RHAN 3YMCHWILIADAU
Adroddiadau ar ymchwiliadau
I1I224Rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau
1
Os yw awdurdod rhestredig yn cael copi o adroddiad o dan adran 23(1)(b), rhaid i’r awdurdod sicrhau bod copïau o’r fersiwn honno o’r adroddiad ar gael am gyfnod o dair wythnos o leiaf—
a
yn un neu ragor o swyddfeydd yr awdurdod, a
b
os oes gan yr awdurdod wefan, ar y wefan honno.
2
Drwy gydol y cyfnod hwnnw o dair wythnos, caiff unrhyw berson—
a
archwilio copi o’r adroddiad yn y swyddfa neu’r swyddfeydd dan sylw ar unrhyw adeg resymol yn ddi-dâl;
b
gwneud copi o’r adroddiad neu unrhyw ran ohono ar unrhyw adeg resymol yn ddi-dâl;
c
ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod rhestredig roi copi o’r adroddiad neu unrhyw ran ohono i’r person, wedi i’r person dalu swm rhesymol os gofynnir am hynny;
d
gweld copi o’r adroddiad ar y wefan (os oes un) yn ddi-dâl.
3
Heb fod yn hwyrach na phythefnos ar ôl cael copi o’r adroddiad rhaid i’r awdurdod rhestredig sicrhau bod hysbysiad yn cael ei gyhoeddi mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y rhan honno o Gymru lle digwyddodd y mater sy’n destun yr adroddiad.
4
Rhaid i’r hysbysiad bennu—
a
y dyddiad y bydd y cyfnod o dair wythnos y cyfeirir ato yn is-adran (1) yn cychwyn,
b
y swyddfa neu’r swyddfeydd lle gellir archwilio copi o’r adroddiad, ac
c
cyfeiriad gwefan yr awdurdod (os oes ganddo un).
5
Caiff yr Ombwdsmon roi cyfarwyddydau i awdurdodau rhestredig ynghylch cyflawni eu swyddogaethau o dan yr adran hon.
6
Caiff cyfarwyddydau o dan is-adran (5) ymwneud â’r canlynol—
a
awdurdod rhestredig penodol mewn perthynas ag adroddiad penodol, neu
b
pob awdurdod rhestredig neu unrhyw un neu ragor ohonynt mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau yn gyffredinol o dan yr adran hon.
7
Mae person yn cyflawni trosedd—
a
os yw’r person yn fwriadol yn rhwystro person wrth iddo arfer hawl a roddir gan is-adran (2)(a), (b) neu (d), neu
b
os yw’r person yn gwrthod cydymffurfio â gofyniad o dan is-adran (2)(c).
8
Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn atebol ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
9
Caiff yr Ombwdsmon gyfarwyddo bod is-adrannau (1) i (4) yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas ag adroddiad penodol.
10
Wrth benderfynu pa un ai i roi cyfarwyddyd o dan is-adran (9), rhaid i’r Ombwdsmon ystyried y canlynol—
a
budd y cyhoedd,
b
buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un), ac
c
buddiannau unrhyw bersonau eraill sy’n briodol, ym marn yr Ombwdsmon.