ATODLEN 1OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU: PENODI ETC
Archwilio
18
(1)
Rhaid i’r cyfrifon a gaiff eu paratoi gan yr Ombwdsmon ar gyfer blwyddyn ariannol gael eu cyflwyno ganddo i Archwilydd Cyffredinol Cymru heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd yn y flwyddyn ariannol ddilynol.
(2)
Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)
archwilio, ardystio a llunio adroddiad am bob set o gyfrifon a gyflwynir i Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y paragraff hwn, a
(b)
yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), heb fod yn hwyrach na phedwar mis ar ôl i’r cyfrifon gael eu cyflwyno, osod gerbron y Cynulliad gopi ohonynt fel y’u hardystiwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghyd ag adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru arnynt (“copi o’r cyfrifon ardystiedig a’r adroddiad”).
(3)
Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru osod copi o’r cyfrifon ardystiedig a’r adroddiad gerbron y Cynulliad ar ôl y terfyn amser o bedwar mis a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) pan na fo’n rhesymol ymarferol i Archwilydd Cyffredinol Cymru gadw at y terfyn amser hwnnw.
(4)
Pan fo is-baragraff (3) yn gymwys, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)
cyn y terfyn amser o bedwar mis a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b), osod gerbron y Cynulliad ddatganiad yn esbonio pam nad yw’n rhesymol ymarferol i Archwilydd Cyffredinol Cymru osod copi o’r cyfrifon ardystiedig a’r adroddiad gerbron y Cynulliad cyn y terfyn amser hwnnw, a
(b)
gosod copi o’r cyfrifon ardystiedig a’r adroddiad gerbron y Cynulliad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y terfyn amser hwnnw.
(5)
Wrth archwilio cyfrifon a gyflwynir i Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y paragraff hwn rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn benodol, fod wedi ei fodloni—
(a)
yr aethpwyd yn gyfreithiol i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef, ac yn unol â’r awdurdod sy’n llywodraethu’r gwariant, a
(b)
bod yr Ombwdsmon wedi gwneud trefniadau priodol i ddefnyddio adnoddau’r Ombwdsmon yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol.