(1)Caiff awdurdod lleol—
(a)dwyn erlyniadau mewn cysylltiad â throseddau yn ei ardal o dan y Ddeddf hon;
(b)ymchwilio i gwynion mewn cysylltiad â throseddau honedig yn ei ardal o dan y Ddeddf hon;
(c)cymryd unrhyw gamau eraill gyda golwg ar leihau nifer y troseddau sy’n digwydd yn ei ardal o dan y Ddeddf hon.
(2)Rhaid i awdurdod lleol—
(a)ystyried, o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o ddeuddeng mis, y graddau y mae’n briodol i’r awdurdod gynnal yn ei ardal raglen o gamau gorfodi mewn perthynas â’r Ddeddf hon, a
(b)i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gynnal rhaglen o’r fath.
(3)Wrth gydymffurfio ag is-adran (2), rhaid i awdurdod yn benodol roi sylw i’r amcanion a ganlyn—
(a)gwella iechyd y cyhoedd;
(b)amddiffyn plant rhag niwed.
(4)At ddibenion is-adran (2), mae rhaglen o gamau gweithredu mewn perthynas â’r Ddeddf hon yn rhaglen sy’n ymwneud â chymryd pob un neu unrhyw un neu ragor o’r camau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).