Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Archwiliadau i’r defnydd o adnoddauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

20(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliadau ynghylch pa mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y defnyddiodd yr Ombwdsmon ei adnoddau i gyflawni ei swyddogaethau.

(2)Ni chaniateir dehongli is-baragraff (1) yn un sy’n rhoi hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu teilyngdod amcanion polisi’r Ombwdsmon.

(3)Wrth benderfynu sut i gyflawni swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y paragraff hwn, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ystyried barn y Pwyllgor Archwilio ynghylch yr archwiliadau y dylai Archwilydd Cyffredinol Cymru eu cynnal.

(4)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru osod gerbron y Cynulliad adroddiad am ganlyniadau unrhyw archwiliad a gynhaliwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y paragraff hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2