(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r bwriad i gychwyn y gofynion o ran yr isafbris a gyflwynir gan y Ddeddf hon.
(2)Rhaid i’r camau a gymerir gynnwys camau i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r risg i iechyd yn sgil goryfed, ac o sut y bwriedir lleihau lefelau yfed yn sgil cyflwyno’r isafbris am alcohol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 29 mewn grym ar 10.8.2018, gweler a. 28(1)(c)