xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Darpariaeth ar gyfer datgelu gwybodaeth

3Gofyniad i rieni etc. ddarparu gwybodaeth

(1)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau neu wybodaeth a bennir yn y rheoliadau, neu sydd o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau, i Weinidogion Cymru neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru.

(2)Ond ni chaniateir i ofyniad gael ei osod ar berson yn rhinwedd yr adran hon oni bai bod y person wedi gwneud, neu ei fod yn gwneud, ddatganiad o dan adran 1(3)(d).

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i gosb gael ei gosod ar berson sy’n darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn cysylltiad â gofyniad a osodir yn rhinwedd yr adran hon.

(4)Yn is-adran (3) ystyr “anwir neu gamarweiniol” yw anwir neu gamarweiniol mewn manylyn perthnasol.

(5)Ond nid yw person yn agored i gosb yn rhinwedd yr adran hon mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi ei euogfarnu o drosedd mewn perthynas ag ef.

(6)Uchafswm unrhyw gosb y caniateir iddi gael ei phennu neu ei phenderfynu yn unol â’r rheoliadau yn rhinwedd is-adran (3) yw £3,000.

4Darparu gwybodaeth gan drydydd partïon

(1)Caiff y rheoliadau ganiatáu i Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, neu berson sy’n darparu gwasanaethau i’r Comisiynwyr, ddarparu gwybodaeth gymhwysol i Weinidogion Cymru neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru.

(2)Caiff y rheoliadau hefyd ganiatáu i adran o’r llywodraeth neu i un o Weinidogion y Goron, neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i adran o’r llywodraeth neu i un o Weinidogion y Goron, ddarparu gwybodaeth gymhwysol i Weinidogion Cymru neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru.

(3)Caiff y rheoliadau ganiatáu neu ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i awdurdod lleol, ddarparu gwybodaeth gymhwysol i Weinidogion Cymru, neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru.

(4)Ystyr “gwybodaeth gymhwysol” yw gwybodaeth a bennir yn y rheoliadau neu sydd o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau; ond ni chaiff gwybodaeth na disgrifiad o wybodaeth gael ei phennu neu ei bennu felly ond os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny at ddibenion penderfyniadau o ran cymhwystra i gael cyllid o dan adran 1.

(5)Ni chaniateir gwneud darpariaeth yn y rheoliadau ar gyfer datgelu gwybodaeth a gedwir gan—

(a)Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;

(b)un o Weinidogion y Goron;

(c)adran o’r llywodraeth;

(d)person sy’n darparu gwasanaethau i berson a grybwyllir ym mharagraff (a), (b), neu (c),

ond os yw’r Gweinidog priodol wedi cydsynio â’r ddarpariaeth.

(6)Y Gweinidog priodol yw—

(a)mewn perthynas â Chomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, y Trysorlys;

(b)mewn perthynas ag un o Weinidogion y Goron neu adran o’r llywodraeth, yr Ysgrifennydd Gwladol.

5Datgelu ymlaen wybodaeth sydd wedi ei datgelu yn rhinwedd adran 3 neu 4

(1)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer datgelu ymlaen wybodaeth sydd wedi cael ei datgelu yn rhinwedd adran 3 neu 4.

(2)Ond mae is-adran (3) yn gymwys yn achos gwybodaeth sydd wedi ei datgelu yn unol â darpariaeth y mae’r Gweinidog priodol wedi cydsynio â hi o dan adran 4(5).

(3)Ni chaiff y rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer datgelu ymlaen yr wybodaeth ond os yw’r Gweinidog priodol (o fewn ystyr adran 4) wedi cydsynio â’r ddarpariaeth ar gyfer datgelu ymlaen.

(4)Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth sy’n creu troseddau mewn cysylltiad â datgelu ymlaen wybodaeth sy’n ymwneud â pherson penodol.

(5)Os yw’r rheoliadau yn creu trosedd mewn perthynas â datgelu ymlaen wybodaeth, ni chaiff darpariaeth a wneir ar gyfer unrhyw gosb o garchar ar euogfarn ar dditiad bennu cyfnod o garchar sy’n hwy na dwy flynedd (pa un a yw’n dod gyda dirwy ai peidio).