Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/09/2019.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019, Adran 22.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Caiff person (yr “hawlydd”) wneud cais i’r llys sirol i adennill swm—
(a)unrhyw daliad gwaharddedig a wnaed gan yr hawlydd, neu ar ei ran, mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol;
(b)unrhyw flaendal cadw a dalwyd gan yr hawlydd, neu ar ei ran, mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol.
(2)Caiff llys y gwneir cais iddo o dan is-adran (1)(a), os yw’r llys wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol—
(a)bod taliad gwaharddedig wedi ei wneud gan yr hawlydd, neu ar ei ran, a
(b)bod y taliad cyfan hwnnw eto i’w dalu i’r hawlydd, neu fod rhan o’r taliad hwnnw eto i’w thalu iddo,
orchymyn ad-dalu i’r hawlydd, yn unol â’r gorchymyn, swm y taliad neu (mewn achos pan fo rhan o’r taliad wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r taliad.
(3)Caiff llys y gwneir cais iddo o dan is-adran (1)(b), os yw’r llys wedi ei fodloni, yn ôl pwysau tebygolrwydd—
(a)bod blaendal cadw wedi ei dalu gan yr hawlydd neu ar ei ran, a
(b)y methwyd ag ad-dalu’r blaendal cadw cyfan, neu ran ohono, i’r hawlydd yn unol ag Atodlen 2,
orchymyn ad-dalu i’r hawlydd, yn unol â’r gorchymyn, swm y blaendal cadw neu (mewn achos pan fo rhan o’r blaendal cadw wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r blaendal cadw.
(4)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys mewn perthynas â thaliad gwaharddedig os yw achos troseddol wedi ei gychwyn yn rhinwedd adran 2 neu 3 mewn cysylltiad â’r taliad hwnnw, oni bai bod yr achos hwnnw wedi ei derfynu.
(5)Ni chaiff gorchymyn o dan is-adran (2) neu (3) wneud ad-dalu swm yn ofynnol, os yw’r swm hwnnw wedi ei roi tuag at dalu rhent, neu’r blaendal sicrwydd, o dan y contract meddiannaeth safonol o dan sylw.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 5 applied (ynghyd â modifications) (1.9.2019) by Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Darpariaeth Drosiannol ar gyfer Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr) 2019 (O.S. 2019/1151), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I2A. 22 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: