneir unrhyw orchymyn pellach, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
5
Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan y llys i wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir, gan gynnwys unrhyw bŵer i wneud gorchymyn o dan adran 1 o Ddeddf yr Heddlu (Eiddo) 1897 (Police (Property) Act 1897 (c.30)) (pŵer i wneud gorchymyn mewn cysylltiad ag eiddo sydd ym meddiant yr heddlu).
20Eiddo a gyfeddir: digolledu
1
Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth y mae swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol wedi cymryd meddiant ohono o dan adran 17(1)(c) (“eiddo a gyfeddir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon i gael ei ddigolledu.
2
Mae is-adran (3) yn gymwys os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni—
a
bod P wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod y swyddog awdurdodedig wedi cymryd meddiant o’r eiddo a gyfeddir, neu ei gadw, o dan amgylchiadau pan nad oedd yn angenrheidiol gwneud hynny at ddiben canfod a oedd trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni, a
b
na ellir priodoli’r golled neu’r difrod i esgeulustod neu ddiffyg P.
3
Caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu P.
Adroddiad a darpariaeth fachlud
21Adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon
1
Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod 5 mlynedd, osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon yn ystod y cyfnod hwnnw.
2
Wrth lunio’r adroddiad rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad.
4
Yn is-adran (1), mae i “y cyfnod 5 mlynedd” yr ystyr a roddir yn adran 22(4).
22Cyfnod para darpariaethau’r isafbris
1
Mae darpariaethau’r isafbris wedi eu diddymu gydag effaith ar ôl i’r cyfnod 6 mlynedd ddod i ben, oni bai y gwneir rheoliadau o dan is-adran (2) sy’n darparu fel arall.
2
Caiff rheoliadau, ar ôl diwedd y cyfnod 5 mlynedd ond cyn diwedd y cyfnod 6 mlynedd, ddarparu nad yw darpariaethau’r isafbris wedi eu diddymu, er gwaethaf is-adran (1).
3
Caiff rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth (gan gynnwys darpariaeth sy’n addasu unrhyw ddeddfiad) sy’n angenrheidiol neu’n hwylus o ganlyniad i ddiddymu, yn rhinwedd is-adran (1), ddarpariaethau’r isafbris.
4
Yn yr adran hon—
mae “addasu” (“modifying”), mewn perthynas â deddfiad, yn cynnwys diwygio, diddymu a dirymu;
ystyr “y cyfnod 5 mlynedd” (“the 5 year period”) yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 2 i rym;
ystyr “y cyfnod 6 mlynedd” (“the 6 year period”) yw’r cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 2 i rym;
ystyr “darpariaethau’r isafbris” (“minimum pricing provisions”) yw—
- a
y Ddeddf hon (ac eithrio is-adran (3) a’r is-adran hon, ac at ddibenion gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), adrannau 26(1), (2) a 27), a
- b
paragraff 2A o Atodlen 4 i Ddeddf 2003.
- a
Cymhwyso i’r Goron
23Cymhwyso i’r Goron
Mae adran 195 o Ddeddf 2003 (cymhwyso i’r Goron) yn gymwys mewn perthynas â darpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon fel pe bai’r adran honno wedi ei chynnwys yn y Ddeddf hon (ac at y diben hwn, mae cyfeiriadau at Ddeddf 2003 yn yr adran honno i gael eu trin fel cyfeiriadau at y Ddeddf hon).
Cyffredinol
24Troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig eraill
1
Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid).
2
Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r gymdeithas (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’i haelodau).
3
Mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol.
4
Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (Criminal Justice Act 1925 (c. 86)) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (Magistrates’ Courts Act 1980 (c. 43)) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.
5
Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth wrth ei heuogfarnu o drosedd o dan y Ddeddf hon i gael ei thalu o asedau’r bartneriaeth.
6
Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth wrth ei heuogfarnu o drosedd o dan y Ddeddf hon i gael ei thalu o gronfeydd y gymdeithas.
25Atebolrwydd uwch-swyddogion etc.
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo trosedd o dan y Ddeddf hon yn cael ei chyflawni gan—
a
corff corfforaethol;
b
partneriaeth;
c
cymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth.
2
Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gan y canlynol, neu gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—
a
uwch-swyddog i’r corff corfforaethol neu’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig, neu
b
unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn rhinwedd a grybwyllir ym mharagraff (a),
mae’r uwch-swyddog hwnnw neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol, y bartneriaeth neu’r gymdeithas) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
3
Yn yr adran hon, ystyr “uwch-swyddog” yw—
a
mewn perthynas â chorff corfforaethol, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforaethol;
b
mewn perthynas â phartneriaeth, partner yn y bartneriaeth;
c
mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, unrhyw swyddog i’r gymdeithas neu unrhyw aelod o’i chorff llywodraethu.
4
Yn is-adran (3), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol.
26Rheoliadau
1
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
a
yn arferadwy drwy offeryn statudol;
b
yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;
c
yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol ac arbed.
2
Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y darpariaethau a ganlyn gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—
a
adran 1;
b
adran 22;
c
paragraff 5(2) o Atodlen 1;
d
paragraff 9 o Atodlen 1.
3
Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
27Dehongli
1
Yn y Ddeddf hon, ystyr “alcohol” yw gwirodydd, gwin, cwrw, seidr neu unrhyw ddiod arall sydd wedi ei heplesu, ei distyllu neu sy’n wirodol, ond nid yw’n cynnwys unrhyw un o’r canlynol—
a
alcohol sydd o gryfder nad yw’n uwch nag 1.2% pan y’i cyflenwir;
b
persawr;
c
rhinflasau a gydnabyddir gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi fel rhai nas bwriedir i’w hyfed fel diod alcoholaidd dolladwy neu gyda diod o’r fath;
d
y rhinflas aromatig a elwir yn gyffredin yn chwerwon Angostura;
e
alcohol sy’n gynnyrch meddyginiaethol neu’n gynnyrch meddyginiaethol milfeddygol, neu sydd wedi ei gynnwys mewn cynnyrch o’r fath;
f
alcohol sydd wedi ei annatureiddio;
g
alcohol methyl;
h
nafftha;
i
alcohol sydd wedi ei gynnwys mewn melysion gwirod.
2
At ddibenion is-adran (1)—
mae i “alcohol sydd wedi ei annatureiddio” yr ystyr a roddir i “denatured alcohol” yn adran 5 o Ddeddf Cyllid 1995 (Finance Act 1995 (c. 4));
mae i “cynnyrch meddyginiaethol” yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn adran 130 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968 (Medicines Act 1968 (c. 67));
mae i “cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol” yr ystyr a roddir i “veterinary medicinal product” yn rheoliad 2 o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013 (Veterinary Medicines Regulations 2013 (SI. 2013/2033));
mae i “diod alcoholaidd dolladwy” yr ystyr a roddir i “dutiable alcoholic liquor” yn Neddf Tollau ar Ddiodydd Alcoholaidd 1979 (Alcoholic Liquor Duties Act 1979 (c. 4));
ystyr “melysion gwirod” (“liqueur confectionery”) yw melysion—
- a
sy’n cynnwys alcohol mewn cyfran nad yw’n uwch na 0.2 litr o alcohol (o gryfder nad yw’n uwch na 57%) y cilogram o’r melysion, a
- b
sydd naill ai’n cynnwys darnau ar wahân nad ydynt yn pwyso mwy na 42g neu sydd wedi eu dylunio i gael eu torri yn ddarnau o’r fath at ddiben eu bwyta.
- a
3
At ddibenion y Ddeddf hon—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “cryfder” (“strength”) alcohol yw ei gryfder alcoholaidd—
- a
sydd, mewn perthynas ag alcohol sydd wedi ei gynnwys mewn potel neu gynhwysydd arall sydd wedi ei farcio neu ei labelu yn unol â gofynion a osodir drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol neu o dan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol, i gael ei gymryd fel y cryfder alcoholaidd yn ôl cyfaint fel y’i dangosir gan y marc neu’r label ar y botel neu’r cynhwysydd;
- b
sydd fel arall i gael ei gyfrifiannu yn unol ag adran 2 o Ddeddf Tollau ar Ddiodydd Alcoholaidd 1979 (Alcoholic Liquor Duties Act 1979 (c. 4));
- a
ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Trwyddedu 2003 (Licensing Act 2003 (c. 17));
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir) sydd wedi ei gynnwys yn un o’r canlynol, neu mewn offeryn sydd wedi ei wneud o dan un ohonynt—
- a
Deddf Seneddol;
- b
Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
- a
mae i “gwerthu drwy fanwerthu” yr ystyr a roddir i “sale by retail” yn Neddf 2003;
mae i “mangre” yr ystyr a roddir i “premises” yn Neddf 2003;
mae i “mangre gymhwysol” (“qualifying premises”) yr ystyr a roddir yn adran 3;
ystyr “partneriaeth” (“partnership”) yw—
- a
partneriaeth o fewn Deddf Partneriaethau 1890 (Partnership Act 1890 (c. 39)), neu
- b
partneriaeth gyfyngedig sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (Limited Partnerships Act 1907 (c. 24));
- a
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
mae i “trwydded mangre” yr ystyr a roddir i “premises licence” yn Neddf 2003;
mae i “tystysgrif mangre clwb” yr ystyr a roddir i “club premises certificate” yn Neddf 2003.
28Dod i rym
1
Daw’r adrannau a ganlyn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
a
adrannau 26 a 27;
b
yr adran hon;
c
adran 29;
d
adran 30.
2
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
3
Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—
a
pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;
b
gwneud darpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.
29Hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r isafbris am alcohol
1
Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r bwriad i gychwyn y gofynion o ran yr isafbris a gyflwynir gan y Ddeddf hon.
2
Rhaid i’r camau a gymerir gynnwys camau i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r risg i iechyd yn sgil goryfed, ac o sut y bwriedir lleihau lefelau yfed yn sgil cyflwyno’r isafbris am alcohol.
30Enw byr
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018.