xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
11(1)Mae unrhyw symiau sy’n daladwy gan yr Ombwdsmon o ganlyniad i dorri unrhyw ddyletswydd gontractiol neu ddyletswydd arall wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon, i gael eu codi ar Gronfa Gyfunol Cymru.
(2)Ac mae is-baragraff (1) yn gymwys pa un a yw’r toriad yn digwydd oherwydd gweithred neu anweithred ar ran—
(a)yr Ombwdsmon,
(b)aelod o staff yr Ombwdsmon, neu
(c)unrhyw berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i arfer swyddogaethau.
(3)Caiff yr Ombwdsmon gadw incwm sy’n deillio o ffioedd a godir yn rhinwedd adrannau 17(6), 23(6), 27(8), 29(2), 51(6), 55(7), 58(8) a 60(7) (yn hytrach na’i dalu i Gronfa Gyfunol Cymru) i’w ddefnyddio mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau a roddir neu a osodir gan y Ddeddf hon.
(4)Caiff yr Ombwdsmon gadw costau a delir iddo o dan hysbysiad adennill costau (gweler adran 21 ac adran 22) (yn hytrach na’u talu i Gronfa Gyfunol Cymru) i’w defnyddio mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau a roddir neu a osodir gan y Ddeddf hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2