xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(a gyflwynir gan adran 2)
1Mae’r Ombwdsmon i’w benodi gan Ei Mawrhydi ar enwebiad y Cynulliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
2(1)Mae’r Ombwdsmon yn gorfforaeth undyn.
(2)Mae’r Ombwdsmon yn dal swydd o dan Ei Mawrhydi ac yn cyflawni swyddogaethau ar ran y Goron.
(3)Mae’r Ombwdsmon yn was y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (p.6).
(4)Ond nid yw gwasanaeth yn swydd Ombwdsmon yn wasanaeth yng ngwasanaeth sifil y Goron.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
3(1)Tymor swydd person yn Ombwdsmon yw saith mlynedd (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4) a pharagraff 6).
(2)Nid yw person a benodir yn Ombwdsmon yn gymwys i’w ailbenodi.
(3)Caiff Ei Mawrhydi ryddhau person o swydd yr Ombwdsmon—
(a)ar gais yr Ombwdsmon, neu
(b)os yw Ei Mawrhydi yn fodlon nad yw’r person, am resymau meddygol, yn gallu cyflawni dyletswyddau’r swydd.
(4)Caiff Ei Mawrhydi ddiswyddo person o swydd Ombwdsmon yn unol ag argymhelliad, ar sail camymddygiad y person, y dylai Ei Mawrhydi wneud hynny.
(5)Ni chaniateir gwneud argymhelliad i ddiswyddo person o swydd Ombwdsmon oni bai—
(a)bod y Cynulliad wedi penderfynu y dylid gwneud yr argymhelliad, a
(b)bod penderfyniad y Cynulliad wedi’i basio drwy bleidlais lle roedd nifer yr Aelodau Cynulliad a bleidleisiodd o’i blaid yn ddim llai na dwy ran o dair o gyfanswm nifer y seddi yn y Cynulliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
4(1)Os daw swydd yr Ombwdsmon yn wag, caiff Ei Mawrhydi, ar enwebiad y Cynulliad, benodi person i weithredu fel yr Ombwdsmon.
(2)Caiff person a benodir i weithredu fel yr Ombwdsmon (“Ombwdsmon dros dro”) fod wedi dal swydd yr Ombwdsmon.
(3)Mae person a benodir yn Ombwdsmon dros dro yn gymwys i’w benodi’n Ombwdsmon (oni bai bod y person eisoes wedi dal swydd yr Ombwdsmon).
(4)Nid yw’r pŵer i benodi person yn Ombwdsmon dros dro yn arferadwy ar ôl diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y daeth y swydd yn wag.
(5)Mae Ombwdsmon dros dro yn dal ei swydd yn unol â thelerau ei benodiad, yn ddarostyngedig i is-baragraff (6) (a pharagraff 2, fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (7)).
(6)Ni chaiff Ombwdsmon dros dro ddal y swydd ar ôl—
(a)penodi person yn Ombwdsmon, neu
(b)os yw hynny’n gynharach, ar ddiwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y daeth y swydd yn wag.
(7)Tra bydd Ombwdsmon dros dro yn dal y swydd mae i gael ei ystyried (ac eithrio at ddibenion paragraffau 1, 3, 6 i 10 a’r paragraff hwn) yn Ombwdsmon.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I8Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
5Rhaid i’r Cynulliad bennu’r telerau sy’n gymwys i benodiad a wneir o dan baragraff 1 neu baragraff 4(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I10Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
6(1)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Ombwdsmon neu’n Ombwdsmon dros dro os yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn gymwys—
(a)ei fod yn aelod o Dŷ’r Cyffredin;
(b)ei fod yn awdurdod rhestredig;
(c)ei fod yn aelod, yn aelod cyfetholedig, yn swyddog neu’n aelod o staff awdurdod rhestredig;
(d)ei fod wedi’i anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Cynulliad (heblaw yn rhinwedd [F1dal swydd yr Ombwdsmon neu Ombwdsmon dros dro]);
(e)ei fod wedi’i anghymhwyso rhag bod yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru (heblaw yn rhinwedd paragraff 7 o’r Atodlen hon);
(f)ei fod yn ddarparwr cartref gofal, yn ddarparwr gofal cartref neu’n ddarparwr gofal lliniarol annibynnol;
(g)ei fod yn swyddog neu’n aelod o staff darparwr o’r math hwnnw.
(2)At ddibenion is-baragraff (1)(g) mae person yn swyddog i ddarparwr os oes gan y person reolaeth dros ddarparwr nad yw’n unigolyn neu faterion darparwr o’r fath, neu os yw’r person yn rheoli darparwr nad yw’n unigolyn neu faterion darparwr o’r fath.
(3)Nid yw penodiad person yn Ombwdsmon neu’n Ombwdsmon dros dro yn ddilys os yw’r person wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1).
(4)Os yw person a benodwyd yn Ombwdsmon neu’n Ombwdsmon dros dro yn dod yn anghymwys o dan is-baragraff (1), mae’r person yn peidio â dal y swydd ar ôl ei anghymhwyso yn y cyfryw fodd.
(5)Ond nid effeithir ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan berson a benodwyd yn Ombwdsmon neu’n Ombwdsmon dros dro gan y ffaith fod y person hwnnw’n anghymwys o dan is-baragraff (1) neu’r ffaith ei fod yn dod yn anghymwys felly.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 1 para. 6(1)(d) wedi eu hamnewid (yn effeithiol yn unol ag a. 42(1)(c) o'r Ddeddf diwygio) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 35(4)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I12Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
7(1)Mae person sy’n dal swydd Ombwdsmon neu Ombwdsmon dros dro wedi’i anghymhwyso rhag—
(a)bod yn awdurdod rhestredig;
(b)bod yn aelod, yn aelod cyfetholedig, yn swyddog neu’n aelod o staff awdurdod rhestredig;
(c)dal swydd â thâl y cafodd ei benodi iddi gan awdurdod rhestredig.
F2(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F2Atod. 1 para. 7(2) wedi eu hepgor gan (yn effeithiol yn unol ag a. 42(1)(c) o'r Deddf diwygio) Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 35(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I14Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
8(1)Mae person sydd wedi peidio â dal swydd Ombwdsmon neu Ombwdsmon dros dro wedi’i anghymhwyso am y cyfnod perthnasol rhag—
(a)dal swydd sy’n awdurdod rhestredig;
(b)bod yn aelod, yn aelod cyfetholedig, yn swyddog neu’n aelod o staff awdurdod rhestredig;
(c)dal swydd â thâl y cafodd ei benodi iddi gan awdurdod rhestredig;
oni bai bod y Cynulliad yn cymeradwyo fel arall.
(2)Mae’r cyfnod perthnasol—
(a)yn dechrau pan fydd y person yn peidio â dal swydd Ombwdsmon neu, yn ôl y digwydd, Ombwdsmon dros dro, a
(b)yn dod i ben ar derfyn y flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn ariannol yr oedd yr Ombwdsmon neu, yn ôl y digwydd, yr Ombwdsmon dros dro, wedi peidio â dal y cyfryw swydd.
(3)Ond nid yw is-baragraff (1) yn anghymhwyso person rhag—
(a)bod yn aelod o’r Cynulliad neu Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
(b)dal swydd llywydd neu ddirprwy lywydd y Cynulliad neu swydd Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru a benodwyd o dan adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru neu un o Ddirprwy Weinidogion Cymru;
(c)bod yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o awdurdod lleol yng Nghymru;
(d)dal swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu faer etholedig awdurdod lleol yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I16Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
9Mae’r cyfeiriadau ym mharagraffau 7 a 8 at swydd â thâl yn cynnwys swydd lle y mae gan ddeiliad y swydd honno hawl i ad-daliad treuliau yn unig.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I18Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
10(1)Rhaid i’r Cynulliad—
(a)talu’r cyfryw gyflog a lwfansau i berson sy’n Ombwdsmon neu’n Ombwdsmon dros dro, a
(b)gwneud y cyfryw daliadau tuag at ddarparu buddion blwydd-dal ar gyfer yr Ombwdsmon neu’r Ombwdsmon dros dro neu mewn perthynas â’r Ombwdsmon neu’r Ombwdsmon dros dro,
y darperir ar eu cyfer gan delerau penodiad yr Ombwdsmon neu’r Ombwdsmon dros dro neu o dan y telerau hynny.
(2)Rhaid i’r Cynulliad dalu i berson sydd wedi peidio â dal swydd Ombwdsmon neu Ombwdsmon dros dro neu mewn perthynas â pherson o’r fath—
(a)y cyfryw symiau ar ffurf pensiynau ac arian rhodd, a
(b)y cyfryw symiau ar ffurf darpariaeth ar gyfer y buddion hynny,
y darparwyd ar eu cyfer gan delerau penodiad yr Ombwdsmon neu’r Ombwdsmon dros dro neu o dan y telerau hynny.
(3)Os yw person yn peidio â bod yn Ombwdsmon neu’n Ombwdsmon dros dro ac os yw’n ymddangos i’r Cynulliad fod amgylchiadau arbennig sy’n ei gwneud yn iawn bod y person hwnnw’n cael ei ddigolledu, caiff y Cynulliad dalu i’r person hwnnw unrhyw swm sy’n briodol yn ei farn ef.
(4)Rhaid i’r Cynulliad dalu i Weinidog y Gwasanaeth Sifil, ar y cyfryw adegau a gyfarwyddir gan y Gweinidog, y cyfryw symiau y bydd y Gweinidog yn penderfynu arnynt mewn perthynas ag unrhyw gynnydd y gellir ei briodoli i baragraff 9(4) o Atodlen 1 i Ddeddf 2005 yn y symiau sy’n daladwy o arian a ddarperir gan y Senedd o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p.11).
(5)Mae symiau y mae eu hangen i wneud taliadau o dan is-baragraffau (1), (2) a (4) i’w codi ar Gronfa Gyfunol Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I20Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
11(1)Mae unrhyw symiau sy’n daladwy gan yr Ombwdsmon o ganlyniad i dorri unrhyw ddyletswydd gontractiol neu ddyletswydd arall wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon, i gael eu codi ar Gronfa Gyfunol Cymru.
(2)Ac mae is-baragraff (1) yn gymwys pa un a yw’r toriad yn digwydd oherwydd gweithred neu anweithred ar ran—
(a)yr Ombwdsmon,
(b)aelod o staff yr Ombwdsmon, neu
(c)unrhyw berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i arfer swyddogaethau.
(3)Caiff yr Ombwdsmon gadw incwm sy’n deillio o ffioedd a godir yn rhinwedd adrannau 17(6), 23(6), 27(8), 29(2), 51(6), 55(7), 58(8) a 60(7) (yn hytrach na’i dalu i Gronfa Gyfunol Cymru) i’w ddefnyddio mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau a roddir neu a osodir gan y Ddeddf hon.
(4)Caiff yr Ombwdsmon gadw costau a delir iddo o dan hysbysiad adennill costau (gweler adran 21 ac adran 22) (yn hytrach na’u talu i Gronfa Gyfunol Cymru) i’w defnyddio mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau a roddir neu a osodir gan y Ddeddf hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I22Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
12(1)Caiff yr Ombwdsmon benodi’r cyfryw staff sy’n angenrheidiol, yn ei farn ef, i’w helpu i gyflawni ei swyddogaethau, ar y cyfryw delerau ac amodau a benderfynir ganddo.
(2)Ni chaniateir ystyried unrhyw aelod o staff yr Ombwdsmon yn berson sy’n dal swydd o dan Ei Mawrhydi neu’n cyflawni unrhyw swyddogaethau ar ran y Goron.
(3)Ond mae pob aelod o staff yr Ombwdsmon i’w drin yn was y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (p.6).
(4)Rhaid i’r Ombwdsmon dalu i Weinidog y Gwasanaeth Sifil, ar yr adegau a gyfarwyddir gan y Gweinidog, y cyfryw swm y bydd y Gweinidog yn penderfynu arno mewn perthynas ag unrhyw gynnydd y gellir ei briodoli i baragraff 11(4) o Atodlen 1 i Ddeddf 2005 yn y symiau sy’n daladwy o arian a ddarperir gan y Senedd o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p.11).
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I24Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
13(1)Caiff yr Ombwdsmon geisio cyngor gan unrhyw berson sydd, yn ei farn ef, yn gymwys i’w roi iddo, i’w gynorthwyo i gyflawni ei swyddogaethau.
(2)Caiff yr Ombwdsmon dalu i unrhyw berson y mae’r Ombwdsmon yn cael cyngor ganddo o dan is-baragraff (1) y cyfryw ffioedd neu lwfansau a benderfynir gan yr Ombwdsmon.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I26Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
14(1)Caniateir i unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon gael eu cyflawni ar ran yr Ombwdsmon—
(a)gan unrhyw berson a awdurdodir gan yr Ombwdsmon i wneud hynny, a
(b)i’r graddau a awdurdodwyd.
(2)Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar gyfrifoldeb yr Ombwdsmon i gyflawni unrhyw swyddogaeth o’r fath.
(3)Mae person a awdurdodir gan yr Ombwdsmon o dan is-baragraff (1) i’w drin yn was y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (p.6).
(4)Ni chaniateir gwneud unrhyw drefniadau rhwng yr Ombwdsmon, ar y naill law, a Gweinidogion Cymru (neu Brif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru), ar y llaw arall, ar gyfer—
(a)arfer unrhyw swyddogaethau’r naill gan y llall,
(b)arfer unrhyw swyddogaethau Gweinidogion Cymru (neu Brif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru) gan aelodau o staff yr Ombwdsmon,
(c)arfer unrhyw swyddogaethau’r Ombwdsmon gan aelodau o staff Llywodraeth Cymru, neu
(d)darparu gwasanaethau gweinyddol, proffesiynol neu dechnegol gan y naill ar gyfer y llall.
(5)Mae is-baragraff (4) yn gymwys er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth a fyddai, fel arall, yn caniatáu i drefniadau o’r fath gael eu gwneud.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I28Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
15(1)O ran yr Ombwdsmon—
(a)rhaid iddo baratoi adroddiad cyffredinol bob blwyddyn ynghylch cyflawni ei swyddogaethau (“adroddiad blynyddol”);
(b)caiff baratoi unrhyw adroddiad arall mewn perthynas â’i swyddogaethau sydd, yn ei farn ef, yn briodol (“adroddiad eithriadol”).
(2)Caniateir i adroddiad a baratoir o dan y paragraff hwn gynnwys unrhyw argymhellion cyffredinol sydd gan yr Ombwdsmon sydd wedi codi wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau.
(3)Rhaid i’r Ombwdsmon osod copi o bob adroddiad a baratoir o dan y paragraff hwn gerbron y Cynulliad ac ar yr un pryd rhaid iddo anfon copi at Lywodraeth Cymru ac (os yw’r adroddiad yn adroddiad eithriadol) rhaid iddo anfon copi ohono at unrhyw awdurdodau rhestredig (ac eithrio Llywodraeth Cymru) sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol.
(4)Caiff yr Ombwdsmon hefyd anfon copi o unrhyw adroddiad a baratoir o dan y paragraff hwn at unrhyw bersonau eraill sydd, yn ei farn ef, yn briodol.
(5)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi unrhyw adroddiad a osodir gerbron y Cynulliad o dan y paragraff hwn, a chaiff y Cynulliad hefyd gyhoeddi’r adroddiad.
(6)Rhaid i’r Ombwdsmon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan y Cynulliad mewn perthynas ag adroddiad blynyddol.
(7)Os yw adroddiad a baratoir o dan y paragraff hwn—
(a)yn crybwyll enw unrhyw berson heblaw awdurdod rhestredig, darparwr cartref gofal, darparwr gofal cartref neu ddarparwr gofal lliniarol annibynnol—
(i)y mae cwyn wedi’i gwneud i’r Ombwdsmon amdano neu wedi’i hatgyfeirio at yr Ombwdsmon yn ei gylch o dan y Ddeddf hon, neu
(ii)y mae’r Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad iddo o dan adran 4 neu 44, neu
(b)yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud unrhyw berson o’r fath yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, eu hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad,
ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o’r adroddiad a osodir gerbron y Cynulliad o dan is-baragraff (3), a anfonir at berson o dan is-baragraff (3) neu (4) neu a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon o dan is-baragraff (5), yn ddarostyngedig i is-baragraff (8).
(8)Nid yw is-baragraff (7) yn gymwys mewn perthynas â fersiwn o’r adroddiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau unrhyw bersonau sydd, yn ei farn ef yn briodol, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I30Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
16(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Ombwdsmon baratoi amcangyfrif o incwm a threuliau ei swyddfa.
(2)Rhaid i’r Ombwdsmon gyflwyno’r amcangyfrif o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi i’r pwyllgor neu i’r pwyllgorau Cynulliad a bennir yn rheolau sefydlog y Cynulliad.
(3)Rhaid i’r pwyllgor neu’r pwyllgorau archwilio amcangyfrif a gyflwynwyd yn unol ag is-baragraff (2) ac yna rhaid gosod yr amcangyfrif gerbron y Cynulliad gydag unrhyw addasiadau a ystyrir yn briodol.
(4)Cyn gosod gerbron y Cynulliad amcangyfrif gydag addasiadau a gyflwynwyd yn unol ag is-baragraff (2), rhaid i’r pwyllgor neu’r pwyllgorau—
(a)ymgynghori â’r Ombwdsmon, a
(b)ystyried unrhyw sylwadau a wna’r Ombwdsmon.
(5)Y flwyddyn ariannol gyntaf yw’r flwyddyn ariannol y penodir y person cyntaf i’w benodi’n Ombwdsmon.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I32Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
17(1)Rhaid i’r Ombwdsmon—
(a)cadw cofnodion cyfrifyddu cywir, a
(b)ar gyfer pob blwyddyn ariannol, baratoi cyfrifon yn unol â chyfarwyddydau a roddir i’r Ombwdsmon gan y Trysorlys.
(2)Mae’r cyfarwyddydau y caiff y Trysorlys eu rhoi o dan is-baragraff (1)(b) yn cynnwys cyfarwyddydau i baratoi cyfrifon sy’n ymwneud â materion a thrafodion ariannol personau heblaw’r Ombwdsmon.
(3)Mae’r cyfarwyddydau y caiff y Trysorlys eu rhoi o dan is-baragraff (1)(b) yn cynnwys, yn benodol, gyfarwyddydau ynghylch—
(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y caiff ei chyflwyno;
(b)y dulliau a’r egwyddorion a fydd yn sail ar gyfer paratoi’r cyfrifon;
(c)yr wybodaeth ychwanegol (os o gwbl) sydd i fynd gyda’r cyfrifon.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I34Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
18(1)Rhaid i’r cyfrifon a gaiff eu paratoi gan yr Ombwdsmon ar gyfer blwyddyn ariannol gael eu cyflwyno ganddo i Archwilydd Cyffredinol Cymru heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd yn y flwyddyn ariannol ddilynol.
(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)archwilio, ardystio a llunio adroddiad am bob set o gyfrifon a gyflwynir i Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y paragraff hwn, a
(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), heb fod yn hwyrach na phedwar mis ar ôl i’r cyfrifon gael eu cyflwyno, osod gerbron y Cynulliad gopi ohonynt fel y’u hardystiwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghyd ag adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru arnynt (“copi o’r cyfrifon ardystiedig a’r adroddiad”).
(3)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru osod copi o’r cyfrifon ardystiedig a’r adroddiad gerbron y Cynulliad ar ôl y terfyn amser o bedwar mis a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) pan na fo’n rhesymol ymarferol i Archwilydd Cyffredinol Cymru gadw at y terfyn amser hwnnw.
(4)Pan fo is-baragraff (3) yn gymwys, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)cyn y terfyn amser o bedwar mis a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b), osod gerbron y Cynulliad ddatganiad yn esbonio pam nad yw’n rhesymol ymarferol i Archwilydd Cyffredinol Cymru osod copi o’r cyfrifon ardystiedig a’r adroddiad gerbron y Cynulliad cyn y terfyn amser hwnnw, a
(b)gosod copi o’r cyfrifon ardystiedig a’r adroddiad gerbron y Cynulliad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y terfyn amser hwnnw.
(5)Wrth archwilio cyfrifon a gyflwynir i Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y paragraff hwn rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn benodol, fod wedi ei fodloni—
(a)yr aethpwyd yn gyfreithiol i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef, ac yn unol â’r awdurdod sy’n llywodraethu’r gwariant, a
(b)bod yr Ombwdsmon wedi gwneud trefniadau priodol i ddefnyddio adnoddau’r Ombwdsmon yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I36Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
19(1)Yr Ombwdsmon yw’r swyddog cyfrifyddu ar gyfer swyddfa’r Ombwdsmon.
(2)Os nad yw’r Ombwdsmon yn gallu cyflawni ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfrifyddu, caiff y Pwyllgor Archwilio ddynodi aelod o staff yr Ombwdsmon i fod yn swyddog cyfrifyddu cyhyd ag y mae’r Ombwdsmon yn methu â chyflawni ei gyfrifoldebau.
(3)Os yw swydd yr Ombwdsmon yn wag ac os nad oes Ombwdsmon dros dro, caiff y Pwyllgor Archwilio ddynodi aelod o staff yr Ombwdsmon i fod yn swyddog cyfrifyddu cyhyd ag y bydd swydd yr Ombwdsmon yn wag a bod dim Ombwdsmon dros dro.
(4)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, o ran cyfrifon a chyllid yr Ombwdsmon, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i’w gilydd gan y Pwyllgor Archwilio.
(5)Yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at gyfrifoldebau yn cynnwys yn benodol—
(a)cyfrifoldebau o ran llofnodi cyfrifon,
(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid yr Ombwdsmon, ac
(c)cyfrifoldebau am y modd darbodus, effeithlon ac effeithiol y defnyddir adnoddau’r Ombwdsmon.
(6)Mae’r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan y paragraff hwn yn cynnwys cyfrifoldebau i’r canlynol—
(a)y Cynulliad, Gweinidogion Cymru neu’r Pwyllgor Archwilio, neu
(b)Tŷ’r Cyffredin neu ei Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
(7)Os gofynnir iddo wneud hynny gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin, caiff y Pwyllgor Archwilio—
(a)cymryd tystiolaeth gan y swyddog cyfrifyddu ar ran y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a
(b)cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a throsglwyddo i’r Pwyllgor hwnnw unrhyw dystiolaeth a gafwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 1 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I38Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
20(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliadau ynghylch pa mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y defnyddiodd yr Ombwdsmon ei adnoddau i gyflawni ei swyddogaethau.
(2)Ni chaniateir dehongli is-baragraff (1) yn un sy’n rhoi hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu teilyngdod amcanion polisi’r Ombwdsmon.
(3)Wrth benderfynu sut i gyflawni swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y paragraff hwn, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ystyried barn y Pwyllgor Archwilio ynghylch yr archwiliadau y dylai Archwilydd Cyffredinol Cymru eu cynnal.
(4)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru osod gerbron y Cynulliad adroddiad am ganlyniadau unrhyw archwiliad a gynhaliwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y paragraff hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 1 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I40Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
21Caiff yr Ombwdsmon wneud unrhyw beth (gan gynnwys caffael neu waredu unrhyw eiddo neu hawliau) a fwriedir i’w hwyluso i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n gydnaws â chyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n gysylltiedig â hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 1 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I42Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
22(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r person sydd yn Ombwdsmon yn union cyn y diwrnod penodedig.
(2)Ar y diwrnod penodedig ac ar ôl hynny bydd y person—
(a)yn parhau i fod yn Ombwdsmon ac yn cael ei drin fel petai wedi cael ei benodi i’r swydd honno o dan y Ddeddf hon;
(b)yn dal y swydd am saith mlynedd namyn cyfnod sy’n cyfateb i’r cyfnod y bu’r person yn Ombwdsmon cyn y diwrnod penodedig.
(3)Yn y paragraff hwn, ystyr “y diwrnod penodedig” yw’r diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 1 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I44Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
(a gyflwynir gan adran 14)
1LL+CCamau gweithredu a gymerir gan Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, y Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru, neu gomisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru, neu gydag awdurdod Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, y Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru neu gomisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru at y diben a ganlyn—
(a)ymchwilio i drosedd neu atal trosedd, neu
(b)gwarchod diogelwch y Wladwriaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I45Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I46Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
2LL+CCychwyn neu gynnal achosion gerbron llys ag awdurdodaeth gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I47Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I48Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
3LL+CCamau gweithredu a gymerir gan aelod o staff gweinyddol tribiwnlys perthnasol cyn belled ag a gwneir hynny ar gyfarwyddyd neu ar awdurdod (boed yn ddatganedig neu’n oblygedig), person sy’n gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel aelod o’r tribiwnlys.
Gwybodaeth Cychwyn
I49Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I50Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
4LL+CCamau gweithredu a gymerir mewn perthynas â phenodiadau, diswyddiadau, tâl, disgyblaeth, blwydd-daliadau neu faterion personél eraill (heblaw gweithdrefnau ar gyfer recriwtio a phenodi) mewn perthynas â’r canlynol—
(a)gwasanaeth mewn swydd neu gyflogaeth o dan y Goron neu o dan awdurdod rhestredig;
(b)gwasanaeth mewn swydd neu gyflogaeth, neu o dan gontract am wasanaethau, y mae’r pŵer i gymryd camau gweithredu yn ei gylch mewn materion personél, neu i benderfynu ar gamau gweithredu neu i gymeradwyo camau gweithredu i’w cymryd mewn materion personél, wedi’i freinio yn Ei Mawrhydi neu mewn awdurdod rhestredig.
Gwybodaeth Cychwyn
I51Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I52Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
5LL+CCamau gweithredu sy’n ymwneud â phenderfynu ar swm rhent.
Gwybodaeth Cychwyn
I53Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I54Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
6(1)Camau gweithredu a gymerir gan awdurdod a bennir yn is-baragraff (2) ac sy’n ymwneud â’r canlynol—LL+C
(a)rhoi cyfarwyddyd, neu
(b)ymddygiad, cwricwlwm, trefniadaeth fewnol, rheoli neu ddisgyblu,
mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru.
(2)Yr awdurdodau yw—
(a)awdurdod lleol yng Nghymru;
(b)panel apêl derbyn;
(c)corff llywodraethu ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol;
(d)panel apêl gwahardd.
Gwybodaeth Cychwyn
I55Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I56Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
7LL+CCamau gweithredu a gymerir gan Fwrdd Iechyd Lleol wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan—
(a)Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaeth a Thribiwnlys) 1992 (O.S.1992/664) neu unrhyw offeryn sy’n disodli’r rheoliadau hynny;
(b)rheoliadau a wneir o dan adran 38, 39, 41 neu 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) yn rhinwedd adran 17 o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) (ymchwiliadau i faterion sy’n ymwneud â gwasanaethau).
Gwybodaeth Cychwyn
I57Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I58Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
(a gyflwynir gan adran 31)
Gwybodaeth Cychwyn
I59Atod. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I60Atod. 3 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru.
Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llywodraeth leol, tân a’r heddlu
Awdurdod lleol yng Nghymru.
Bwrdd ar y cyd y mae ei awdurdodau cyfansoddol oll yn awdurdodau lleol yng Nghymru.
Awdurdod tân ac achub yng Nghymru a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo.
Comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.
F3...
[F4Cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.]
Yr Amgylchedd
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd.
Awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru.
Corff Adnoddau Naturiol Cymru.
Asiantaeth yr Amgylchedd.
Y Comisiynwyr Coedwigaeth.
Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
Iechyd a gofal cymdeithasol
Gofal Cymdeithasol Cymru.
F5...
Bwrdd Iechyd Lleol.
Ymddiriedolaeth GIG sy’n rheoli ysbyty neu sefydliad neu gyfleuster arall yng Nghymru.
Awdurdod Iechyd Arbennig nad yw’n cyflawni swyddogaethau yn Lloegr yn unig neu’n bennaf.
F6...
Darparwr annibynnol yng Nghymru.
Darparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru.
Person â swyddogaethau a roddir gan reoliadau a wneir o dan adran 113(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43).
Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.
[F7Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru.]
Tai
Landlord cymdeithasol yng Nghymru.
Addysg a hyfforddiant
Swyddfa Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales.
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Panel apêl derbyn a gyfansoddwyd yn unol â rheoliadau o dan adran 94(5) neu 95(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).
Corff llywodraethu unrhyw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol i’r graddau y mae’n gweithredu mewn cysylltiad â derbyn disgyblion i’r ysgol neu fel arall yn cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).
Panel apêl gwahardd a gyfansoddwyd yn unol â rheoliadau o dan adran 52 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32).
Cymwysterau Cymru.
Y celfyddydau a hamdden
Cyngor Celfyddydau Cymru.
Cyngor Chwaraeon Cymru.
Trethi
Awdurdod Cyllid Cymru.
Amrywiol
Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu.
Byrddau Cadwraethwyr Coity Walia.
Comisiynydd y Gymraeg.
Awdurdodau harbwr yng Nghymru (ac mae i “awdurdod harbwr” yr ystyr a roddir i “harbour authority” yn adran 313(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (p.21)) ac awdurdodau porthladd yng Nghymru (ac ystyr “awdurdod porthladd” yw awdurdod harbwr, neu os nad oes awdurdod o’r fath, y person sydd â rheolaeth am weithrediad y porthladd)—
a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer y diwydiant pysgota, ar gyfer hamdden neu ar gyfer cyfathrebu rhwng lleoedd yng Nghymru neu sy’n ofynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer y diwydiant pysgota, ar gyfer hamdden neu ar gyfer cyfathrebu rhwng lleoedd yng Nghymru (neu ar gyfer dau neu ragor o’r dibenion hyn);
i’r graddau y mae’n gweithredu mewn cysylltiad â diogelu iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid neu’r amgylchedd.
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
Bwrdd Cadwraethwyr Towyn Trewan.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn Atod. 3 wedi eu hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(1)(e), Atod. 9 para. 48
F4Geiriau yn Atod. 3 wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021 (O.S. 2021/345), rhlau. 1(2), 2(2)
F5Atod. 3 entry wedi ei hepgor (1.4.2023) yn rhinwedd Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (asc 1), a. 29(2), Atod. 3 para. 17(3)(a); O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)
F6Atod. 3 entry wedi ei hepgor (1.4.2023) yn rhinwedd Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (asc 1), a. 29(2), Atod. 3 para. 17(3)(b); O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)
F7Atod. 3 entry wedi ei fewnosod (1.4.2023) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (asc 1), a. 29(2), Atod. 3 para. 17(3)(c); O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)
(a gyflwynir gan adran 42)
1LL+CCychwyn neu gynnal achosion gerbron llys ag awdurdodaeth gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I61Atod. 4 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I62Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
2LL+CCamau gweithredu a gymerir mewn perthynas â phenodiadau, diswyddiadau, tâl, disgyblaeth, blwydd-daliadau neu faterion personél eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I63Atod. 4 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I64Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
(a gyflwynir gan adran 75)
1Mewnosoder adran newydd 75ZB—
(1)This section applies where it appears to the Commissioner that a case which he is—
(a)examining in accordance with regulations made under section 74, or
(b)considering whether to examine in accordance with such regulations,
relates to or raises a matter which could be the subject of an investigation by the Public Services Ombudsman for Wales (the ‘connected matter’).
(2)Where the Commissioner considers it appropriate, he must inform the Ombudsman about the connected matter.
(3)Where the Commissioner considers that the case also relates to or raises a matter which he is entitled to examine himself (the ‘children matter’), he must also if he considers it appropriate—
(a)inform the Ombudsman about the Commissioners proposals for examination of the case, and
(b)consult the Ombudsman about those proposals.
(4)Where the Commissioner and the Ombudsman consider that they are entitled to examine, respectively, the children matter and the connected matter they may—
(a)co-operate with each other in the separate examination of each of those matters;
(b)act together in the examination of those matters; and
(c)prepare and publish a joint report containing their respective conclusions in relation to the matters they have each examined.
(5)Where the Commissioner considers—
(a)that the case is not one which relates to or raises a matter that he is entitled to examine himself, and
(b)that it is appropriate to do so,
he must inform the person whose case it is, or another person interested in it that he thinks fit, about how to secure referral to the Ombudsman of the connected matter.”
Gwybodaeth Cychwyn
I65Atod. 5 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I66Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
2Mewnosoder adran newydd 75ZC—
(1)This section applies where it appears to the Commissioner that a case which he is—
(a)examining in accordance with regulations made under section 74, or
(b)considering whether to examine in accordance with such regulations,
relates to or raises a matter which could be the subject of an investigation by the Public Services Ombudsman for Wales.
(2)Where the Commissioner considers it appropriate, he must—
(a)inform the Ombudsman about the case, and
(b)consult him in relation to it.
(3)Where the Commissioner consults the Ombudsman under this section, he and the Ombudsman may—
(a)co-operate with each other in relation to the case;
(b)conduct a joint examination into the case;
(c)prepare and publish a joint report in relation to the case.”
Gwybodaeth Cychwyn
I67Atod. 5 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I68Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
3Mewnosoder adran newydd 67B —
For the purposes of the law of defamation, the publication in a communication between the Auditor General for Wales or the Wales Audit Office and the Public Services Ombudsman for Wales of a matter in connection with a joint investigation conducted under section 68(2) of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019, is absolutely privileged.”
Gwybodaeth Cychwyn
I69Atod. 5 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I70Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
4Mewnosoder adran newydd 29A—
(1)Pan fo Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol o dan adran 68 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3), caiff yr Ombwdsmon a’r Archwilydd Cyffredinol—
(a)cydweithredu â’i gilydd mewn perthynas â’r mater,
(b)cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r mater, ac
(c)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â’r ymchwiliad.”
Gwybodaeth Cychwyn
I71Atod. 5 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I72Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
5Yn adran 25, ar ôl is-adran 1(c), mewnosoder—
“(d)ymchwiliad o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3) gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (ac mae cyfeiriadau yn yr adran hon at y Comisiynydd arall neu’r Comisiynwyr yn cynnwys yr Ombwdsmon).”
Gwybodaeth Cychwyn
I73Atod. 5 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I74Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
6Yn adran 4 (adrannau etc. sy’n ddarostyngedig i ymchwiliad), yn is-adran (3A), yn lle “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005” rhodder “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”.
Gwybodaeth Cychwyn
I75Atod. 5 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I76Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
7Yn adran 11A (ymgynghoriadau rhwng y Comisiynydd Seneddol a Chomisiynwyr neu Ombwdsmyn eraill), yn is-adran (1)(b), yn lle “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005” rhodder “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”.
Gwybodaeth Cychwyn
I77Atod. 5 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I78Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
8Yn adran 34M (ymgynghori â Chomisiynwyr eraill), yn is-adran (1)(d), ar y diwedd mewnosoder “or the PSOWA 2019”.
Gwybodaeth Cychwyn
I79Atod. 5 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I80Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
9Yn adran 34T (dehongli Rhan 3A), yn is-adran (1), ar ôl y diffiniad o “the PSOWA 2005” mewnosoder—
““the PSOWA 2019” means the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I81Atod. 5 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I82Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
10Yn Atodlen A2 (penderfyniadau ar adolygiadau gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru), ym mharagraff 7, yn lle “the Public Services (Ombudsman) Wales Act 2005” rhodder “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005 and the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”.
Gwybodaeth Cychwyn
I83Atod. 5 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I84Atod. 5 para. 10 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
11Yn adran 5 (dynodiad ac adroddiadau’r swyddog monitro)—
(a)yn is-adran (2)(c), ar y diwedd mewnosoder “or the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”;
(b)yn is-adran (2AA), ar ôl “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005” mewnosoder “or the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”.
Gwybodaeth Cychwyn
I85Atod. 5 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I86Atod. 5 para. 11 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
12Yn adran 5A (adroddiadau'r swyddog monitro – awdurdodau lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth)—
(a)yn is-adran (3)(c), ar y diwedd mewnosoder “or the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”;
(b)yn is-adran (4A), ar ôl “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005” mewnosoder “or the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”.
Gwybodaeth Cychwyn
I87Atod. 5 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I88Atod. 5 para. 12 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
13Yn Atodlen 1B (penderfyniadau ar adolygiadau gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru), ym mharagraff 7, ar ôl “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005” mewnosoder “and the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”.
Gwybodaeth Cychwyn
I89Atod. 5 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I90Atod. 5 para. 13 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
14Yn Atodlen 3 (penderfynu ar apelau penodol gan berson a benodir gan Ysgrifennydd Gwladol), ym mharagraff 7(3), ar ôl “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005” mewnosoder “and the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”.
Gwybodaeth Cychwyn
I91Atod. 5 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I92Atod. 5 para. 14 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
15Yn adran 18 (ymgynghori yn ystod ymchwiliadau), yn is-adran (1)(ba), ar y diwedd mewnosoder “or the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”.
Gwybodaeth Cychwyn
I93Atod. 5 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I94Atod. 5 para. 15 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
16Yn adran 50C (seiliau ar gyfer rhoi hysbysiad), yn is-adran (10), ar y diwedd mewnosoder “or section 23 of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”.
Gwybodaeth Cychwyn
I95Atod. 5 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I96Atod. 5 para. 16 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
17Yn adran 51 (cynlluniau ar gyfer ymchwilio i gwynion), yn is-adran (7), yn lle “section 41 of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005” rhodder “section 78 of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”.
Gwybodaeth Cychwyn
I97Atod. 5 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I98Atod. 5 para. 17 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
18Yn adran 76 (datgelu gwybodaeth rhwng Comisiynydd ac ombwdsmyn), yn yr ail golofn o’r rhes sy’n cyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn y tabl yn is-adran (1), ar y diwedd mewnosoder “or Part 3 of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”.
Gwybodaeth Cychwyn
I99Atod. 5 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I100Atod. 5 para. 18 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
19Yn adran 68 (Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru), yn is-adran (3), yn lle “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005” rhodder “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”.
Gwybodaeth Cychwyn
I101Atod. 5 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I102Atod. 5 para. 19 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
F820LL+C. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F8Atod. 5 para. 20 wedi ei hepgor (5.5.2022) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), s. 175(7), Atod. 8 para. 10; O.S. 2022/98, ergl. 2(b) (gyda ergl. 3)
21Yn adran 113 (cwynion ynghylch gofal iechyd), yn is-adran (4)(aa)—
(a)yn lle “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005” rhodder “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”;
(b)yn lle “section 2(3)” rhodder “section 3(3)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I103Atod. 5 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I104Atod. 5 para. 21 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
22Yn adran 187 (gwasanaethau eirioli annibynnol), in is-adran (3)—
(a)yn y diffiniad o “health service body”, yn lle “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005 (p.10)” rhodder “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”;
(b)yn y diffiniad o “independent palliative care provider”, yn lle “section 34T of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005” rhodder “section 64 of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”;
(c)yn y diffiniad o “independent provider”, yn lle “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005” rhodder “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”.
Gwybodaeth Cychwyn
I105Atod. 5 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I106Atod. 5 para. 22 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
23Yn adran 18 (pŵer i ddatgelu gwybodaeth), yn is-adran (1)(b), ar y diwedd mewnosoder “or section 66 of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019 (cydweithio â phersonau a bennir)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I107Atod. 5 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I108Atod. 5 para. 23 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
24Yn Atodlen 8 (Archwilydd Cyffredinol Cymru), ym mharagraff 17(8)(ba), yn lle “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005” rhodder “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”.
Gwybodaeth Cychwyn
I109Atod. 5 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I110Atod. 5 para. 24 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
25Yn adran 223A (gwasanaethau eirioli annibynnol), yn is-adran (10)—
(a)yn y diffiniad o “health service body”, yn lle “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005” rhodder “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”;
(b)yn y diffiniad o “independent provider”, yn lle “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005” rhodder “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”;
(c)yn y diffiniad o “Welsh health body”, yn lle “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005” rhodder “the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”.
Gwybodaeth Cychwyn
I111Atod. 5 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I112Atod. 5 para. 25 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
26Yn adran 171 (cwynion ynghylch gwasanaethau cymdeithasol), yn is-adran (3)(a)—
(a)yn lle “Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005” rhodder “Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019”;
(b)yn lle “adran 2(3)” rhodder “adran 3(3)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I113Atod. 5 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I114Atod. 5 para. 26 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
27Yn adran 177 (rhoi ystyriaeth bellach i sylwadau), yn is-adran (4)(a)—
(a)yn lle “Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005” rhodder “Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019”;
(b)yn lle “adran 2(3)” rhodder “adran 3(3)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I115Atod. 5 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I116Atod. 5 para. 27 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
28Yn Atodlen 2 (eithriadau etc o’r GDPR), ym mharagraff 10(2)(c)(iv), ar y diwedd mewnosoder “or Part 5 of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019”.
Gwybodaeth Cychwyn
I117Atod. 5 para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I118Atod. 5 para. 28 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2