RHAN 5LL+CYMCHWILIO I GWYNION SY’N YMWNEUD Â PHERSONAU ERAILL: GOFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL
Cymhwyso’r Rhan honLL+C
42Materion y mae’r Rhan hon yn gymwys iddyntLL+C
(1)Mae’r Rhan hon yn gymwys i’r materion a ganlyn—
(a)camau gweithredu a gymerwyd gan ddarparwr cartref gofal mewn cysylltiad â darparu llety, gofal nyrsio neu ofal personol mewn cartref gofal yng Nghymru;
(b)camau gweithredu a gymerwyd gan ddarparwr gofal cartref mewn cysylltiad â darparu gofal cartref yng Nghymru;
(c)camau gweithredu a gymerwyd gan ddarparwr gofal lliniarol annibynnol mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth gofal lliniarol yng Nghymru.
(2)Ond nid yw’r Rhan hon yn gymwys i’r materion a ganlyn—
(a)materion y caniateir ymchwilio iddynt o dan Ran 3, neu
(b)materion a ddisgrifir yn Atodlen 4.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 4 drwy—
(a)ychwanegu cofnod,
(b)dileu cofnod, neu
(c)newid cofnod.
(4)Cyn gwneud rheoliadau dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ombwdsmon.
(5)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (3) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
(6)I gael ystyr y termau a ganlyn gweler adrannau 62 i 64—
“cartref gofal” (“care home”);
“darparwr cartref gofal” (“care home provider”);
“darparwr gofal cartref” (“domiciliary care provider”);
“darparwr gofal lliniarol annibynnol” (“independent palliative care provider”);
“gofal cartref” (“domiciliary care”);
“gwasanaeth gofal lliniarol” (“palliative care service”).
Ymchwilio i gwynionLL+C
43Pŵer i ymchwilio i gwynionLL+C
(1)Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i gŵyn ynghylch mater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo os yw’r gŵyn—
(a)wedi’i gwneud yn briodol i’r Ombwdsmon, neu
(b)wedi’i hatgyfeirio’n briodol at yr Ombwdsmon, ac
yn achos cwyn sy’n ymwneud â darparwr gofal lliniarol annibynnol, os bodlonir yr amod yn is-adran (2).
(2)Yr amod yw bod y darparwr gofal lliniarol annibynnol wedi cael cyllid cyhoeddus, o fewn y tair blynedd cyn dyddiad y camau gweithredu y mae’r ymchwiliad yn ymwneud â hwy, mewn perthynas â gwasanaeth gofal lliniarol y mae’n ei ddarparu yng Nghymru.
(3)Yn is-adran (2) ystyr “cyllid cyhoeddus” yw cyllid gan—
(a)Gweinidogion Cymru,
(b)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42),
(c)Ymddiriedolaeth GIG, neu
(d)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
(4)Mae cwyn wedi’i “gwneud yn briodol” i’r Ombwdsmon os (ond dim ond os)—
(a)caiff y gŵyn ei gwneud gan berson sydd â hawl o dan adran 47 i wneud cwyn i’r Ombwdsmon,
(b)cyn i’r gŵyn gael ei gwneud—
(i)yw’r mater y mae’n ymwneud ag ef wedi ei ddwyn, gan neu ar ran y person yr effeithir arno, i sylw’r darparwr y mae’r gŵyn yn ymwneud ag ef, a
(ii)yw’r darparwr wedi cael cyfle rhesymol i ymchwilio i’r mater ac ymateb iddo, ac
(c)caiff gofynion adran 48(1) eu bodloni mewn perthynas â’r gŵyn.
(5)Mae cwyn wedi’i “hatgyfeirio’n briodol” at yr Ombwdsmon os (ond dim ond os)—
(a)caiff y gŵyn ei gwneud gan berson sydd â hawl o dan adran 47 i wneud cwyn i’r Ombwdsmon, a
(b)caiff gofynion adran 49(1) eu bodloni mewn perthynas â hi.
(6)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a yw gofynion is-adran (1) wedi eu bodloni mewn perthynas â chŵyn.
(7)Pan fo’r Ombwdsmon yn penderfynu na chafodd gofynion is-adran (1) eu bodloni mewn perthynas â chŵyn am na fodlonwyd gofynion is-adran (4)(b), adran 48(1) neu adran 49(1)(b), (c) neu (d) mewn perthynas â’r gŵyn honno, caiff yr Ombwdsmon, er hynny, ymchwilio i’r gŵyn—
(a)os yw’n ymwneud â mater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo, a
(b)os yw’r Ombwdsmon o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny.
(8)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad, i barhau ag ymchwiliad ai i roi’r gorau i ymchwiliad (ond gweler adran 48(5)(a) am gyfyngiad ar y pŵer i gychwyn ymchwiliad o dan is-adran (1)(a)).
(9)Caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu a all, ym marn yr Ombwdsmon, helpu i wneud penderfyniad o dan is-adran (8).
(10)Caiff yr Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad i gŵyn neu barhau ag ymchwiliad i gŵyn hyd yn oed os yw’r gŵyn wedi’i thynnu’n ôl (ond gweler adran 48(5)(a) am gyfyngiad ar y pŵer i gychwyn ymchwiliad o dan is-adran (1)(a)).
44Pŵer i ymchwilio ar ei liwt ei hunLL+C
(1)Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i fater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo pa un a oes cwyn wedi’i gwneud yn briodol neu wedi’i hatgyfeirio’n briodol at yr Ombwdsmon ai peidio.
(2)Ond os yw’r mater yn ymwneud â darparwr gofal lliniarol annibynnol, dim ond os bodlonir yr amod yn adran 43(2) y caniateir defnyddio’r pŵer yn is-adran (1).
(3)Cyn i’r Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad o dan yr adran hon, rhaid i’r Ombwdsmon—
(a)rhoi sylw i fudd y cyhoedd wrth gychwyn ymchwiliad,
(b)bod ag amheuaeth resymol o gamweinyddiaeth systemig,
(c)ymgynghori â’r cyfryw bersonau sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon (ond gweler adran 66 am ddyletswyddau pellach ynghylch ymgynghori), a
(d)rhoi sylw i’r meini prawf ar gyfer cychwyn ymchwiliadau ar ei liwt ei hun a gyhoeddir o dan adran 45.
(4)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr adran hon—
(a)mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad, i barhau ag ymchwiliad ai i roi’r gorau i’r ymchwiliad o dan yr adran hon;
(b)caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu a all, ym marn yr Ombwdsmon, helpu i wneud penderfyniad o dan is-adran (4)(a).
45Meini prawf ar gyfer ymchwilio ar ei liwt ei hunLL+C
(1)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi meini prawf i’w defnyddio wrth benderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad o dan adran 44.
(2)Rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r meini prawf cyntaf gerbron y Cynulliad.
(3)Os yw’r Cynulliad yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r meini prawf drafft cyn diwedd y cyfnod o 40 diwrnod, ni chaiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf ar eu ffurf ddrafft.
(4)Os na wneir y cyfryw benderfyniad cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf ar eu ffurf ddrafft.
(5)O ran y cyfnod o 40 diwrnod—
(a)mae’n dechrau ar y diwrnod pryd y gosodir y drafft gerbron y Cynulliad, a
(b)nid yw’n cynnwys unrhyw amser pan fo’r Cynulliad wedi ei ddiddymu neu pan fydd toriad o fwy na phedwar diwrnod.
(6)Nid yw is-adran (3) yn atal meini prawf drafft newydd rhag cael eu gosod gerbron y Cynulliad.
(7)Cyn gosod y meini prawf drafft gerbron y Cynulliad, rhaid i’r Ombwdsmon ymgynghori â’r canlynol—
(a)Gweinidogion Cymru,
(b)yr awdurdodau rhestredig yn Atodlen 3, ac
(c)y cyfryw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.
(8)Rhaid i’r Ombwdsmon, wrth baratoi’r meini prawf drafft i’w gosod gerbron y Cynulliad, roi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad a grybwyllir yn is-adran (7).
(9)Daw’r meini prawf i rym pan gânt eu cyhoeddi gan yr Ombwdsmon.
(10)O dro i dro, caiff yr Ombwdsmon adolygu ac ailgyhoeddi’r meini prawf.
(11)Os, ym marn yr Ombwdsmon, yw adolygiadau a wneir o dan is-adran (10) yn effeithio ar unrhyw newid perthnasol i’r meini prawf, rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r adolygiadau hynny gerbron y Cynulliad.
(12)Mae is-adrannau (3) i (9) yn gymwys i adolygiadau drafft a osodir gerbron y Cynulliad o dan is-adran (11) fel y maent yn gymwys i’r meini prawf cyntaf.
(13)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r meini prawf a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon o dan yr adran hon drwy ychwanegu meini prawf, dileu meini prawf neu newid y meini prawf.
(14)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan is-adran (13), rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf, fel y’u diwygiwyd gan y rheoliadau, ar y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym.
(15)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (13), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)yr Ombwdsmon,
(b)yr awdurdodau rhestredig yn Atodlen 3, ac
(c)y cyfryw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
(16)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (13) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
46Dulliau amgen o ddatrys materionLL+C
(1)Caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol er mwyn datrys mater y mae gan yr Ombwdsmon y pŵer i ymchwilio iddo o dan y Rhan hon.
(2)Caiff yr Ombwdsmon gymryd camau gweithredu o dan yr adran hon yn ychwanegol at gynnal ymchwiliad neu yn lle hynny.
(3)Rhaid cymryd unrhyw gamau gweithredu o dan yr adran hon yn breifat.
47Pwy sy’n cael cwynoLL+C
(1)Y personau sydd â hawl i gwyno i’r Ombwdsmon yw—
(a)aelod o’r cyhoedd (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “y person a dramgwyddwyd”) sy’n honni neu sydd wedi honni ei fod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i fater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo,
(b)person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y person a dramgwyddwyd i weithredu ar ran y person hwnnw, neu
(c)os nad yw’r person a dramgwyddwyd yn gallu awdurdodi’r cyfryw berson (er enghraifft, oherwydd bod y person a dramgwyddwyd wedi marw), person sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol i weithredu ar ran y person a dramgwyddwyd.
(2)Nid yw “aelod o’r cyhoedd” yn cynnwys person sy’n gweithredu yn rhinwedd ei swyddogaeth fel—
(a)darparwr cartref gofal,
(b)darparwr gofal cartref,
(c)darparwr gofal lliniarol annibynnol, neu
(d)awdurdod rhestredig.
(3)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch a oes gan berson hawl i wneud cwyn o dan yr adran hon.
48Gofynion: cwynion a wneir i’r OmbwdsmonLL+C
(1)Y gofynion a grybwyllir yn adran 43(4)(c) yw bod yn rhaid i’r gŵyn—
(a)bod ar ffurf a bennir gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau;
(b)cynnwys y cyfryw wybodaeth a bennir gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau;
(c)cael ei gwneud cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y person a dramgwyddwyd ei hybysu gyntaf am y mater a honnir yn y gŵyn.
(2)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r canllawiau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).
(3)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a yw gofynion is-adran (1) wedi eu bodloni o ran cwyn.
(4)Os caiff cwyn sy’n bodloni gofynion is-adran (1) ei gwneud heblaw yn ysgrifenedig, rhaid i’r Ombwdsmon—
(a)esbonio i’r person a wnaeth y gŵyn fod cwyn wedi’i gwneud yn briodol yn unol â’r Ddeddf hon, a goblygiadau gwneud cwyn o’r fath, a
(b)gofyn i’r person a yw’n awyddus i’r gŵyn barhau i gael ei thrin yn gŵyn a wnaed yn briodol.
(5)Os nad yw’r person yn awyddus i’r gŵyn barhau i gael ei thrin yn gŵyn a wnaed yn briodol—
(a)ni chaiff yr Ombwdsmon ddefnyddio’r pŵer yn adran 43(1)(a) i gychwyn ymchwiliad i’r mater a honnir yn y gŵyn;
(b)caiff yr Ombwdsmon ddefnyddio’r pŵer yn adran 44 i ymchwilio i’r mater a honnir yn y gŵyn.
(6)Os yw’r person yn awyddus i’r gŵyn barhau i gael ei thrin yn gŵyn a wnaed yn briodol, rhaid i’r Ombwdsmon ofyn i’r person a yw am i’r gŵyn gael ei chadarnhau yn ysgrifenedig.
(7)Os yw’r person yn awyddus i’r gŵyn gael ei chadarnhau yn ysgrifenedig, rhaid i’r Ombwdsmon wneud y cyfryw drefniadau angenrheidiol i gadarnhau’r gŵyn yn ysgrifenedig.
49Gofynion: cwynion a atgyfeirir at yr OmbwdsmonLL+C
(1)Y gofynion a grybwyllir yn adran 43(5)(b) yw bod yn rhaid i’r gŵyn—
(a)bod wedi cael ei gwneud i’r darparwr y mae’n ymwneud ag ef gan berson a fyddai wedi bod â hawl o dan adran 47 i wneud y gŵyn i’r Ombwdsmon;
(b)bod wedi cael ei gwneud i’r darparwr y mae’n ymwneud ag ef cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y person a dramgwyddwyd ei hysbysu gyntaf am y mater;
(c)cael ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon ar ffurf a bennwyd gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau a chynnwys y cyfryw wybodaeth a bennwyd gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau;
(d)cael ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y gŵyn ei gwneud i’r darparwr.
(2)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r canllawiau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(c).
(3)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch a yw gofynion is-adran (1) wedi eu bodloni o ran cwyn.
50Cofnodion o gwynionLL+C
Rhaid i’r Ombwdsmon gynnal cofrestr o bob cwyn a wnaed i’r Ombwdsmon neu a atgyfeiriwyd at yr Ombwdsmon mewn perthynas â mater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan y Rhan hon.
Penderfyniadau i beidio ag ymchwilio etcLL+C
51Penderfyniadau i beidio ag ymchwilio i gwynion neu i roi’r gorau i ymchwiliadLL+C
(1)Os yw’r Ombwdsmon yn penderfynu—
(a)peidio â chychwyn ymchwiliad, neu roi’r gorau i ymchwiliad, i fater o dan adran 43(8), neu
(b)pan fo’r Ombwdsmon wedi ymgynghori â pherson o dan adran 44(3)(c), yn penderfynu peidio â chychwyn ymchwiliad, neu roi’r gorau i ymchwiliad, i fater o dan adran 44(4)(a),
rhaid i’r Ombwdsmon baratoi datganiad o’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
(2)Rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r datganiad at y canlynol—
(a)unrhyw berson a wnaeth gŵyn i’r Ombwdsmon mewn perthynas â’r mater, a
(b)y darparwr y mae’r mater yn ymwneud ag ef.
(3)Caiff yr Ombwdsmon hefyd anfon copi o’r datganiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.
(4)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi datganiad o dan yr adran hon os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.
(5)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o’r datganiad a gyhoeddwyd, neu ran o’r datganiad hwnnw, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.
(6)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o ddatganiad, neu ran o ddatganiad, o dan is-adran (5).
(7)Ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn fersiwn o ddatganiad a anfonir at berson o dan is-adran (2)(b) neu (3) neu a gyhoeddir o dan is-adran (4)—
(a)enw person heblaw’r darparwr y mae’r mater yn ymwneud ag ef;
(b)gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud y cyfryw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd y datganiad.
(8)Nid yw is-adran (7) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r datganiad.
Gweithdrefn ymchwilio a thystiolaethLL+C
52Gweithdrefn ymchwilioLL+C
(1)Os yw’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad o dan adran 43, rhaid i’r Ombwdsmon—
(a)rhoi cyfle i’r darparwr y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef i wneud sylwadau ar yr ymchwiliad, a
(b)rhoi i unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn ei fod wedi cymryd y camau gweithredu yr achwynir amdanynt, neu wedi awdurdodi’r camau gweithredu yr achwynir amdanynt, gyfle i wneud sylwadau ar yr honiadau sy’n ymwneud â’r person hwnnw.
(2)Os yw’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad o dan adran 44, rhaid i’r Ombwdsmon—
(a)paratoi cynnig ymchwilio, a
(b)cyflwyno’r cynnig ymchwilio i’r—
(i)darparwr yr ymchwilir iddo, a
(ii)i unrhyw berson, heblaw’r darparwr, y’i hadwaenir mewn modd negyddol yn y cynnig ymchwilio.
(3)Ond os yw’r Ombwdsmon—
(a)wedi cychwyn ymchwiliad i fater o dan adran 43 neu 44 (yn y naill achos a’r llall, “yr ymchwiliad gwreiddiol”), a
(b)wedi cychwyn ymchwiliad arall i fater (“yr ymchwiliad cysylltiedig”) o dan adran 44 sy’n ymwneud â’r ymchwiliad gwreiddiol,
nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r ymchwiliad cysylltiedig.
(4)Mae ymchwiliad yn ymwneud ag ymchwiliad gwreiddiol os oes gan y mater yr ymchwilir iddo yn yr ymchwiliad cysylltiedig gysylltiad sylweddol â’r mater yr ymchwilir iddo yn yr ymchwiliad gwreiddiol.
(5)Pan fo’r Ombwdsmon yn paratoi cynnig ymchwilio mewn perthynas â mater, rhaid i’r Ombwdsmon—
(a)rhoi cyfle i’r darparwr yr ymchwilir iddo wneud sylwadau ar y cynnig ymchwilio;
(b)rhoi cyfle i unrhyw berson, heblaw’r darparwr, y’i hadwaenir mewn modd negyddol, wneud sylwadau ar y cynnig ymchwilio (i’r graddau y mae’r ymchwiliad yn ymwneud â’r person hwnnw).
(6)Pan fo’r Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad cysylltiedig i fater ac nad oes cynnig ymchwilio wedi’i baratoi yn rhinwedd is-adran (3), rhaid i’r Ombwdsmon—
(a)rhoi cyfle i’r darparwr wneud sylwadau ar yr ymchwiliad cysylltiedig;
(b)rhoi cyfle i unrhyw berson, heblaw’r darparwr, y’i hadwaenir gan yr Ombwdsmon mewn modd negyddol mewn perthynas â’r ymchwiliad, wneud sylwadau ar yr ymchwiliad cysylltiedig (i’r graddau y mae’r ymchwiliad yn ymwneud â’r person hwnnw).
(7)Rhaid i gynnig ymchwilio nodi—
(a)y rhesymau dros yr ymchwiliad, a
(b)y modd y bodlonwyd y meini prawf y cyfeirir atynt yn adran 45.
(8)Rhaid i ymchwiliad gael ei gynnal yn breifat.
(9)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr adran hon, y weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliad o dan adran 43 neu 44 yw’r un sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon yn amgylchiadau’r achos.
(10)Caiff yr Ombwdsmon, ymhlith pethau eraill—
(a)gwneud unrhyw ymchwiliadau sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, a
(b)penderfynu a gaiff unrhyw berson ei gynrychioli yn yr ymchwiliad gan berson awdurdodedig neu berson arall.
(11)Yn is-adran (10) ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd, at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p.29), yn berson awdurdodedig mewn perthynas â gweithgaredd sy’n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno).
(12)Caiff yr Ombwdsmon dalu i unrhyw berson sy’n bresennol neu sy’n rhoi gwybodaeth at ddibenion yr ymchwiliad—
(a)symiau mewn perthynas â threuliau yr aethpwyd iddynt yn briodol gan y person, a
(b)lwfansau i ddigolledu’r person am ei amser.
(13)Caiff yr Ombwdsmon osod amodau ar y taliadau hynny.
(14)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r weithdrefn y bydd yr Ombwdsmon yn ei dilyn wrth gynnal ymchwiliad o dan adran 43 neu 44.
53Gwybodaeth, dogfennau, tystiolaeth a chyfleusterauLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion ymchwiliad o dan y Rhan hon.
(2)Caiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu ddangos dogfen sy’n berthnasol i’r ymchwiliad, i wneud hynny.
(3)Mae gan yr Ombwdsmon yr un pwerau â’r Uchel Lys o ran—
(a)presenoldeb tystion a holi tystion (gan gynnwys gweinyddu llwon a chadarnhadau a holi tystion dramor), a
(b)dangos dogfennau.
(4)Caiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu ddangos dogfen sy’n berthnasol i’r ymchwiliad, ddarparu unrhyw gyfleuster y caiff yr Ombwdsmon ei wneud yn rhesymol ofynnol.
(5)Yn ddarostyngedig i is-adran (6), ni chaniateir gorfodi unrhyw berson i roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen na allai’r person gael ei orfodi i’w rhoi neu ei dangos mewn achosion sifil gerbron yr Uchel Lys.
(6)Nid oes gan y Goron hawl i unrhyw fraint o ran dangos dogfennau neu o ran rhoi tystiolaeth a fyddai’n cael ei chaniatáu fel arall yn ôl y gyfraith mewn achosion cyfreithiol.
(7)Pan fo rhwymedigaeth i gadw cyfrinachedd neu gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth a gafwyd gan bersonau yng ngwasanaeth Ei Mawrhydi, neu a roddwyd i bersonau yng ngwasanaeth Ei Mawrhydi, wedi’i gosod gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol, nid yw’r rhwymedigaeth neu’r cyfyngiad yn gymwys i ddatgelu gwybodaeth at ddibenion yr ymchwiliad.
54Rhwystro a dirmyguLL+C
(1)Os bodlonir yr Ombwdsmon fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran person, caiff yr Ombwdsmon ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw i’r Uchel Lys.
(2)Yr amod yw bod y person—
(a)heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon rhag cael eu cyflawni o dan y Rhan hon, neu
(b)wedi cyflawni gweithred mewn perthynas ag ymchwiliad a fyddai, pe bai’r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn gyfystyr â dirmyg llys.
(3)Os yw’r Ombwdsmon yn dyroddi tystysgrif, caiff yr Uchel Lys ymchwilio i’r mater.
(4)Os bodlonir yr Uchel Lys fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran y person, caiff drin y person hwnnw yn yr un ffordd ag y caiff drin person sydd wedi cyflawni dirmyg llys o ran yr Uchel Lys.
Adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C
55Adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ymchwiliadau o dan y Rhan hon oni bai bod adran 58 yn gymwys.
(2)Rhaid i’r Ombwdsmon, ar ôl cynnal ymchwiliad mewn perthynas â mater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo—
(a)paratoi adroddiad am ganfyddiadau’r ymchwiliad (“adroddiad am ymchwiliad”), a
(b)anfon copi o’r adroddiad at y personau priodol.
(3)Y personau priodol yw—
(a)os bydd yr ymchwiliad yn ymwneud â chwyn, y person a wnaeth y gŵyn,
(b)y darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef,
(c)unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn (os oes un) ei fod wedi cymryd y camau gweithredu yr achwynir amdanynt neu wedi awdurdodi’r camau gweithredu yr achwynir amdanynt neu a wneir yn hysbys yn yr adroddiad gan yr Ombwdsmon mewn modd negyddol mewn perthynas â’r mater, a
(d)Gweinidogion Cymru.
(4)Caiff yr Ombwdsmon hefyd anfon copi o’r adroddiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.
(5)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r adroddiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.
(6)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd, neu ran o’r adroddiad hwnnw, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.
(7)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad, neu ran o adroddiad, o dan is-adran (6).
(8)Ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn fersiwn o adroddiad a anfonir at berson o dan is-adran (3)(b) neu (c) neu (4) neu a gyhoeddir o dan is-adran (5)—
(a)enw person heblaw’r darparwr y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef;
(b)gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud y cyfryw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad.
(9)Nid yw is-adran (8) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.
56Cyhoeddusrwydd pellach i adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C
(1)Caiff yr Ombwdsmon drefnu i hysbysiad am adroddiad am ymchwiliad gael ei gyhoeddi—
(a)mewn un neu ragor o bapurau newydd, neu
(b)drwy gyfrwng darlledu neu gyfryngau electronig eraill.
(2)Caiff yr hysbysiad, er enghraifft—
(a)darparu crynodeb o ganfyddiadau’r Ombwdsmon,
(b)pennu cyfeiriad neu gyfeiriadau lle gellir archwilio copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ystod oriau swyddfa arferol, a lle y ceir copi o’r adroddiad hwnnw (neu ran o’r adroddiad hwnnw), a
(c)pennu cyfeiriad gwefan lle gellir gweld copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd.
(3)Rhaid i’r darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, os gofynnir iddo wneud hynny gan yr Ombwdsmon, ad-dalu’r Ombwdsmon y costau rhesymol o drefnu i gyhoeddi’r hysbysiad.
(4)Wrth benderfynu a yw’n briodol i wneud trefniadau o dan is-adran (1), rhaid i’r Ombwdsmon ystyried y canlynol—
(a)budd y cyhoedd,
(b)buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un), ac
(c)buddiannau unrhyw bersonau eraill sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol.
57Camau gweithredu ar ôl cael adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r Ombwdsmon wedi dod i’r casgliad mewn adroddiad am ymchwiliad fod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo.
(2)Rhaid i’r darparwr y mae’r mater yn ymwneud ag ef ystyried yr adroddiad a hysbysu’r Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod a ganiateir—
(a)am y camau gweithredu y mae’r darparwr wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r adroddiad, a
(b)cyn diwedd pa gyfnod y mae’r darparwr yn bwriadu cymryd y camau gweithredu hynny (os nad yw eisoes wedi cymryd y camau gweithredu hynny).
(3)Yn is-adran (2) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—
(a)y cyfnod o fis sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r darparwr yn cael yr adroddiad, neu
(b)cyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig (os pennir cyfnod felly).
58Adroddiadau: gweithdrefn amgenLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys, ar ôl i’r Ombwdsmon gynnal ymchwiliad o dan y Rhan hon—
(a)os yw’r Ombwdsmon yn dod i’r casgliad nad oes unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo, a
(b)os yw’r Ombwdsmon yn fodlon nad yw budd y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau 55 i 57 fod yn gymwys.
(2)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys, ar ôl i’r Ombwdsmon gynnal ymchwiliad o dan y Rhan hon—
(a)os yw’r Ombwdsmon yn dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo,
(b)os yw’r darparwr y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef yn cytuno i weithredu, cyn diwedd y cyfnod a ganiateir, unrhyw argymhellion a wneir gan yr Ombwdsmon, ac
(c)os yw’r Ombwdsmon yn fodlon nad yw budd y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau 55 i 57 fod yn gymwys.
(3)Yn is-adran (2)(b) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—
(a)cyfnod y cytunwyd arno rhwng yr Ombwdsmon a’r darparwr ac, os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chwyn, y person a wnaeth y gŵyn, neu
(b)os yw’r Ombwdsmon o’r farn na ellir dod i gytundeb o’r fath, cyfnod a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.
(4)Caiff yr Ombwdsmon benderfynu paratoi adroddiad am ganfyddiadau’r Ombwdsmon o dan yr adran hon yn hytrach nag o dan adran 55; ac os yw’r Ombwdsmon yn penderfynu gwneud hynny, ni fydd adrannau 55 i 57 yn gymwys.
(5)Os caiff adroddiad ei baratoi o dan yr adran hon—
(a)rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad—
(i)os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chwyn, at y person a wnaeth y gŵyn;
(ii)at y darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, a
(b)caiff yr Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.
(6)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r adroddiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r personau a dramgwyddwyd (os oes rhai) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.
(7)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (6), neu ran o’r adroddiad hwnnw, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.
(8)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad, neu ran o adroddiad, o dan is-adran (7).
(9)Ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn fersiwn o’r adroddiad a anfonir at berson o dan is-adran (5) neu a gyhoeddir o dan is-adran (6)—
(a)enw person heblaw’r darparwr y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef;
(b)gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud y cyfryw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad.
(10)Nid yw is-adran (9) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.
Adroddiadau arbennigLL+C
59Amgylchiadau lle caiff adroddiadau arbennig eu paratoiLL+C
(1)Caiff yr Ombwdsmon baratoi adroddiad arbennig o dan adran 60 os yw achos 1, 2 neu 3 yn gymwys.
(2)Mae achos 1 yn gymwys—
(a)os yw’r Ombwdsmon wedi dod i’r casgliad mewn adroddiad am ymchwiliad fod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo, a
(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-adran (3) yn gymwys.
(3)Yr amgylchiadau hynny yw—
(a)nad yw’r Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 57 cyn diwedd y cyfnod a ganiateir o dan yr adran honno;
(b)bod yr Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad hwnnw, ond nad yw’n fodlon â’r canlynol—
(i)y camau gweithredu y mae’r darparwr wedi’u cymryd neu’n bwriadu eu cymryd, neu
(ii)cyn diwedd pa gyfnod y mae’r darparwr yn bwriadu cymryd y camau gweithredu hynny;
(c)bod yr Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad hwnnw, ond nad yw’n fodlon bod y darparwr, cyn diwedd y cyfnod a ganiateir, wedi cymryd y camau gweithredu y bwriadai eu cymryd.
(4)Yn is-adran (3)(c) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—
(a)y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 57(2)(b), neu
(b)cyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig (os pennir cyfnod felly).
(5)Mae achos 2 yn gymwys—
(a)os yw’r Ombwdsmon wedi paratoi adroddiad o dan adran 58 yn rhinwedd is-adran (2) o’r adran honno, a
(b)os nad yw’r Ombwdsmon yn fodlon bod y darparwr wedi gweithredu argymhellion yr Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.
(6)Yn is-adran (5)(b) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—
(a)y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 58(2)(b), neu
(b)cyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig (os pennir cyfnod felly).
(7)Mae achos 3 yn gymwys—
(a)os yw’r mater (y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo) mewn perthynas â darparwr wedi cael ei ddatrys,
(b)os yw’r Ombwdsmon, wrth ddatrys y mater, wedi dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater,
(c)os yw’r darparwr wedi cytuno i gymryd camau gweithredu penodol cyn diwedd cyfnod penodol, a
(d)os nad yw’r Ombwdsmon yn fodlon bod y darparwr wedi cymryd y camau gweithredu hynny cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.
(8)Yn is-adran (7)(d) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—
(a)y cyfnod y cyfeirir ato yn is-adran (7)(c), neu
(b)cyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig (os pennir cyfnod felly).
60Adroddiadau arbennigLL+C
(1)Rhaid i adroddiad arbennig—
(a)nodi’r ffeithiau sy’n rhoi hawl i’r Ombwdsmon baratoi’r adroddiad arbennig (hynny yw, y ffeithiau sy’n gwneud achos 1, 2 neu 3 o adran 59 yn gymwys), a
(b)gwneud y cyfryw argymhellion sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon o ran y camau gweithredu y dylid, ym marn yr Ombwdsmon, eu cymryd—
(i)i unioni neu atal yr anghyfiawnder neu’r caledi i’r person, a
(ii)i atal anghyfiawnder neu galedi tebyg rhag cael ei achosi i unrhyw berson yn y dyfodol.
(2)Os yw’r adroddiad arbennig yn cael ei baratoi am fod achos 1 o adran 59 yn gymwys, rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad at bob person yr anfonwyd copi o’r adroddiad adran 55 ato o dan adran 55(2)(b).
(3)Os yw’r adroddiad arbennig yn cael ei baratoi am fod achos 2 neu 3 o adran 59 yn gymwys, rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad—
(a)os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chwyn, at y person a wnaeth y gŵyn;
(b)at y darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef.
(4)Caiff yr Ombwdsmon anfon copi o adroddiad arbennig at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.
(5)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi adroddiad arbennig.
(6)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o adroddiad arbennig a gyhoeddwyd, neu ran o adroddiad o’r fath, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.
(7)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad arbennig, neu ran o adroddiad o’r fath, o dan is-adran (6).
(8)Ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn fersiwn o adroddiad arbennig a anfonir at berson o dan is-adran (2), (3) neu (4) neu a gyhoeddir o dan is-adran (5)—
(a)enw unrhyw berson heblaw’r darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef;
(b)gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud y cyfryw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad arbennig.
(9)Nid yw is-adran (8) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad arbennig.
61Cyhoeddusrwydd pellach i adroddiadau arbennigLL+C
(1)Caiff yr Ombwdsmon drefnu i hysbysiad am adroddiad arbennig gael ei gyhoeddi—
(a)mewn un neu ragor o bapurau newydd, neu
(b)drwy gyfrwng darlledu neu gyfryngau electronig eraill.
(2)Caiff yr hysbysiad, er enghraifft—
(a)darparu crynodeb o ganfyddiadau’r Ombwdsmon,
(b)pennu cyfeiriad neu gyfeiriadau lle gellir archwilio copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ystod oriau swyddfa arferol, a lle y ceir copi o’r adroddiad hwnnw (neu ran o’r adroddiad hwnnw), a
(c)pennu cyfeiriad gwefan lle gellir gweld copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd.
(3)Rhaid i’r darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, os yw’r Ombwdsmon yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, ad-dalu’r Ombwdsmon y costau rhesymol o drefnu i gyhoeddi’r hysbysiad.
(4)Wrth benderfynu pa un ai i wneud trefniadau o dan is-adran (1), rhaid i’r Ombwdsmon ystyried y canlynol—
(a)budd y cyhoedd,
(b)buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un), ac
(c)buddiannau unrhyw berson arall sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol.
DehongliLL+C
62Ystyr “cartref gofal” a “darparwr cartref gofal”LL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.
(2)Ystyr “cartref gofal” yw mangre lle y mae gwasanaeth cartref gofal, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Cymru 2016 (dccc 2), yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau 18 oed neu hŷn.
(3)Ystyr “darparwr cartref gofal” yw person sy’n ddarparwr gwasanaeth cartref gofal, o fewn ystyr Rhan 1 o’r Ddeddf honno, lle y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau 18 oed neu hŷn.
(4)Mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr cartref gofal os ydynt yn cael eu cymryd gan—
(a)person a gyflogir gan y darparwr hwnnw,
(b)person sy’n gweithredu ar ran y darparwr hwnnw, neu
(c)person y mae’r darparwr hwnnw wedi dirprwyo unrhyw swyddogaethau iddo.
(5)Hefyd, mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr cartref gofal—
(a)os yw’r darparwr hwnnw’n darparu, drwy gyfrwng trefniant gyda pherson arall, lety, gofal nyrsio neu ofal mewn cartref gofal yng Nghymru ar gyfer unigolyn oherwydd hyglwyfedd neu angen yr unigolyn hwnnw, a
(b)os yw’r camau gweithredu yn cael eu cymryd gan y person arall neu ar ran y person arall wrth roi’r trefniant ar waith.
(6)Mae i “gofal” yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Cymru 2016 (dccc 2).
63Ystyr “gofal cartref” a “darparwr gofal cartref”LL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.
(2)Ystyr “gofal cartref” yw gofal personol a ddarperir yn eu cartrefi eu hunain i bersonau sydd, oherwydd salwch, gwendid neu anabledd, yn methu â’i ddarparu drostynt eu hunain heb gymorth.
(3)Ystyr “darparwr gofal cartref” yw person sy’n cyflawni gweithgaredd sy’n ymwneud â darparu gofal cartref, ond nid yw’n cynnwys unigolyn—
(a)sydd yn cyflawni’r gweithgaredd heblaw mewn partneriaeth ag eraill,
(b)nad yw’n cael ei gyflogi gan gorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig i’w gyflawni,
(c)nad yw’n cyflogi unrhyw berson arall i gyflawni’r gweithgaredd, a
(d)sydd yn darparu neu’n trefnu i ddarparu gofal cartref i lai na phedwar o bobl.
(4)Mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr gofal cartref os ydynt yn cael eu cymryd gan—
(a)person a gyflogir gan y darparwr hwnnw,
(b)person sy’n gweithredu ar ran y darparwr hwnnw, neu
(c)person y mae’r darparwr hwnnw wedi dirprwyo unrhyw swyddogaethau iddo.
(5)Hefyd, mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr gofal cartref—
(a)os yw’r darparwr hwnnw yn darparu gofal cartref drwy drefniant gyda pherson arall, a
(b)os yw’r camau gweithredu yn cael eu cymryd gan y person arall neu ar ran y person arall wrth roi’r trefniant ar waith.
64Ystyr “gwasanaeth gofal lliniarol” a “darparwr gofal lliniarol annibynnol”LL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.
(2)Ystyr “gwasanaeth gofal lliniarol” yw gwasanaeth sydd â’r prif bwrpas o ddarparu gofal lliniarol.
(3)Ystyr “darparwr gofal lliniarol annibynnol” yw person—
(a)sydd yn darparu gwasanaeth gofal lliniarol, a
(b)nad yw’n gorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
(4)Mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr gofal lliniarol annibynnol os ydynt yn cael eu cymryd gan—
(a)person a gyflogir gan y darparwr hwnnw,
(b)person sy’n gweithredu ar ran y darparwr hwnnw, neu
(c)person y mae’r darparwr hwnnw wedi dirprwyo unrhyw swyddogaethau iddo.
(5)Hefyd, mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr gofal lliniarol annibynnol—
(a)os yw’r darparwr hwnnw yn darparu gofal lliniarol drwy drefniant gyda pherson arall, a
(b)os yw’r camau gweithredu yn cael eu cymryd gan y person arall neu ar ran y person arall wrth roi’r trefniant ar waith.