Search Legislation

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Paragraff 14

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, Paragraff 14 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 30 Hydref 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

DirprwyoLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

14(1)Caniateir i unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon gael eu cyflawni ar ran yr Ombwdsmon—

(a)gan unrhyw berson a awdurdodir gan yr Ombwdsmon i wneud hynny, a

(b)i’r graddau a awdurdodwyd.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar gyfrifoldeb yr Ombwdsmon i gyflawni unrhyw swyddogaeth o’r fath.

(3)Mae person a awdurdodir gan yr Ombwdsmon o dan is-baragraff (1) i’w drin yn was y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (p.6).

(4)Ni chaniateir gwneud unrhyw drefniadau rhwng yr Ombwdsmon, ar y naill law, a Gweinidogion Cymru (neu Brif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru), ar y llaw arall, ar gyfer—

(a)arfer unrhyw swyddogaethau’r naill gan y llall,

(b)arfer unrhyw swyddogaethau Gweinidogion Cymru (neu Brif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru) gan aelodau o staff yr Ombwdsmon,

(c)arfer unrhyw swyddogaethau’r Ombwdsmon gan aelodau o staff Llywodraeth Cymru, neu

(d)darparu gwasanaethau gweinyddol, proffesiynol neu dechnegol gan y naill ar gyfer y llall.

(5)Mae is-baragraff (4) yn gymwys er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth a fyddai, fel arall, yn caniatáu i drefniadau o’r fath gael eu gwneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Back to top

Options/Help