Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i

Deddf Iechyd Y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018

5

Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 19 Mehefin 2018 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 9 Awst 2018.

2.Fe’u lluniwyd gan Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf.

3.Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni. Ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf. Os ymddengys nad oes angen rhoi esboniad neu sylw ar ddarpariaeth yn y Ddeddf, nis rhoddir.

Crynodeb a Chefndir

4.Nod y Ddeddf yw mynd i’r afael â phryderon Llywodraeth Cymru o ran y niwed i iechyd a’r niwed cymdeithasol a all gael eu hachosi o ganlyniad i effeithiau goryfed alcohol.

5.Datblygwyd y Ddeddf hon yn dilyn ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd ‘Gwrando arnoch chi: Mae eich iechyd yn bwysig’ yn 2014, a oedd yn cynnwys cyfres o gynigion deddfwriaethol er mwyn mynd i’r afael â nifer o faterion iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Un o’r cynigion hyn oedd cynnig i gyflwyno isafbris uned am alcohol. Wedi hynny, dyroddwyd Bil drafft Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o bum mis ym mis Gorffennaf 2015.

6.Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynhghylch yr isafbris y mae alcohol i gael ei gyflenwi amdano yng Nghymru i berson yng Nghymru ac yn sefydlu gweithdrefn orfodi a arweinir gan yr awdurdod lleol.

7.Yn y Ddeddf ceir 30 o adrannau ac Atodlen.

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 1: Isafbris am alcohol

8.Mae’r adran hon yn nodi’r fformiwla i gyfrifo’r isafbris gwerthu am alcohol.

9.Y fformiwla yw I × Cr × Cy, ac—

(a)

I yw’r isafbris uned (i gael ei bennu mewn rheoliadau);

(b)

Cr yw cryfder canrannol yr alcohol, a fynegir fel rhif prifol (felly er enghraifft os yw’r cryfder yn 5%, 5 fydd y rhif prifol perthnasol);

(c)

Cy yw cyfaint yr alcohol mewn litrau.

10.Mae is-adran (2) yn darparu, pan na fyddai’r isafbris gwerthu am yr alcohol a gyfrifir yn ôl y fformiwla hon yn rhif cyfan mewn ceiniogau, ei fod i gael ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf gan gymryd bod hanner ceiniog yn nes at y geiniog gyfan i fyny.

11.Mae’r adran yn darparu enghraifft ymarferol o gyfrifo pris potel o win a sut y mae’r isafbris i gael ei dalgrynnu. Hynny yw, pan fo’r isafbris gwerthu am y botel o win yn cael ei gyfrifo yn ôl y fformiwla fel £4.6875, byddai’n cael ei dalgrynnu i fyny i £4.69.

12.I roi enghraifft ymarferol arall o sut y byddai’r fformiwla yn gweithio, pe bai’r isafbris uned (I) wedi ei bennu mewn rheoliadau yn 50 ceiniog, byddai gan botel 3 Litr (Cy) o seidr â chryfder (Cr) o 7.5% isafbris gwerthu o £11.25 (0.5 x 7.5 x 3), sef cyfanred tair cydran y fformiwla.

13.I gael rhagor o enghreifftiau ymarferol o sut y byddai’r fformiwla yn gweithio pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi fel rhan o gynnig arbennig, gweler y nodiadau i fynd gydag adrannau 5-7.

Adran 2: Troseddau

14.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn drosedd i berson sy’n fanwerthwr alcohol gyflenwi alcohol, neu awdurdodi cyflenwi alcohol, o fangre gymhwysol yng Nghymru, i berson yng Nghymru, am bris gwerthu sy’n is na’r isafbris cymwys. Mae i’r termau “manwerthwr alcohol”, “cyflenwi alcohol” a “mangre gymhwysol” ystyr benodol at y diben hwn fel y’i nodir yn adrannau 3 a 4.

15.Mae is-adran (2) yn darparu amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o’r drosedd i ddangos iddo gymryd camau rhesymol ac arfer diwydrwydd dyladwy i osgoi ei chyflawni. Os dibynnir ar yr amddiffyniad, mae is-adran (3) yn egluro ble y mae’r baich profi. Os codir tystiolaeth ddigonol, yr erlyniad sydd â’r baich o wrthbrofi’r amddiffyniad y tu hwnt i amheuaeth resymol.

16.Mae is-adran (4) yn darparu nad yw o bwys at ddibenion y drosedd a awdurdodir cyflenwi’r alcohol yng Nghymru neu yn rhywle arall. Felly, er enghraifft, os yw manwerthwr alcohol yn Lloegr pan yw’n awdurdodi cyflenwi alcohol yn is na’r isafbris cymwys o fangre gymhwysol yng Nghymru, ac i berson yng Nghymru, bydd y manwerthwr hwnnw (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael) yn cyflawni trosedd.

17.Mae’r adran hon hefyd yn diwygio Atodlen 4 i Ddeddf Trwyddedu 2003 er mwyn ychwanegu trosedd a gyflawnir o dan y Ddeddf at y rhestr o “troseddau perthnasol” a geir yn yr Atodlen honno.

18.Arwyddocâd cynnwys trosedd yn y rhestr o ”troseddau perthnasol” yw bod awdurdod trwyddedu yn gallu ystyried euogfarn am drosedd o’r fath, oni bai ei bod wedi ei disbyddu o dan delerau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974, wrth iddo wneud penderfyniadau ynghylch rhoi neu ddirymu trwyddedau personol neu eu hatal dros dro o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Yng Nghymru, mae awdurdod trwyddedu yn gyngor sir neu’n gyngor bwrdeistref sirol.

19.Mae Deddf Trwyddedu 2003 hefyd yn gosod dyletswyddau penodol ar bersonau sydd wedi eu heuogfarnu o “trosedd berthnasol” i hysbysu’r awdurdod trwyddedu perthnasol am euogfarn o’r fath cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol (ac mae’n darparu y bydd person yn cyflawni trosedd os yw’n methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â’r gofynion hyn). Yn yr un modd, mae Deddf Trwyddedu 2003 yn gosod rhwymedigaethau penodol ar y llys mewn perthynas â “troseddau perthnasol” ac yn darparu y caiff llys hefyd orchymyn i drwydded bersonol gael ei fforffedu neu ei hatal dros dro am gyfnod nad yw’n hwy na chwe mis.

Adran 3: Ystyr “cyflenwi alcohol” a “mangre gymhwysol”

20.Mae’r adran hon yn diffinio “cyflenwi alcohol” fel gwerthu drwy fanwerthu alcohol i berson yng Nghymru, neu gyflenwi gan neu ar ran clwb i un o’i aelodau yng Nghymru, neu i berson yng Nghymru ar ran aelod o’r clwb. (Enghraifft bosibl o glwb at y diben hwn fyddai clwb rygbi neu glwb arall lle y mae aelodau wedi ymuno â’i gilydd at ddiben penodol.)

21.Mae i “gwerthu drwy fanwerthu” at y diben hwn yr un ystyr â “sale by retail” yn Neddf Trwyddedu 2003. Bydd pa un a yw trafodiad penodol sy’n ymwneud ag alcohol yn achos o “gwerthu drwy fanwerthu” yn dibynnu ar ffeithiau pob achos.

22.Diffinnir ”mangre gymhwysol” hefyd yn yr adran hon. Mae is-adran (2) yn darparu bod mangre yn “mangre gymhwysol”:-

(a)

os yw trwydded mangre o dan Ran 3 o Ddeddf Trwyddedu 2003 yn awdurdodi defnyddio’r fangre i gyflenwi alcohol (er enghraifft, mangreoedd lle y gwerthir alcohol i’r cyhoedd megis tafarndai neu archfarchnadoedd);

(b)

os yw tystysgrif mangre clwb o dan Ran 4 o Ddeddf Trwyddedu 2003 yn ardystio y caniateir i’r fangre gael ei defnyddio i gyflenwi alcohol (er enghraifft, gallai hon fod yn glwb rygbi); neu

(c)

os yw cyflenwi alcohol yn y fangre neu o’r fangre yn weithgaredd dros dro a ganiateir o dan Ran 5 o Ddeddf Trwyddedu 2003. Er enghraifft, gallai hyn fod pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi mewn gŵyl fach neu ffair stryd.

Adran 4: Ystyr “manwerthwr alcohol”

23.Mae’r adran hon yn diffinio manwerthwr alcohol mewn perthynas â phob un o’r mathau gwahanol o fangreoedd cymhwysol.

24.Pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi o fangre y mae trwydded wedi ei rhoi mewn cysylltiad â hi o dan Ran 3 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (er enghraifft, tafarn neu archfarchnad), mae pob un o’r canlynol yn fanwerthwr alcohol at ddiben y Ddeddf:

(a)

deiliad trwydded bersonol o dan Ran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003;

(b)

goruchwyliwr dynodedig y fangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

25.Mewn perthynas â chlybiau, y manwerthwr alcohol yw deiliad y dystysgrif mangre clwb (er enghraifft, y clwb).

26.Mewn perthynas â gweithgareddau dros dro, y manwerthwr alcohol yw defnyddiwr y fangre at ddiben Rhan 5 o Ddeddf Trwyddedu 2003. Er enghraifft, y person sydd wedi trefnu’r ffair stryd, os rhoddodd yr hysbysiad am weithgaredd dros dro o dan Ran 5.

Adrannau 5 i 7: Cyflenwi alcohol fel rhan o gynnig arbennig

27.Mae’r tair adran hyn yn nodi rheolau sy’n berthnasol wrth benderfynu ar yr isafbris cymwys mewn perthynas ag alcohol a gyflenwir drwy amrywiaeth o gynigion arbennig, at ddiben canfod a yw trosedd wedi ei chyflawni o dan adran 2.

28.Mae’r cynigion arbennig a nodir gan yr adrannau hyn yn dod o dan ddau gategori eang: trafodion alcohol amleitem (adran 5) ac alcohol a gyflenwir ynghyd â nwyddau eraill a gwasanaethau (adran 6). Mae adran 7 yn gwneud darpariaeth atodol ynghylch y ddau gategori hyn.

Trafodiadau alcohol amleitem (adran 5)

29.Y categori cyntaf yw “trafodiadau alcohol amleitem” a ddiffinnir gan adran 5; trafodiadau yw’r rhain a all gynnig cymelliadau i gwsmeriaid i brynu cyfeintiau uwch o alcohol nag y byddent fel arall o bosibl. Mae’r mathau hyn o fargeinion yn cynnwys cynigion “prynu un, cael un yn rhad ac am ddim”.

30.Mae’r adran hon yn gymwys pan fo rhan o’r alcohol a gyflenwid mewn trafodiad wedi ei ddisgrifio fel pe bai’n cael ei gyflenwi yn rhad ac am ddim pan oedd alcohol arall yn cael ei gyflenwi; a phan oedd alcohol yn cael ei gyflenwi am bris gostyngol neu bris penodol pan oedd yn cael ei brynu gydag alcohol arall, neu pan oedd alcohol arall eisoes wedi ei gyflenwi. Mae’n debygol y byddai’r rhan fwyaf o drafodiadau alcohol amleitem yn golygu bod cyflenwr a chwsmer yn cyfnewid arian parod unwaith, ond ni fydd hyn yn wir bob tro. Er enghraifft, gallai pris diod a brynid yn ddilynol gael ei leihau drwy gyfeirio at ddiodydd a brynid yn gynharach. Effaith yr adran hon o dan yr amgylchiadau hyn yw y bydd angen i’r ddiod a brynid yn ddilynol a’r diodydd a brynid yn gynharach oll gael eu trin fel un trafodiad ac i’r isafbris uned cymwys gael ei gyfrifo fel y nodir yn yr adran.

31.Mae adran 5 yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl alcohol a gyflenwir mewn trafodiad alcohol amleitem gael ei ystyried wrth benderfynu ar yr isafbris cymwys. Mae’r gofyniad hwn yn osgoi amheuaeth ynghylch sut y mae’r drosedd yn adran 2 yn effeithio ar achosion pan na fo gan ddogn o’r alcohol a gyflenwir mewn trafodiad unrhyw bris gwerthu y gellir ei nodi, neu pan fo ganddo bris gwerthu sydd wedi ei aflunio drwy ostyngiad.

Alcohol a gyflenwir ynghyd â nwyddau eraill a gwasanaethau (adran 6)

32.Mae’r ail o’r ddau gategori o gynigion arbennig yn cynnwys bargeinion pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi ynghyd â nwyddau ac eithrio alcohol, neu wasanaethau; naill ai pan fo’r nwyddau eraill neu’r gwasanaethau a’r alcohol yn cael eu cyflenwi am un pris penodol, neu pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi am bris gostyngol os yw nwyddau eraill neu wasanaethau yn cael eu cyflenwi.

33.Byddai adran 6(2), er enghraifft, yn gymwys pan fo coctel yn cael ei gyflenwi, gyda chymysgydd, am bris penodol (gyda’r dogn dialcoholaidd o’r coctel yn gyfystyr â nwydd ac eithrio alcohol).

34.Mae llawer o’r cynigion y bydd yr adran hon yn gymwys iddynt yn debygol o fod yn gynigion sy’n cynnwys cyflenwi alcohol ynghyd â bwyd, ond nid ydynt yn gyfyngedig i achosion o’r fath.

Cynigion arbennig: atodol (adran 7)

35.Pan fo’r alcohol a gyflenwir mewn cynnig arbennig o gryfderau gwahanol, mae adran 7(2) yn ei gwneud yn ofynnol i gyfrifiadau ar wahân gael eu gwneud i benderfynu ar yr isafbris cymwys mewn perthynas â’r cryfderau gwahanol o alcohol. Mae cyfanswm y cyfrifiadau hynny yn darparu’r isafbris cymwys.

36.Mae adran 7(3) yn sicrhau bod gofynion adran 6 yn gymwys pan fo’r alcohol a gyflenwir gyda nwyddau eraill neu wasanaethau yn cael ei ddisgrifio fel pe bai wedi ei gyflenwi yn rhad ac am ddim. Er enghraifft, cynnig pan fo prynu cyfuniad penodol o fwyd yn cynnwys potel o win “yn rhad ac am ddim”.

Enghreifftiau ymarferol o sut y mae adrannau 5 - 7 yn gymwys

37.Mae adrannau 5 a 6 o’r Ddeddf yn cynnwys enghreifftiau o sut y byddai’r isafbris cymwys yn gweithredu mewn perthynas â chynigion arbennig. Ond mae enghreifftiau ychwanegol wedi eu darparu isod.

38.Mae isafbris cymwys o £0.50 i gael ei dybio at ddibenion yr hyn sy’n dilyn.

Trafodiadau alcohol amleitem

Enghraifft 1

39.Yn achos cynnig “prynu un, cael un yn rhad am ddim”, pan fo dau focs o lager â chryfder o 4% yn cael eu disgrifio fel pe baent yn cael eu cyflenwi am bris un bocs, a chan dybio bod pob bocs yn cynnwys 10 can â chyfaint o 330 ml yr un, byddai’r ddau focs yn cael eu trin fel pe baent wedi eu cyflenwi am y pris a delir am un bocs.

40.Gan gymryd bod un bocs wedi ei gyflenwi am bris gwerthu o £14, byddai’r isafbris cymwys mewn perthynas â’r lager yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:

41.I yw £0.50; Cr yw 4 (cryfder yn ôl cyfaint y lager); Cy yw 6.6 litr (cyfanswm cyfaint yr 20 o ganiau).

41.0.5 × 4 × 6.6 = £13.20

43.Yn yr enghraifft hon, byddai’r pris gwerthu o £14 am y ddau focs yn uwch na’r isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwir, ac ni fyddai unrhyw drosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni.

Enghraifft 2

44.Pe bai 3 bocs o gwrw, lager neu seidr ar gael i’w prynu am un pris gwerthu o £30, byddai angen i’r isafbris am bob bocs gael ei gyfrifo er mwyn gweithio allan a oedd y pris gwerthu o £30 yn is na’r isafbris cymwys am y cyfuniadau gwahanol o alcohol a allai gael eu cyflenwi.

45.Gan dybio bod y bocs o gwrw yn cynnwys 10 can 440 ml â chryfder yn ôl cyfaint o 6%; bod y bocs o lager yn cynnwys 12 o ganiau 440 ml â chryfder o 4%; a bod y bocs o seidr yn cynnwys 12 o boteli 300 ml â chryfder o 5%:

46.Yr isafbris am y bocs o gwrw fyddai £13.20 (£0.50 X 6 X 4.4 litr, cyfanswm cyfaint y bocs).

47.Yr isafbris am y bocs o lager fyddai £10.56 (£0.50 X 4 X 5.28 litr).

48.Yr isafbris am y bocs o seidr fyddai £9.90 (£0.50 X 5 X 3.96 litr).

49.Pan fo cwsmer wedi dewis prynu dau focs o gwrw a bocs o seidr, yr isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwid fyddai £36.30 (sef cyfanswm yr isafbris o £26.40 am y ddau focs o gwrw a £9.90 am y seidr).

50.Felly, yn yr enghraifft hon, byddai’r pris gwerthu wedi bod yn £6.30 yn is na’r isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwid, a, chan dybio absenoldeb amddiffyniad, byddai’r manwerthwr yn agored i gael ei erlyn am gyflawni'r drosedd o dan adran 2.

51.Ond ni fyddai prynu 3 bocs o seidr gan yr un cwsmer yn arwain at y drosedd o dan adran 2, gan y byddai’r isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwid yn £29.70 (sef cyfanswm yr isafbris o £9.90 am bob bocs o seidr).

Cynigion sy’n cynnwys alcohol ynghyd â nwyddau eraill neu wasanaethau

Enghraifft

52.Pan fo tair eitem o fwyd a photel o win yn cael eu cyflenwi am un pris o £10, byddai’r pris gwerthu am y gwin yn cael ei drin fel pe bai’n £10.

53.Pe bai cyfaint y gwin yn 0.75 litr a’i gryfder yn ôl cyfaint yn 14%, yr isafbris cymwys am y gwin fyddai £5.25 (£0.50 X 14 X 0.75).

54.Yn yr enghraifft hon, byddai’r isafbris o £10 yn uwch na’r isafbris cymwys am y gwin, ac ni fyddai’r manwerthwr wedi cyflawni’r drosedd yn adran 2.

Adran 8: Cosbau

55.Mae’r adran hon yn darparu bod person sy’n euog o drosedd o dan adran 2 o’r Ddeddf hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol. Mae’r lefelau ar y raddfa safonol wedi eu nodi yn adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982.

Adran 9: Cosbau penodedig

56.Mae’r adran hon yn caniatáu i swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i berson y mae gan y swyddog hwnnw reswm dros gredu ei fod wedi cyflawni trosedd o dan adran 2 yn ardal yr awdurdod lleol.

57.Mae talu hysbysiad cosb benodedig yn rhyddhau’r person y credir ei fod wedi cyflawni trosedd o gael ei euogfarnu o’r drosedd mewn llys.

58.Mae’r adran hefyd yn cyflwyno Atodlen 1 i’r Ddeddf, sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch y cynnwys a’r weithdrefn sy’n ymwneud â hysbysiadau cosb benodedig.

Adran 10: Camau gorfodi gan awdurdodau lleol

59.Mae is-adran (1) yn darparu y caiff awdurdod lleol ddwyn erlyniadau mewn cysylltiad â throseddau o dan y Ddeddf yn ei ardal, caiff ymchwilio i gwynion mewn cysylltiad â throseddau honedig yn ei ardal a chaiff gymryd camau eraill gyda golwg ar leihau nifer y troseddau o’r fath sy’n digwydd yn ei ardal.

60.Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol ystyried, o leiaf unwaith bob blwyddyn, y graddau y mae’n briodol cynnal rhaglen o gamau gorfodi yn ei ardal, ac i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gynnal rhaglen o’r fath.

61.Mae is-adran (3) yn darparu, wrth gydymffurfio â’r gofyniad hwn, fod rhaid i awdurdodau lleol yn benodol roi sylw i wella iechyd y cyhoedd ac amddiffyn plant rhag niwed.

Adran 11: Swyddogion awdurdodedig

62.Mae’r adran hon yn esbonio bod unrhyw gyfeiriad yn y Ddeddf at swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol yn gyfeiriad at unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol.

Adran 12: Pŵer i wneud pryniannau prawf

63.Mae’r adran hon yn galluogi swyddog awdurdodedig i wneud pryniannau a threfniadau, a sicrhau’r ddarpariaeth o wasanaethau, os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon. Mae hyn yn caniatáu i bryniannau prawf, er enghraifft, ddigwydd.

Adran 13: Pwerau mynediad

64.Mae adran 13 yn galluogi swyddog awdurdodedig i fynd, ar unrhyw adeg resymol, i fangre (ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd) yng Nghymru os oes gan y swyddog seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol, a bod y swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.

65.Nid yw’r pŵer hwn i fynd i fangre yn galluogi’r swyddog awdurdodedig i fynd i fangre drwy rym.

66.Os yw’n ofynnol, rhaid i swyddog awdurdodedig ddangos tystiolaeth o’i awdurdodiad cyn mynd i’r fangre.

Adran 14: Gwarant i fynd i annedd

67.Mae’r adran hon yn darparu y caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant i alluogi swyddog awdurdodedig i fynd i fangre yng Nghymru a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd o dan amgylchiadau penodol.

68.Dim ond pan fo’r ynad heddwch wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw fod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol, a’i bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben cadarnhau a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni, y caniateir i warant gael ei dyroddi. Os oes angen caiff swyddog awdurdodedig gael mynediad drwy rym.

69.Bydd unrhyw warant o’r fath mewn grym am y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.

Adran 15: Gwarant i fynd i fangreoedd eraill

70.Mae’r adran hon yn darparu y caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant i alluogi swyddog awdurdodedig i fynd i unrhyw fangre yng Nghymru (ac eithrio mangreoedd a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel anheddau yr ymdrinnir â hwy eisoes o dan adran 14), o dan amgylchiadau penodol. Mae‘r adran yn nodi‘r amgylchiadau pan ganiateir i warant gael ei dyroddi. Os oes angen caiff swyddog awdurdodedig gael mynediad drwy rym.

Adran 16: Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad

71.Mae’r adran hon yn galluogi swyddog awdurdodedig sy’n mynd i fangre o dan adrannau 13, 14 a 15 i fynd ag unrhyw bersonau eraill neu unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn briodol. Mae’n ei gwneud yn ofynnol, os yw meddiannydd mangre yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu’r warant, fod rhaid i’r meddiannydd gael gwybod enw’r swyddog, fod rhaid i’r swyddog gyflwyno tystiolaeth ddogfennol bod y swyddog yn swyddog awdurdodedig a bod rhaid i’r swyddog gyflwyno’r warant a chyflenwi copi ohoni i’r meddiannydd. Mae’r adran hefyd yn ei gwneud yn ofynnol, os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, yna wrth adael y fangre fod rhaid i’r swyddog awdurdodedig ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.

Adran 17: Pwerau arolygu, etc.

72.Mae’r adran hon yn rhoi pwerau i swyddogion awdurdodedig sy’n mynd i fangre o dan adrannau 13, 14 a 15 i wneud amryw bethau i ganfod a yw trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni. Caiff swyddogion gynnal arolygiadau ac archwiliadau o fangre. Caiff swyddogion hefyd ofyn am eitemau, eu harolygu, cymryd samplau ohonynt a/neu fynd â‘r eitem(au) a/neu‘r samplau o‘r fangre. Er enghraifft, efallai y bydd swyddogion yn dymuno edrych ar gofnod teledu cylch cyfyng o’r fangre, cadw cynhyrchion alcoholaidd neu gymryd samplau neu echdynion o’r rhain, neu yn yr un modd gymryd dogfennau neu gopïau o ddogfennau. Caiff y swyddog awdurdodedig ddadansoddi unrhyw samplau a gymerir.

73.Caiff y swyddog hefyd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi gwybodaeth a chymorth, ond nid yw’n ofynnol i’r person hwnnw ateb unrhyw gwestiynau na chyflwyno unrhyw ddogfen y byddai ganddo hawl i wrthod eu hateb neu ei chyflwyno yn ystod achos llys yng Nghymru a Lloegr.

74.Rhaid i‘r swyddog awdurdodedig adael yn y fangre ddatganiad sy‘n rhoi manylion unrhyw eitemau sydd wedi eu cymryd, ac sy‘n nodi‘r person y caniateir gofyn iddo i‘r eiddo gael ei ddychwelyd.

Adran 18: Rhwystro etc. swyddogion

75.Mae‘r adran hon yn darparu bod person yn cyflawni trosedd os yw‘n rhwystro‘n fwriadol swyddog awdurdodedig rhag arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 13 i 17.

76.Mae person yn cyflawni trosedd os yw, heb achos rhesymol, yn methu â darparu i swyddog awdurdodedig gyfleusterau sy’n ofynnol yn rhesymol o dan adran 17(1) neu os yw’n methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 17(1)(b) neu (d) megis darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â materion o fewn rheolaeth y person hwnnw.

77.Mae person sydd wedi ei ddyfarnu’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol. Mae’r lefelau ar y raddfa safonol wedi eu nodi yn adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982.

Adran 19: Eiddo a gedwir: apelau

78.Mae‘r adran hon yn galluogi person a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth yr eir ymaith ag ef o‘r fangre gan swyddog awdurdodedig o dan adran 17(1)(c) i wneud cais i lys ynadon am orchymyn sy‘n gofyn i‘r eiddo gael ei ryddhau. Gan ddibynnu ar ystyriaeth y llys i gais, caiff wneud gorchymyn sy‘n ei gwneud yn ofynnol i‘r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.

Adran 20: Eiddo a gyfeddir: digolledu

79.Mae‘r adran hon yn darparu hawl i berson a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth y mae meddiant wedi ei gymryd ohono o dan adran 17(1)(c) i wneud cais i lys ynadon i gael ei ddigolledu. Pan fo‘r amgylchiadau a nodir yn is-adran (2) wedi eu bodloni, caiff y llys orchymyn i‘r awdurdod lleol ddigolledu‘r ceisydd. Yr amgylchiadau yw bod eiddo wedi ei gymryd; nad oedd yn angenrheidiol cymryd yr eiddo i ddarganfod a oedd trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni; bod y ceisydd wedi dioddef colled neu ddifrod o ganlyniad; ac nad oedd y golled na’r difrod yn deillio o esgeulustod neu ddiffyg y ceisydd ei hun.

Adran 21: Adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon

80.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 2 i rym, i osod gerbron y Cynulliad adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon yn ystod y cyfnod hwnnw. Ar ôl i’r adroddiad gael ei osod gerbron y Cynulliad, rhaid iddo gael ei gyhoeddi hefyd.

81.Wrth lunio eu hadroddiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru a’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Adran 22: Cyfnod para darpariaethau’r isafbris

82.Mae’r adran hon yn darparu i’r gyfundrefn isafbris a sefydlir gan y Ddeddf beidio â chael effaith ar ôl 6 mlynedd o’r dyddiad y daw adran 2 i rym, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau, cyn i’r gyfundrefn beidio â chael effaith, sy’n darparu fel arall. Ni all Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i’r effaith hon tan o leiaf 5 mlynedd ar ôl i adran 2 ddod i rym. Bydd yr adroddiad y cyfeirir ato yn adran 21 yn cael ei ystyried wrth benderfynu pa un ai i wneud rheoliadau o’r fath.

83.Os na wneir rheoliadau o’r fath erbyn diwedd 6 mlynedd, mae darpariaethau’r isafbris wedi eu diddymu.

84.Os yw darpariaethau’r isafbris wedi eu diddymu ar ôl 6 mlynedd, mae is-adran (3) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud unrhyw ddarpariaeth angenrheidiol neu hwylus o ganlyniad i’r ffaith honno. Byddai hyn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed. Felly, er enghraifft, pe bai Deddf arall yn croesgyfeirio at ddarpariaethau’r isafbris cyn iddynt gael eu diddymu, gallai’r pŵer hwn gael ei ddefnyddio i ddileu’r cyfeiriad hwnnw.

85.Mae is-adran (4) yn diffinio’r hyn a olygir gan ddarpariaethau’r isafbris at y dibenion hyn.

Adran 23: Cymhwyso i’r Goron

86.Mae’r adran hon yn darparu bod y Goron yn rhwym wrth ddarpariaethau’r Ddeddf yn yr un ffordd ag y mae’n rhwym o dan adran 195 o Ddeddf Trwyddedu 2003 wrth ddarpariaethau’r Ddeddf honno.

87.Mae hyn yn golygu y bydd darpariaethau’r Ddeddf yn gymwys i’r Goron ac i eiddo’r Goron yn ddarostyngedig i eithriadau penodol.

Adran 24: Troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig eraill

88.Mae adran 24 yn gwneud darpariaeth ynghylch dwyn achos am drosedd o dan y Ddeddf yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaethau neu gymdeithasau anghorfforedig eraill ac mewn cysylltiad â dwyn achos o‘r fath.

Adran 25: Atebolrwydd uwch-swyddogion etc.

89.Pan gyflawnir trosedd o dan y Ddeddf gan gorff corfforaethol, partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, mae’r adran hon yn ei gwneud yn bosibl, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), i unigolion sy‘n dal swyddi cyfrifol o fewn y corff, y bartneriaeth neu’r gymdeithas berthnasol (yr “uwch-swyddogion” a ddiffinnir gan yr adran) fod yn droseddol atebol hefyd am drosedd.

Adran 26: Rheoliadau

90.Mae’r adran hon yn esbonio sut y mae pwerau i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i gael eu harfer ac yn nodi’r weithdrefn gymwys sydd i gael ei dilyn wrth wneud y rheoliadau hynny.

Adran 27: Dehongli

91.Mae’r adran hon yn diffinio’r hyn a olygir gan alcohol, at ddibenion y Ddeddf. Mae hefyd yn diffinio termau allweddol eraill a ddefnyddir yn y Ddeddf, gan gynnwys “awdurdod lleol”, “cryfder” alcohol, “gwerthu drwy fanwerthu” a “mangre”.

Adran 28: Dod i rym

92.Mae’r adran hon yn nodi’r darpariaethau yn y Ddeddf a fydd yn cael effaith ar y diwrnod ar ôl dyddiad y Cydsyniad Brenhinol (sef adrannau 26 - 30); a’r rheini a fydd yn dod i rym yn unol â gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru (sef y gweddill).

Adran 29: Hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r isafbris am alcohol

93.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth o gychwyn y drefn o ran yr isafbris a gyflwynir gan y Ddeddf, cyn i’r drefn honno gychwyn. Mae’n pennu bod rhaid i’r camau hyn gynnwys hybu ymwybyddiaeth o’r risg i iechyd yn sgil goryfed a sut y bwriedir lleihau lefelau yfed alcohol yn sgil cyflwyno’r isafbris yng Nghymru.

Atodlen 1: Cosbau Penodedig

94.Mae Atodlen 1 i’r Ddeddf hon yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â chosbau penodedig.

95.Ymhlith y rhain mae cynnwys gofynnol yr hysbysiad cosb a’r cyfnodau penodedig ar gyfer talu. Mae’r Atodlen yn darparu mai swm cosb benodedig yw £200 ond y gellir lleihau hyn i £150 os telir y gosb o fewn 15 o ddiwrnodau i gael yr hysbysiad cosb benodedig. Mae hefyd yn cynnwys darpariaeth sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio swm y cosbau hynny drwy reoliadau.

96.Mae paragraffau 15 ac 16 yn galluogi person i ofyn am gael sefyll prawf am y drosedd mewn llys yn lle talu’r gosb benodedig. Mae paragraff 17 yn caniatáu i swyddogion awdurdodedig yr awdurdod dyroddi lleol dynnu hysbysiad cosb benodedig yn ôl. Mae paragraff 18 yn atal awdurdod lleol rhag defnyddio symiau a geir o hysbysiadau cosb benodedig ac eithrio at ddiben ei swyddogaethau gorfodi o dan y Ddeddf hon ac unrhyw reoliadau a wneir odani.

Cofnod Y Trafodion Yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

97.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar: http://senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=20029

CyfnodDyddiad
Cyflwynwyd23 Hydref 2017
Cyfnod 1 - Dadl13 Mawrth 2018
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau3 Mai 2018
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau12 Mehefin 2018
Cyfnod 4 Cymeradwywyd gan y Cynulliad19 Mehefin 2018
Y Cydsyniad Brenhinol9 Awst 2018

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources