(a gyflwynir gan adran 9)
ATODLEN 1LL+CCOSBAU PENODEDIG
Cynnwys hysbysiad cosb penodedigLL+C
1Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)datgan y drosedd honedig, a
(b)rhoi manylion am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)
2Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd ddatgan—
(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod lleol y rhoddir yr hysbysiad ar ei ran;
(b)swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer ei thalu;
(c)y swm gostyngol a’r cyfnod ar gyfer ei dalu;
(d)effaith talu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);
(e)canlyniadau peidio â thalu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);
(f)y person y caniateir i’r taliad gael ei wneud iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i’r taliad gael ei wneud;
(g)y dull y caniateir i’r taliad gael ei wneud ynddo;
(h)y person y caniateir i unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r hysbysiad gael eu cyflwyno iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i unrhyw sylwadau o’r fath gael eu cyflwyno.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)
3Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd—
(a)hysbysu’r person y’i rhoddir iddo am hawl y person hwnnw i ofyn am gael sefyll prawf am y drosedd honedig, a
(b)esbonio sut y caniateir i’r hawl honno gael ei harfer.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)
4Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach o ran cynnwys a ffurf hysbysiad cosb benodedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I8Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)
Swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer ei thaluLL+C
5(1)Swm y gosb yw £200.
(2)Caiff rheoliadau ddiwygio swm y gosb.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I10Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)
6Y cyfnod ar gyfer talu’r gosb yw’r cyfnod o 29 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I12Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)
Y swm gostyngol a’r cyfnod ar gyfer ei daluLL+C
7(1)Mae’r swm gostyngol yn daladwy, yn lle swm y gosb, os gwneir taliad cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r swm gostyngol.
(2)Y cyfnod hwnnw yw’r cyfnod o 15 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad, oni bai nad yw’r 15fed diwrnod yn ddiwrnod gwaith.
(3)Os nad yw’r 15fed diwrnod yn ddiwrnod gwaith, y cyfnod hwnnw yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad ac sy’n dod i ben pan ddaw’r diwrnod gwaith cyntaf yn dilyn y 15fed diwrnod i ben.
(4)Yn y paragraff hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (Banking and Financial Dealings Act 1971 (c. 80)).
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I14Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)
8Y swm gostyngol yw £150.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I16Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)
9Caiff rheoliadau ddiwygio’r swm gostyngol.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I18Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)
Effaith hysbysiad a thaluLL+C
10(1)Ni chaniateir i achos am y drosedd y rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â hi gael ei ddwyn cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb.
(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r person y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wedi gofyn yn unol â pharagraffau 15 ac 16 am gael sefyll prawf am y drosedd honedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I20Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)
11Os telir y gosb yn unol â’r hysbysiad cosb cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 10(1), ni chaniateir i achos am y drosedd gael ei ddwyn, ac nid yw paragraff 15 yn gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I22Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)
12Os telir y swm gostyngol yn unol â’r hysbysiad cosb cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r swm gostyngol, ni chaniateir i achos am y drosedd gael ei ddwyn, ac nid yw paragraff 15 yn gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I24Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)
13Os yw achos wedi ei ddwyn yn unol â chais o dan baragraff 15, ond yna telir y gosb neu’r swm gostyngol fel y’i crybwyllir ym mharagraff 11 neu 12, rhaid peidio â pharhau â’r achos hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I26Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)
14Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif sy’n dogfennu taliad o gosb neu swm gostyngol yn dystiolaeth o’r ffeithiau y mae’n eu datgan—
(a)os yw’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan y person sy’n gyfrifol am faterion ariannol yr awdurdod lleol yr oedd y swyddog awdurdodedig a roddodd hysbysiad cosb yn gweithredu ar ei ran, neu ei bod wedi ei llofnodi ar ran y person hwnnw, a
(b)os yw’n datgan bod taliad o’r gosb benodedig neu’r swm gostyngol yn unol â’r hysbysiad wedi ei gael, neu nad oedd wedi ei gael, erbyn dyddiad a bennir yn y dystysgrif.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I28Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)
TreialLL+C
15Os yw’r person y mae hysbysiad cosb wedi ei roi iddo yn gofyn am gael sefyll prawf am y drosedd honedig, caniateir i achos gael ei ddwyn yn erbyn y person.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I30Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)
16Rhaid i unrhyw gais i sefyll prawf gael ei wneud—
(a)drwy hysbysiad a roddir i’r awdurdod lleol o dan sylw cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb;
(b)yn y modd a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I32Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)
Tynnu hysbysiadau yn ôlLL+C
17(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol yn ystyried na ddylai hysbysiad cosb benodedig y mae swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ei ran wedi ei roi i berson (“P”) fod wedi ei roi.
(2)Caiff yr awdurdod lleol roi hysbysiad i P sy’n tynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.
(3)Os yw’n gwneud hynny—
(a)rhaid iddo ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu ar ffurf cosb yn unol â’r hysbysiad cosb benodedig, a
(b)ni chaniateir dwyn achos na pharhau ag achos yn erbyn P am y drosedd o dan sylw.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I34Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)
Derbyniadau cosb benodedigLL+C
18Ni chaiff awdurdod lleol ddefnyddio’r symiau y mae’n eu cael yn unol â hysbysiadau o dan adran 9 ond at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau’r Ddeddf hon a rheoliadau a wneir odani.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I36Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)