RHAN 6YMCHWILIADAU: ATODOL
Datgelu
69Datgelu gwybodaeth
1
Yr wybodaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi yw—
a
gwybodaeth y mae’r Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon, yn ei chael i gyflawni swyddogaethau’r Ombwdsmon—
i
wrth benderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad,
ii
yn ystod ymchwiliad,
iii
wrth ddatrys mater o dan adran 6 neu 46, neu
iv
mewn cysylltiad â hysbysiad a gafwyd o dan adran 26 neu 57;
b
gwybodaeth a gafwyd gan ombwdsmon a grybwyllir yn adran 65(7) yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn adran 65 neu ddarpariaeth gyfatebol mewn deddfiad sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r ombwdsmyn hynny;
c
gwybodaeth a gafwyd gan berson a bennir yn adran 66(2) yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn adran 66 neu 67 neu ddarpariaeth gyfatebol mewn deddfiad sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r personau hynny a bennir;
d
gwybodaeth a gafwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adran 68 o’r Ddeddf hon neu adran 29A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3);
e
gwybodaeth a gafwyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth yn rhinwedd adran 76 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36) (datgeliad rhwng y Comisiynydd Gwybodaeth ac ombwdsmyn).
2
Ni chaniateir datgelu’r wybodaeth ac eithrio—
a
at ddibenion penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad;
b
at ddibenion ymchwiliad;
c
at ddiben unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru;
d
at ddibenion datrys cwyn o dan adran 6 neu 46;
e
at ddibenion datganiad neu adroddiad a wneir mewn perthynas â chŵyn neu ymchwiliad;
f
at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn adran 65, 66, 67 neu 68;
g
at ddibenion achosion llys ar gyfer—
i
trosedd o dan Ddeddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911 (p.28) i 1989 (p.6) yr honnir iddi gael ei chyflawni gan yr Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon;
ii
trosedd o dyngu anudon yr honnir iddi gael ei chyflawni yn ystod ymchwiliad;
h
at ddibenion ymchwiliad gyda golwg ar gychwyn yr achosion llys a grybwyllir ym mharagraff (g);
i
at ddibenion achosion llys o dan adran 20 neu 54;
j
yn achos gwybodaeth i’r perwyl bod person yn debygol o fod yn fygythiad i iechyd neu ddiogelwch un neu ragor o bersonau, i unrhyw berson y mae’r Ombwdsmon yn credu y dylid ei datgelu er budd y cyhoedd;
k
yn achos gwybodaeth y mae is-adran (3) yn gymwys iddi, i’r Comisiynydd Gwybodaeth;
l
at ddibenion swyddogaethau’r Ombwdsmon o dan Benodau 3 a 4 o Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).
3
Mae’r is-adran hon yn gymwys i wybodaeth os yw’n ymddangos i’r Ombwdsmon ei bod yn ymwneud â’r canlynol—
a
mater y gallai’r Comisiynydd Gwybodaeth, mewn perthynas ag ef, arfer pŵer a roddir mewn deddfiad a grybwyllir yn is-adran (4), neu
b
cyflawni trosedd a grybwyllir yn is-adran (6).
4
Y deddfiadau yw—
a
adrannau 142 i 154, 160 i 164 neu 174 i 176 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p.12) (darpariaethau penodol yn ymwneud â gorfodi), neu Atodlen 15 i’r Ddeddf honno;
b
adran 48 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36) (argymhellion arfer);
c
Rhan 4 o’r Ddeddf honno.
5
Mae is-adran (4)(a) yn cael effaith fel pe bai’r materion y mae’n cyfeirio atynt yn cynnwys mater y gallai’r Comisiynydd Gwybodaeth arfer, mewn perthynas ag ef, bŵer a roddir gan ddarpariaeth yn Rhan 5 o Ddeddf Diogelu Data 1998 (p.29), fel y mae’n cael effaith yn rhinwedd Atodlen 20 i Ddeddf Diogelu Data 2018 (p.12).
6
Y troseddau yw’r rhai o dan—
a
darpariaeth yn Neddf Diogelu Data 2018 (p.12) heblaw paragraff 15 o Atodlen 15 i’r Ddeddf honno (rhwystro gweithredu gwarant);
b
adran 77 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36) (y drosedd o newid etc cofnodion gyda’r bwriad o atal datgelu).
7
Ni chaniateir galw unrhyw berson i roi tystiolaeth mewn unrhyw achos llys (heblaw achosion a grybwyllir yn is-adran (2)) o wybodaeth a gafwyd gan y person hwnnw fel y crybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (b).
70Datgeliad niweidiol i ddiogelwch Gwladol neu yn groes i fudd y cyhoedd
1
Caiff Gweinidog y Goron roi hysbysiad i’r Ombwdsmon o ran—
a
unrhyw ddogfen neu wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad, neu
b
unrhyw ddosbarth o ddogfen neu wybodaeth a bennir felly,
y byddai datgelu’r ddogfen neu’r wybodaeth honno, neu ddogfennau neu wybodaeth o’r un dosbarth, ym marn y Gweinidog, yn niweidiol i ddiogelwch Gwladol neu fel arall yn groes i fudd y cyhoedd.
2
Os cyflwynir hysbysiad o dan is-adran (1), nid oes dim yn y Ddeddf hon i’w ddehongli mewn modd sy’n awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol i’r Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni swyddogaethau’r Ombwdsmon, ddatgelu i unrhyw berson neu at unrhyw ddiben unrhyw ddogfen neu wybodaeth, neu ddosbarth o ddogfen neu wybodaeth, a bennir yn yr hysbysiad.
71Diogelu rhag hawliadau difenwi
1
At ddibenion y gyfraith ar ddifenwi, mae’r canlynol yn gwbl freintiedig—
a
cyhoeddi mater, wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon o dan y Ddeddf hon, gan yr Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon;
b
cyhoeddi mater gan berson wrth gyflawni swyddogaethau o dan—
i
adran 24;
ii
adran 24 fel y’i haddasir gan adran 25;
iii
adrannau 24 a 25 yn yr un modd ag y maent yn gymwys i adroddiadau arbennig (gweler adran 29(6));
c
cyhoeddi mater mewn cysylltiad â chŵyn neu ymchwiliad, mewn cyfathrebiadau rhwng—
i
awdurdod rhestredig, aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod rhestredig, swyddog neu aelod o staff awdurdod rhestredig neu berson arall sy’n gweithredu ar ran awdurdod rhestredig neu’n ei gynorthwyo i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, a
ii
yr Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon;
d
cyhoeddi mater mewn cysylltiad â chŵyn neu ymchwiliad, mewn cyfathrebiadau rhwng—
i
darparwr cartref gofal, darparwr gofal cartref neu ddarparwr gofal lliniarol annibynnol, swyddog neu aelod o staff darparwr o’r fath neu berson arall sy’n gweithredu ar ran darparwr o’r fath neu’n ei gynorthwyo i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, a
ii
yr Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon;
e
cyhoeddi mater mewn cysylltiad â chŵyn neu ymchwiliad, mewn cyfathrebiadau rhwng person ac Aelod Cynulliad;
f
cyhoeddi mater mewn cysylltiad â chŵyn a wnaed neu a atgyfeiriwyd (neu sydd i’w gwneud neu ei hatgyfeirio) gan berson neu ar ran person at yr Ombwdsmon o dan y Ddeddf hon, mewn cyfathrebiadau rhwng—
i
y person, a
ii
yr Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon.
2
At ddibenion is-adran (1)(d)(i) mae person yn swyddog i ddarparwr os oes gan y person reolaeth dros ddarparwr nad yw’n unigolyn neu faterion darparwr o’r fath, neu os yw’r person yn rheoli darparwr nad yw’n unigolyn neu faterion darparwr o’r fath.
3
Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at faterion sy’n ymwneud ag ymchwiliad yn cynnwys materion sy’n ymwneud â phenderfyniad yr Ombwdsmon pa un ai i ymchwilio ai peidio.