C1RHAN 7DARPARIAETHAU TERFYNOL
Annotations:
Modifications etc. (not altering text)
I1I2C126C1Troseddau gan gyrff corfforaethol
1
Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod, ar ran—
a
uwch-swyddog i’r corff corfforaethol, neu
b
person sy’n honni ei fod yn uwch-swyddog i’r corff corfforaethol,
mae’r uwch-swyddog neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael achos llys yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.
2
Yn is-adran (1), ystyr “uwch-swyddog” yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforaethol.
3
Ond yn achos corff corfforaethol y mae ei aelodau yn rheoli ei faterion, ystyr “cyfarwyddwr” at ddibenion yr adran hon yw aelod o’r corff corfforaethol.
Rhn. 7 applied (ynghyd â addasiadau) (1.9.2019) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Darpariaeth Drosiannol ar gyfer Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr) 2019 (O.S. 2019/1151), rhlau. 1(2), 3