C1RHAN 1TROSOLWG

Annotations:

I1I34C11C1Trosolwg o’r Ddeddf

1

Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau’r Ddeddf hon.

2

Mae Rhan 2 yn ei gwneud yn drosedd i landlord neu asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol i daliadau penodol gael eu gwneud, neu i gamau penodol eraill gael eu cymryd yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol.

3

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch ad-dalu blaendaliadau cadw (fel y’u diffinnir yn Atodlen 1).

4

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch gorfodaeth, gan gynnwys darpariaeth ynghylch pwerau i wneud gwybodaeth yn ofynnol, a chosbau penodedig.

5

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adennill taliadau a waherddir gan y Ddeddf hon, a blaendaliadau cadw a gedwir yn ôl yn groes i’r Ddeddf hon.

6

Mae Rhan 6 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau mewn perthynas â rhoi cyhoeddusrwydd i ffioedd penodol a godir gan asiantiaid gosod eiddo.

7

Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth gyffredinol, gan gynnwys darpariaeth ynghylch y gofynion gweithdrefnol ar gyfer gwneud rheoliadau, ac ynghylch cymhwyso i’r Goron.

C2RHAN 2GWAHARDD TALIADAU PENODOL ETC.

Annotations:

I2I35C22C2Gwaharddiadau sy’n gymwys i landlordiaid

1

Mae’n drosedd i landlord ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig gael ei wneud i’r landlord, neu i unrhyw berson arall—

a

yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu

b

yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r taliad gael ei wneud.

2

Mae’n drosedd i landlord ei gwneud yn ofynnol i berson ymrwymo i gontract am wasanaethau gyda’r landlord, neu gydag unrhyw berson arall—

a

yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu

b

yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol ymrwymo i’r contract am wasanaethau.

3

Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r contract am wasanaethau o dan sylw yn darparu i wasanaethau gael eu darparu gan berson y mae’r contract meddiannaeth safonol yn rhoi’r hawl iddo feddiannu annedd, neu y byddai’n rhoi’r hawl iddo feddiannu annedd (pa un a yw’r contract am wasanaethau hefyd yn darparu i unrhyw berson arall ddarparu gwasanaethau ai peidio).

4

Mae’n drosedd i landlord ei gwneud yn ofynnol bod benthyciad yn cael ei roi i’r landlord, neu i unrhyw berson arall—

a

yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu

b

yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r benthyciad gael ei roi.

5

Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

6

Caiff y llys sy’n euogfarnu person (“y troseddwr”) o drosedd o dan is-adran (1) orchymyn i’r troseddwr dalu swm y taliad o dan sylw neu (mewn achos pan fo rhan o’r taliad wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r taliad i’r person a’i talodd.

I3I36C23C2Gwaharddiadau sy’n gymwys i asiantiaid gosod eiddo

1

Mae’n drosedd i asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig gael ei wneud i’r asiant gosod eiddo, neu i unrhyw berson arall—

a

yn gydnabyddiaeth am drefnu i roi neu adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am drefnu i barhau â chontract o’r fath, neu

b

yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r taliad gael ei wneud.

2

Mae’n drosedd i asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol i berson ymrwymo i gontract am wasanaethau gyda’r asiant gosod eiddo, neu gydag unrhyw berson arall—

a

yn gydnabyddiaeth am drefnu i roi neu adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am drefnu i barhau â chontract o’r fath, neu

b

yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol ymrwymo i’r contract am wasanaethau.

3

Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r contract am wasanaethau o dan sylw yn gontract rhwng landlord ac asiant gosod eiddo yn unig, mewn cysylltiad â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo y mae’r asiant i ymgymryd ag ef ar ran y landlord.

4

Mae’n drosedd i asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol bod benthyciad yn cael ei roi i’r asiant gosod eiddo, neu i unrhyw berson arall—

a

yn gydnabyddiaeth am drefnu i roi neu adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am drefnu i barhau â chontract o’r fath, neu

b

yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r benthyciad gael ei roi.

5

Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

6

Caiff y llys sy’n euogfarnu person (“y troseddwr”) o drosedd o dan is-adran (1) orchymyn i’r troseddwr dalu swm y taliad o dan sylw neu (mewn achos pan fo rhan o’r taliad wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r taliad i’r person a’i talodd.

I4I37C24C2Taliadau gwaharddedig a thaliadau a ganiateir

1

Mae unrhyw daliad o arian yn daliad gwaharddedig oni bai—

a

ei fod yn daladwy gan landlord i asiant gosod eiddo mewn cysylltiad â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo y mae’r asiant yn ymgymryd ag ef ar ran y landlord, neu

b

ei fod yn daliad a ganiateir yn rhinwedd Atodlen 1.

2

Mae’r Atodlen honno yn gwneud darpariaeth ynghylch—

a

rhent;

b

blaendaliadau sicrwydd;

c

blaendaliadau cadw;

d

diffygdaliadau;

e

taliadau mewn cysylltiad â’r dreth gyngor;

f

taliadau mewn cysylltiad â chyfleustodau;

g

taliadau mewn cysylltiad â thrwydded deledu;

h

taliadau mewn cysylltiad â gwasanaethau cyfathrebu.

F1i

taliadau gwasanaeth;

F2j

taliadau mewn cysylltiad â chopïau pellach o ddatganiad ysgrifenedig

I5I38C25C2Telerau contract nad ydynt yn rhwymo

1

Nid yw teler mewn contract meddiannaeth safonol yn rhwymo deiliad contract i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig gael ei wneud, neu i ymrwymo i gontract am wasanaethau, neu i fenthyciad gael ei wneud, fel a ddisgrifir yn adran 2 neu 3.

2

Ond mae’r contract yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall.

I6I39C26C2Cymhwyso adrannau 2 i 5 i ofynion a chontractau sydd eisoes yn bodoli

Nid yw adrannau 2 i 5 yn gymwys mewn cysylltiad ag—

a

gofyniad a osodir cyn i’r Rhan hon ddod i rym;

F4b

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

I7I40C27C2Pŵer i ddiwygio’r diffiniad o “taliad a ganiateir”

1

Caiff rheoliadau ddiwygio’r Ddeddf hon at ddibenion ychwanegu, addasu neu ddileu cyfeiriad yn Atodlen 1 at gategori o daliad.

2

Ond nid yw’r pŵer yn is-adran (1) yn estyn i ddileu talu rhent o’r categorïau o daliad sy’n daliadau a ganiateir o dan y Ddeddf hon.

I8I41C28C2Ystyr “asiant gosod eiddo”, “gwaith gosod” a “gwaith rheoli eiddo”

At ddibenion y Rhan hon a Rhannau 3 i 5—

  • ystyr “asiant gosod eiddo” (“letting agent”) yw person sy’n ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo (pa un a yw’r person hwnnw’n ymgymryd â gwaith arall ai peidio);

  • mae i “gwaith gosod” (“lettings work”) a “gwaith rheoli eiddo” (“property management work”) yr un ystyron ag yn Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (gweler adrannau 10 a 12 o’r Rhan honno).

C3RHAN 3TRIN BLAENDALIADAU CADW

Annotations:

I9I42C39C3Trin blaendaliadau cadw

1

Mae taliad sy’n daliad a ganiateir yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 1 (sy’n caniatáu talu blaendaliadau cadw) i’w drin fel pe bai wedi ei wneud yn unol â’r telerau a nodir yn Atodlen 2.

2

Nid yw is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â thaliad a wneir cyn i Atodlen 2 ddod i rym.

C4RHAN 4GORFODAETH

Annotations:

Pwerau awdurdod gorfodi i wneud gwybodaeth etc. yn ofynnol

I10I43C410C4Pŵer i wneud dogfennau neu wybodaeth yn ofynnol

1

Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi arfer y pwerau a roddir gan is-adrannau (2) a (3) mewn perthynas â dogfennau neu wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod at ddiben ymchwilio i ba un a gyflawnwyd unrhyw drosedd o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd sydd wedi ei lleoli yn ardal yr awdurdod gorfodi.

2

Caiff swyddog awdurdodedig roi hysbysiad i berson o fewn is-adran (4) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gyflwyno, ar amser, mewn lleoliad, ac i berson a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw ddogfennau—

a

a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, neu sydd o fewn categori o ddogfen a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, a

b

sydd yng ngwarchodaeth y person neu o dan reolaeth y person.

3

Caiff swyddog awdurdodedig roi hysbysiad i berson o fewn is-adran (4) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu, ar ffurf ac mewn modd a bennir yn yr hysbysiad, ac ar amser, mewn lle ac i berson a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw wybodaeth—

a

a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, neu sydd o fewn categori o wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad, a

b

sy’n hysbys i’r person.

4

Y personau o fewn yr adran hon yw—

a

person sy’n landlord o dan gontract meddiannaeth safonol neu sydd wedi bod yn landlord o dan gontract o’r fath;

b

person sy’n ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth safonol, neu sydd wedi bod yn ddeiliad contract o dan gontract o’r fath;

c

person sy’n asiant gosod eiddo neu sydd wedi bod yn asiant o’r fath.

5

Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) gynnwys gwybodaeth ynghylch canlyniadau posibl peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad.

6

Caiff person y cyflwynir unrhyw ddogfen iddo yn unol â hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) wneud copi o’r ddogfen.

7

Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan yr adran hon i unrhyw berson gyflwyno unrhyw ddogfen neu ddarparu unrhyw wybodaeth y byddai gan y person hawl i wrthod ei chyflwyno neu ei darparu, mewn achos yn yr Uchel Lys, ar sail braint broffesiynol gyfreithiol.

8

Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy, ac mewn perthynas â gwybodaeth a gofnodir felly, mae unrhyw gyfeiriad at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy.

I11I44C411C4Trosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad o dan adran 10

1

Mae’n drosedd i berson fethu â gwneud unrhyw beth y mae’n ofynnol i’r person ei wneud gan hysbysiad o dan adran 10.

2

Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (1) mae’n amddiffyniad bod gan y person esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

3

Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.

4

Mae’n drosedd i berson fynd ati’n fwriadol i newid, i atal neu i ddinistrio unrhyw ddogfen yr oedd yn ofynnol i’r person ei chyflwyno gan hysbysiad o dan adran 10.

5

Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

6

Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy ac mewn perthynas â gwybodaeth a gofnodir felly—

a

mae’r cyfeiriad yn is-adran (4) at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy, a

b

mae’r cyfeiriad yn yr is-adran honno at atal dogfen yn cynnwys cyfeiriad at ddinistrio’r modd o atgynhyrchu’r wybodaeth.

I12I45C412C4Trosedd o ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn perthynas â hysbysiad o dan adran 10

1

Mae’n drosedd i berson y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 10, gan honni cydymffurfio â’r hysbysiad, ddarparu gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol, os yw’r person—

a

yn gwybod bod yr wybodaeth a ddarperir yn anwir neu’n gamarweiniol, neu

b

yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol.

2

Mae’n drosedd i berson ddarparu gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol, os yw’r person—

a

yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu’n ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol, a

b

yn gwybod bod yr wybodaeth i’w defnyddio at ddiben darparu gwybodaeth gan honni cydymffurfio â gofynion hysbysiad a roddir i berson arall o dan adran 10.

3

Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

4

Yn yr adran hon, ystyr “anwir neu gamarweiniol” yw’n anwir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw fater perthnasol.

Hysbysiadau cosb benodedig

I13I46C413C4Hysbysiadau cosb benodedig

1

Pan fo gan swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi reswm i gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 2 neu 3 yn ardal yr awdurdod, caiff y swyddog roi hysbysiad cosb benodedig i’r person hwnnw mewn cysylltiad â’r drosedd.

2

Hysbysiad cosb benodedig, at ddibenion is-adran (1), yw hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i berson ryddhau unrhyw atebolrwydd i gael euogfarn am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef drwy dalu cosb o £1000.

3

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau roi swm gwahanol yn lle’r swm a bennir am y tro yn is-adran (2).

4

Mae hysbysiad cosb benodedig a roddir o dan yr adran hon i’w drin fel pe bai wedi ei roi o dan adran 29 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) at ddibenion is-adrannau (2), (3) a (6) i (8) o’r adran honno (darpariaeth ynghylch sut y rhoddir hysbysiadau cosb benodedig) ac at y diben hwn mae’r cyfeiriad at “yr awdurdod trwyddedu” yn is-adran (8)(a) o’r adran honno i’w drin fel pe bai’n gyfeiriad at yr awdurdod gorfodi o dan sylw.

5

Ni chaniateir i dderbyniadau cosb benodedig a geir gan awdurdod gorfodi yn rhinwedd yr adran hon gael eu defnyddio heblaw at ddiben swyddogaethau’r awdurdod sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau’r Ddeddf hon.

Hysbysiad am euogfarn i awdurdod trwyddedu

I14I47C414C4Dyletswydd awdurdod tai lleol i hysbysu awdurdod trwyddedu am euogfarn

1

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dod yn ymwybodol bod person wedi ei euogfarnu am drosedd o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd yn ei ardal, rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio ag is-adran (2).

2

Rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad am yr euogfarn i’r awdurdod trwyddedu a ddynodir o dan adran 3 o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7), neu, os oes mwy nag un awdurdod trwyddedu wedi ei ddynodi felly, i bob un o’r awdurdodau hynny.

3

Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol roi hysbysiad am euogfarn i awdurdod trwyddedu os cafodd yr achos a arweiniodd at yr euogfarn ei ddwyn gan yr awdurdod trwyddedu o dan adran 19.

Canllawiau

I15I48C415C4Dyletswydd i roi sylw i ganllawiau

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon rhaid i awdurdod gorfodi roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Ystyr “swyddog awdurdodedig” yn y Rhan hon

I16I49C416C4Ystyr “swyddog awdurdodedig”

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi yn gyfeiriad at berson (pa un a yw’n swyddog i’r awdurdod ai peidio) sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan yr awdurdod at ddibenion y Rhan hon.

Yr awdurdod gorfodi at ddibenion y Rhan hon

I17I50C417C4Awdurdodau gorfodi

1

At ddibenion y Rhan hon, yr awdurdod gorfodi mewn perthynas ag ardal awdurdod tai lleol yw pob un o’r canlynol—

a

yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal, a

b

yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal.

2

Ond ni chaiff awdurdod trwyddedu sydd, yn rhinwedd is-adran (1)(b), yn awdurdod gorfodi ar gyfer ardal awdurdod tai lleol, arfer unrhyw swyddogaeth awdurdod gorfodi mewn perthynas â’r ardal honno, na dwyn achos o dan adran 19 mewn perthynas â’r ardal honno, heb gael cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal.

3

Caniateir i gydsyniad o dan is-adran (2) gael ei roi yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu swyddogaethau penodol.

4

At ddibenion yr adran hon, ystyr “awdurdod trwyddedu” yw person sydd wedi ei ddynodi’n awdurdod trwyddedu o dan adran 3 o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

5

Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ardal awdurdod gorfodi yn gyfeiriadau at yr ardal y mae’n awdurdod gorfodi ar ei chyfer, neu’r ardaloedd y mae’n awdurdod gorfodi ar eu cyfer, yn ôl y digwydd.

Rhannu gwybodaeth a’r pŵer i ddwyn achos troseddol

I18I51C418C4Darparu a defnyddio gwybodaeth gan awdurdodau gorfodi

1

Os yw awdurdod gorfodi yn gofyn am wybodaeth gan awdurdod gorfodi arall, rhaid i’r awdurdod arall hwnnw gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod yn ystyried y byddai gwneud hynny yn anghydnaws ag arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n arferadwy ar wahân i fod o dan y Rhan hon).

2

Yr wybodaeth y gellir gofyn amdani gan awdurdod gorfodi o dan is-adran (1) yw gwybodaeth y mae’r awdurdod hwnnw wedi ei chael—

a

o dan yr adran hon, a

b

fel arall wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

3

Caiff awdurdod gorfodi ddefnyddio gwybodaeth o fewn is-adran (5)(a), (b) neu (c) at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon.

4

Yn ogystal â hynny, caiff awdurdod gorfodi ddefnyddio gwybodaeth o fewn is-adran (5)(a) neu (b) at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (“Deddf 2014”).

5

Yr wybodaeth yw honno—

a

sydd wedi ei darparu iddo gan awdurdod gorfodi arall o dan is-adran (1);

b

y mae’r awdurdod gorfodi wedi ei chael fel arall wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon;

c

y mae ganddo, yn rhinwedd adran 36 o Ddeddf 2014, ganiatâd i’w defnyddio at ddibenion sy’n gysylltiedig ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno.

6

Nid yw adran 17(2) yn gymwys mewn perthynas â’r swyddogaethau a roddir i awdurdod gorfodi gan yr adran hon.

I19I52C419C4Pŵer awdurdod trwyddedu i ddwyn achos troseddol

Caiff awdurdod gorfodi sy’n awdurdod trwyddedu ddwyn achos troseddol mewn cysylltiad â throsedd yr honnir iddi gael ei chyflawni o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd sydd wedi ei lleoli yn ei ardal (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 17(2)).

Cyfyngiadau ar derfynu gan landlord gontractau meddiannaeth safonol

I2020F3Cyfyngiadau ar derfynu contractau meddiannaeth safonol

Mae Atodlen 9A i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) yn cynnwys darpariaeth yn ymwneud â chontractau meddiannaeth safonol sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad yn ceisio meddiant o annedd o dan adran 173 neu 186 o’r Ddeddf honno, neu o dan gymal terfynu’r landlord, os nad yw’r landlord wedi cydymffurfio â darpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n ymwneud â thaliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw a gedwir.

Canllawiau i awdurdod trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014

I21I31C421C4Diwygio adran 41 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014

Yn adran 41 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (canllawiau o dan Ran 1 o’r Ddeddf), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

2A

Caiff canllawiau a roddir i awdurdod trwyddedu gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch materion sydd i’w hystyried gan awdurdod trwyddedu wrth benderfynu a yw methiant i ad-dalu swm unrhyw daliad gwaharddedig neu flaendal cadw (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) yn effeithio ar addasrwydd person i gael ei drwyddedu o dan y Rhan hon.

C5RHAN 5ADENNILL SWM GAN DDEILIAD Y CONTRACT

Annotations:

I22I53C522C5Adennill taliad gwaharddedig neu flaendal cadw

1

Caiff person (yr “hawlydd”) wneud cais i’r llys sirol i adennill swm—

a

unrhyw daliad gwaharddedig a wnaed gan yr hawlydd, neu ar ei ran, mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol;

b

unrhyw flaendal cadw a dalwyd gan yr hawlydd, neu ar ei ran, mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol.

2

Caiff llys y gwneir cais iddo o dan is-adran (1)(a), os yw’r llys wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol—

a

bod taliad gwaharddedig wedi ei wneud gan yr hawlydd, neu ar ei ran, a

b

bod y taliad cyfan hwnnw eto i’w dalu i’r hawlydd, neu fod rhan o’r taliad hwnnw eto i’w thalu iddo,

orchymyn ad-dalu i’r hawlydd, yn unol â’r gorchymyn, swm y taliad neu (mewn achos pan fo rhan o’r taliad wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r taliad.

3

Caiff llys y gwneir cais iddo o dan is-adran (1)(b), os yw’r llys wedi ei fodloni, yn ôl pwysau tebygolrwydd—

a

bod blaendal cadw wedi ei dalu gan yr hawlydd neu ar ei ran, a

b

y methwyd ag ad-dalu’r blaendal cadw cyfan, neu ran ohono, i’r hawlydd yn unol ag Atodlen 2,

orchymyn ad-dalu i’r hawlydd, yn unol â’r gorchymyn, swm y blaendal cadw neu (mewn achos pan fo rhan o’r blaendal cadw wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r blaendal cadw.

4

Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys mewn perthynas â thaliad gwaharddedig os yw achos troseddol wedi ei gychwyn yn rhinwedd adran 2 neu 3 mewn cysylltiad â’r taliad hwnnw, oni bai bod yr achos hwnnw wedi ei derfynu.

5

Ni chaiff gorchymyn o dan is-adran (2) neu (3) wneud ad-dalu swm yn ofynnol, os yw’r swm hwnnw wedi ei roi tuag at dalu rhent, neu’r blaendal sicrwydd, o dan y contract meddiannaeth safonol o dan sylw.

RHAN 6RHOI CYHOEDDUSRWYDD I FFIOEDD ASIANTIAID GOSOD EIDDO

I23I3323Rhoi cyhoeddusrwydd i ffioedd asiantiaid gosod eiddo

1

Caiff rheoliadau ddiwygio Pennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (c. 15) (dyletswydd i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd etc.)—

a

i’w gwneud yn ofynnol i asiant gosod eiddo sicrhau bod unrhyw hysbysebwr ar-lein yn rhoi cyhoeddusrwydd i ffioedd perthnasol yr asiant, i’r graddau y mae’r ffioedd hynny’n ymwneud ag anhedd-dai yng Nghymru;

b

i ganiatáu i fwy nag un gosb gael ei gosod ar asiant gosod eiddo mewn perthynas â’r un achos o dorri dyletswydd yn y Bennod honno, i’r graddau y mae’r toriad yn ymwneud ag anhedd-dai yng Nghymru.

2

Yn yr adran hon—

a

ystyr “hysbysebwr ar-lein”, mewn perthynas ag asiant gosod eiddo, yw person sy’n hysbysebu, ar y fewnrwyd, wasanaethau y mae’r asiant yn eu cynnig mewn perthynas ag anhedd-dai yng Nghymru;

b

mae i “anhedd-dy”, “asiant gosod eiddo” a “ffioedd perthnasol” yr un ystyron â “dwelling-house”, “letting agent” a “relevant fees” ym Mhennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015.

C6RHAN 7DARPARIAETHAU TERFYNOL

Annotations:

I24I54C624C6Gofyniad i awdurdod tai lleol hyrwyddo ymwybyddiaeth o effaith y Ddeddf

1

Rhaid i awdurdod tai lleol wneud trefniadau i wybodaeth fod ar gael yn gyhoeddus yn ei ardal, ym mha ffordd bynnag y mae’r awdurdod yn meddwl sy’n briodol, am effaith y Ddeddf hon, gan gynnwys sut y gellir adennill taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw.

2

Wrth wneud trefniadau at ddibenion yr adran hon, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

F5C625C6Pŵer i wneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â thenantiaethau sicr

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

I25I55C626C6Troseddau gan gyrff corfforaethol

1

Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod, ar ran—

a

uwch-swyddog i’r corff corfforaethol, neu

b

person sy’n honni ei fod yn uwch-swyddog i’r corff corfforaethol,

mae’r uwch-swyddog neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael achos llys yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

2

Yn is-adran (1), ystyr “uwch-swyddog” yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforaethol.

3

Ond yn achos corff corfforaethol y mae ei aelodau yn rheoli ei faterion, ystyr “cyfarwyddwr” at ddibenion yr adran hon yw aelod o’r corff corfforaethol.

I26I56C627C6Rheoliadau

1

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

2

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

a

i wneud darpariaethau gwahanol at ddibenion gwahanol;

b

i wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed.

3

Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 7, adran 13 neu baragraffau 2 neu 6 o Atodlen 1 (pa un a yw’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth arall o’r Ddeddf hon ai peidio) gael ei wneud oni bai bod drafft o’r rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

4

Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

I27I57C628C6Dehongli

Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “annedd” (“dwelling”) yr un ystyr ag yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (y cyfeirir ati yn yr adran hon fel “Deddf 2016”);

  • ystyr “awdurdod tai lleol” (“local housing authority”) yw’r cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • mae i “blaendal cadw” (“holding deposit”) yr ystyr a roddir yn Atodlen 1;

  • mae i “blaendal sicrwydd” (“security deposit”) yr ystyr a roddir yn Atodlen 1;

  • ystyr “contract meddiannaeth safonol” (“standard occupation contract”) yw contract sy’n gontract safonol at ddibenion Deddf 2016;

  • mae i “deiliad contract” (“contract-holder”) yr un ystyr ag yn Neddf 2016;

  • mae i “landlord” (“landlord”) yr un ystyr ag yn Neddf 2016; ac os oes dau neu ragor o bersonau yn landlord ar y cyd, mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y landlord yn gyfeiriadau at bob un o’r personau hynny;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • mae i “taliad gwaharddedig” (“prohibited payment”) yr ystyr a roddir yn adran 4.

I28I32C629C6Cymhwyso i’r Goron

1

Mae’r Ddeddf hon yn gymwys i’r Goron.

2

Nid yw unrhyw achos o dorri unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon yn gwneud y Goron yn atebol yn droseddol, ond caiff yr Uchel Lys ddatgan bod unrhyw weithred neu anweithred ar ran y Goron sy’n gyfystyr â thoriad o’r fath yn anghyfreithlon.

I2930C6Dod i rym

1

Mae’r adran hon ac adran 31 yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

2

Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

3

Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

a

pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

b

gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed.

Annotations:
Commencement Information
I29

A. 30 mewn grym ar 16.5.2019, gweler a. 30(1)

I3031C6Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019.