- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol.
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019, RHAN 4.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 4 applied (ynghyd â modifications) (1.9.2019) by Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Darpariaeth Drosiannol ar gyfer Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr) 2019 (O.S. 2019/1151), rhlau. 1(2), 3
(1)Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi arfer y pwerau a roddir gan is-adrannau (2) a (3) mewn perthynas â dogfennau neu wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod at ddiben ymchwilio i ba un a gyflawnwyd unrhyw drosedd o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd sydd wedi ei lleoli yn ardal yr awdurdod gorfodi.
(2)Caiff swyddog awdurdodedig roi hysbysiad i berson o fewn is-adran (4) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gyflwyno, ar amser, mewn lleoliad, ac i berson a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw ddogfennau—
(a)a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, neu sydd o fewn categori o ddogfen a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, a
(b)sydd yng ngwarchodaeth y person neu o dan reolaeth y person.
(3)Caiff swyddog awdurdodedig roi hysbysiad i berson o fewn is-adran (4) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu, ar ffurf ac mewn modd a bennir yn yr hysbysiad, ac ar amser, mewn lle ac i berson a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw wybodaeth—
(a)a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, neu sydd o fewn categori o wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad, a
(b)sy’n hysbys i’r person.
(4)Y personau o fewn yr adran hon yw—
(a)person sy’n landlord o dan gontract meddiannaeth safonol neu sydd wedi bod yn landlord o dan gontract o’r fath;
(b)person sy’n ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth safonol, neu sydd wedi bod yn ddeiliad contract o dan gontract o’r fath;
(c)person sy’n asiant gosod eiddo neu sydd wedi bod yn asiant o’r fath.
(5)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) gynnwys gwybodaeth ynghylch canlyniadau posibl peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad.
(6)Caiff person y cyflwynir unrhyw ddogfen iddo yn unol â hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) wneud copi o’r ddogfen.
(7)Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan yr adran hon i unrhyw berson gyflwyno unrhyw ddogfen neu ddarparu unrhyw wybodaeth y byddai gan y person hawl i wrthod ei chyflwyno neu ei darparu, mewn achos yn yr Uchel Lys, ar sail braint broffesiynol gyfreithiol.
(8)Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy, ac mewn perthynas â gwybodaeth a gofnodir felly, mae unrhyw gyfeiriad at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I2A. 10 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)
(1)Mae’n drosedd i berson fethu â gwneud unrhyw beth y mae’n ofynnol i’r person ei wneud gan hysbysiad o dan adran 10.
(2)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (1) mae’n amddiffyniad bod gan y person esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad.
(3)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.
(4)Mae’n drosedd i berson fynd ati’n fwriadol i newid, i atal neu i ddinistrio unrhyw ddogfen yr oedd yn ofynnol i’r person ei chyflwyno gan hysbysiad o dan adran 10.
(5)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
(6)Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy ac mewn perthynas â gwybodaeth a gofnodir felly—
(a)mae’r cyfeiriad yn is-adran (4) at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy, a
(b)mae’r cyfeiriad yn yr is-adran honno at atal dogfen yn cynnwys cyfeiriad at ddinistrio’r modd o atgynhyrchu’r wybodaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I4A. 11 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)
(1)Mae’n drosedd i berson y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 10, gan honni cydymffurfio â’r hysbysiad, ddarparu gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol, os yw’r person—
(a)yn gwybod bod yr wybodaeth a ddarperir yn anwir neu’n gamarweiniol, neu
(b)yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol.
(2)Mae’n drosedd i berson ddarparu gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol, os yw’r person—
(a)yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu’n ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol, a
(b)yn gwybod bod yr wybodaeth i’w defnyddio at ddiben darparu gwybodaeth gan honni cydymffurfio â gofynion hysbysiad a roddir i berson arall o dan adran 10.
(3)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
(4)Yn yr adran hon, ystyr “anwir neu gamarweiniol” yw’n anwir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw fater perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I6A. 12 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)
(1)Pan fo gan swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi reswm i gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 2 neu 3 yn ardal yr awdurdod, caiff y swyddog roi hysbysiad cosb benodedig i’r person hwnnw mewn cysylltiad â’r drosedd.
(2)Hysbysiad cosb benodedig, at ddibenion is-adran (1), yw hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i berson ryddhau unrhyw atebolrwydd i gael euogfarn am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef drwy dalu cosb o £1000.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau roi swm gwahanol yn lle’r swm a bennir am y tro yn is-adran (2).
(4)Mae hysbysiad cosb benodedig a roddir o dan yr adran hon i’w drin fel pe bai wedi ei roi o dan adran 29 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) at ddibenion is-adrannau (2), (3) a (6) i (8) o’r adran honno (darpariaeth ynghylch sut y rhoddir hysbysiadau cosb benodedig) ac at y diben hwn mae’r cyfeiriad at “yr awdurdod trwyddedu” yn is-adran (8)(a) o’r adran honno i’w drin fel pe bai’n gyfeiriad at yr awdurdod gorfodi o dan sylw.
(5)Ni chaniateir i dderbyniadau cosb benodedig a geir gan awdurdod gorfodi yn rhinwedd yr adran hon gael eu defnyddio heblaw at ddiben swyddogaethau’r awdurdod sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau’r Ddeddf hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I8A. 13 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)
(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dod yn ymwybodol bod person wedi ei euogfarnu am drosedd o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd yn ei ardal, rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio ag is-adran (2).
(2)Rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad am yr euogfarn i’r awdurdod trwyddedu a ddynodir o dan adran 3 o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7), neu, os oes mwy nag un awdurdod trwyddedu wedi ei ddynodi felly, i bob un o’r awdurdodau hynny.
(3)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol roi hysbysiad am euogfarn i awdurdod trwyddedu os cafodd yr achos a arweiniodd at yr euogfarn ei ddwyn gan yr awdurdod trwyddedu o dan adran 19.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I10A. 14 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon rhaid i awdurdod gorfodi roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I12A. 15 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi yn gyfeiriad at berson (pa un a yw’n swyddog i’r awdurdod ai peidio) sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan yr awdurdod at ddibenion y Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I14A. 16 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)
(1)At ddibenion y Rhan hon, yr awdurdod gorfodi mewn perthynas ag ardal awdurdod tai lleol yw pob un o’r canlynol—
(a)yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal, a
(b)yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal.
(2)Ond ni chaiff awdurdod trwyddedu sydd, yn rhinwedd is-adran (1)(b), yn awdurdod gorfodi ar gyfer ardal awdurdod tai lleol, arfer unrhyw swyddogaeth awdurdod gorfodi mewn perthynas â’r ardal honno, na dwyn achos o dan adran 19 mewn perthynas â’r ardal honno, heb gael cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal.
(3)Caniateir i gydsyniad o dan is-adran (2) gael ei roi yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu swyddogaethau penodol.
(4)At ddibenion yr adran hon, ystyr “awdurdod trwyddedu” yw person sydd wedi ei ddynodi’n awdurdod trwyddedu o dan adran 3 o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
(5)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ardal awdurdod gorfodi yn gyfeiriadau at yr ardal y mae’n awdurdod gorfodi ar ei chyfer, neu’r ardaloedd y mae’n awdurdod gorfodi ar eu cyfer, yn ôl y digwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I16A. 17 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)
(1)Os yw awdurdod gorfodi yn gofyn am wybodaeth gan awdurdod gorfodi arall, rhaid i’r awdurdod arall hwnnw gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod yn ystyried y byddai gwneud hynny yn anghydnaws ag arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n arferadwy ar wahân i fod o dan y Rhan hon).
(2)Yr wybodaeth y gellir gofyn amdani gan awdurdod gorfodi o dan is-adran (1) yw gwybodaeth y mae’r awdurdod hwnnw wedi ei chael—
(a)o dan yr adran hon, a
(b)fel arall wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(3)Caiff awdurdod gorfodi ddefnyddio gwybodaeth o fewn is-adran (5)(a), (b) neu (c) at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon.
(4)Yn ogystal â hynny, caiff awdurdod gorfodi ddefnyddio gwybodaeth o fewn is-adran (5)(a) neu (b) at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (“Deddf 2014”).
(5)Yr wybodaeth yw honno—
(a)sydd wedi ei darparu iddo gan awdurdod gorfodi arall o dan is-adran (1);
(b)y mae’r awdurdod gorfodi wedi ei chael fel arall wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon;
(c)y mae ganddo, yn rhinwedd adran 36 o Ddeddf 2014, ganiatâd i’w defnyddio at ddibenion sy’n gysylltiedig ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno.
(6)Nid yw adran 17(2) yn gymwys mewn perthynas â’r swyddogaethau a roddir i awdurdod gorfodi gan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I18A. 18 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)
Caiff awdurdod gorfodi sy’n awdurdod trwyddedu ddwyn achos troseddol mewn cysylltiad â throsedd yr honnir iddi gael ei chyflawni o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd sydd wedi ei lleoli yn ei ardal (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 17(2)).
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I20A. 19 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)
Rhagolygol
Mae Atodlen 9A i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) yn cynnwys darpariaeth yn ymwneud â chontractau meddiannaeth safonol sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad yn ceisio meddiant o annedd o dan adran 173 neu 186 o’r Ddeddf honno, neu o dan gymal terfynu’r landlord, os nad yw’r landlord wedi cydymffurfio â darpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n ymwneud â thaliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw a gedwir.]
Diwygiadau Testunol
F1A. 20 wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 6(5)(a), 19(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I21A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
Yn adran 41 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (canllawiau o dan Ran 1 o’r Ddeddf), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Caiff canllawiau a roddir i awdurdod trwyddedu gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch materion sydd i’w hystyried gan awdurdod trwyddedu wrth benderfynu a yw methiant i ad-dalu swm unrhyw daliad gwaharddedig neu flaendal cadw (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) yn effeithio ar addasrwydd person i gael ei drwyddedu o dan y Rhan hon.”
Gwybodaeth Cychwyn
I22A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I23A. 21 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: