Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019

2Gwaharddiadau sy’n gymwys i landlordiaid

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’n drosedd i landlord ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig gael ei wneud i’r landlord, neu i unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r taliad gael ei wneud.

(2)Mae’n drosedd i landlord ei gwneud yn ofynnol i berson ymrwymo i gontract am wasanaethau gyda’r landlord, neu gydag unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol ymrwymo i’r contract am wasanaethau.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r contract am wasanaethau o dan sylw yn darparu i wasanaethau gael eu darparu gan berson y mae’r contract meddiannaeth safonol yn rhoi’r hawl iddo feddiannu annedd, neu y byddai’n rhoi’r hawl iddo feddiannu annedd (pa un a yw’r contract am wasanaethau hefyd yn darparu i unrhyw berson arall ddarparu gwasanaethau ai peidio).

(4)Mae’n drosedd i landlord ei gwneud yn ofynnol bod benthyciad yn cael ei roi i’r landlord, neu i unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r benthyciad gael ei roi.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(6)Caiff y llys sy’n euogfarnu person (“y troseddwr”) o drosedd o dan is-adran (1) orchymyn i’r troseddwr dalu swm y taliad o dan sylw neu (mewn achos pan fo rhan o’r taliad wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r taliad i’r person a’i talodd.