(1)Caiff rheoliadau ddiwygio Pennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (c. 15) (dyletswydd i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd etc.)—
(a)i’w gwneud yn ofynnol i asiant gosod eiddo sicrhau bod unrhyw hysbysebwr ar-lein yn rhoi cyhoeddusrwydd i ffioedd perthnasol yr asiant, i’r graddau y mae’r ffioedd hynny’n ymwneud ag anhedd-dai yng Nghymru;
(b)i ganiatáu i fwy nag un gosb gael ei gosod ar asiant gosod eiddo mewn perthynas â’r un achos o dorri dyletswydd yn y Bennod honno, i’r graddau y mae’r toriad yn ymwneud ag anhedd-dai yng Nghymru.
(2)Yn yr adran hon—
(a)ystyr “hysbysebwr ar-lein”, mewn perthynas ag asiant gosod eiddo, yw person sy’n hysbysebu, ar y fewnrwyd, wasanaethau y mae’r asiant yn eu cynnig mewn perthynas ag anhedd-dai yng Nghymru;
(b)mae i “anhedd-dy”, “asiant gosod eiddo” a “ffioedd perthnasol” yr un ystyron â “dwelling-house”, “letting agent” a “relevant fees” ym Mhennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I2A. 23 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)