xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rhagolygol
Yn adran 18 o Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005 (p. 11) (dyletswydd cyfrinachedd), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (i) mewnosoder—
“(ia)which is made to the Welsh Ministers, or to a person providing services to the Welsh Ministers,by virtue of regulations made under the Childcare Funding (Wales) Act 2019,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 13(2)
Rhagolygol
Yn y Ddeddf hon, ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 13(2)
Rhagolygol
Caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon roi swm gwahanol yn lle’r swm sydd wedi ei bennu am y tro yn adran 3(6).
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 13(2)
Rhagolygol
(1)Mae unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol, ac yn cynnwys pŵer i—
(a)rhoi disgresiwn i unrhyw berson,
(b)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol, ac
(c)gwneud darpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, atodol, ddarfodol, drosiannol neu arbed.
(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 13(2)
(1)Daw’r adran hon ac adran 14 i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—
(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol;
(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dwyn darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 13 mewn grym ar 31.1.2019, gweler a. 13(1)
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 14 mewn grym ar 31.1.2019, gweler a. 13(1)