ATODLEN 1COSBAU PENODEDIG
Cynnwys hysbysiad cosb penodedig
I1I191
Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
a
datgan y drosedd honedig, a
b
rhoi manylion am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd.
I2I202
Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd ddatgan—
a
enw a chyfeiriad yr awdurdod lleol y rhoddir yr hysbysiad ar ei ran;
b
swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer ei thalu;
c
y swm gostyngol a’r cyfnod ar gyfer ei dalu;
d
effaith talu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);
e
canlyniadau peidio â thalu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);
f
y person y caniateir i’r taliad gael ei wneud iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i’r taliad gael ei wneud;
g
y dull y caniateir i’r taliad gael ei wneud ynddo;
h
y person y caniateir i unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r hysbysiad gael eu cyflwyno iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i unrhyw sylwadau o’r fath gael eu cyflwyno.
I3I213
Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd—
a
hysbysu’r person y’i rhoddir iddo am hawl y person hwnnw i ofyn am gael sefyll prawf am y drosedd honedig, a
b
esbonio sut y caniateir i’r hawl honno gael ei harfer.
I4I224
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach o ran cynnwys a ffurf hysbysiad cosb benodedig.
Swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer ei thalu
I5I235
1
Swm y gosb yw £200.
2
Caiff rheoliadau ddiwygio swm y gosb.
I6I246
Y cyfnod ar gyfer talu’r gosb yw’r cyfnod o 29 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.
Y swm gostyngol a’r cyfnod ar gyfer ei dalu
I7I257
1
Mae’r swm gostyngol yn daladwy, yn lle swm y gosb, os gwneir taliad cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r swm gostyngol.
2
Y cyfnod hwnnw yw’r cyfnod o 15 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad, oni bai nad yw’r 15fed diwrnod yn ddiwrnod gwaith.
3
Os nad yw’r 15fed diwrnod yn ddiwrnod gwaith, y cyfnod hwnnw yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad ac sy’n dod i ben pan ddaw’r diwrnod gwaith cyntaf yn dilyn y 15fed diwrnod i ben.
4
Yn y paragraff hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (Banking and Financial Dealings Act 1971 (c. 80)).
I8I268
Y swm gostyngol yw £150.
I9I279
Caiff rheoliadau ddiwygio’r swm gostyngol.
Effaith hysbysiad a thalu
I10I2810
1
Ni chaniateir i achos am y drosedd y rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â hi gael ei ddwyn cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb.
2
Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r person y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wedi gofyn yn unol â pharagraffau 15 ac 16 am gael sefyll prawf am y drosedd honedig.
I11I2911
Os telir y gosb yn unol â’r hysbysiad cosb cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 10(1), ni chaniateir i achos am y drosedd gael ei ddwyn, ac nid yw paragraff 15 yn gymwys.
I12I3012
Os telir y swm gostyngol yn unol â’r hysbysiad cosb cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r swm gostyngol, ni chaniateir i achos am y drosedd gael ei ddwyn, ac nid yw paragraff 15 yn gymwys.
I13I3113
Os yw achos wedi ei ddwyn yn unol â chais o dan baragraff 15, ond yna telir y gosb neu’r swm gostyngol fel y’i crybwyllir ym mharagraff 11 neu 12, rhaid peidio â pharhau â’r achos hwnnw.
I14I3214
Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif sy’n dogfennu taliad o gosb neu swm gostyngol yn dystiolaeth o’r ffeithiau y mae’n eu datgan—
a
os yw’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan y person sy’n gyfrifol am faterion ariannol yr awdurdod lleol yr oedd y swyddog awdurdodedig a roddodd hysbysiad cosb yn gweithredu ar ei ran, neu ei bod wedi ei llofnodi ar ran y person hwnnw, a
b
os yw’n datgan bod taliad o’r gosb benodedig neu’r swm gostyngol yn unol â’r hysbysiad wedi ei gael, neu nad oedd wedi ei gael, erbyn dyddiad a bennir yn y dystysgrif.
Treial
I15I3315
Os yw’r person y mae hysbysiad cosb wedi ei roi iddo yn gofyn am gael sefyll prawf am y drosedd honedig, caniateir i achos gael ei ddwyn yn erbyn y person.
I16I3416
Rhaid i unrhyw gais i sefyll prawf gael ei wneud—
a
drwy hysbysiad a roddir i’r awdurdod lleol o dan sylw cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb;
b
yn y modd a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig.
I17I3517Tynnu hysbysiadau yn ôl
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol yn ystyried na ddylai hysbysiad cosb benodedig y mae swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ei ran wedi ei roi i berson (“P”) fod wedi ei roi.
2
Caiff yr awdurdod lleol roi hysbysiad i P sy’n tynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.
3
Os yw’n gwneud hynny—
a
rhaid iddo ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu ar ffurf cosb yn unol â’r hysbysiad cosb benodedig, a
b
ni chaniateir dwyn achos na pharhau ag achos yn erbyn P am y drosedd o dan sylw.
I18I3618Derbyniadau cosb benodedig
Ni chaiff awdurdod lleol ddefnyddio’r symiau y mae’n eu cael yn unol â hysbysiadau o dan adran 9 ond at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau’r Ddeddf hon a rheoliadau a wneir odani.