RHAN 3YMCHWILIADAU
Adroddiadau ar ymchwiliadau
I1I226Camau gweithredu ar ôl cael adroddiad
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, mewn adroddiad o dan adran 23 ar ymchwiliad mewn perthynas ag awdurdod rhestredig, yn dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo.
2
Rhaid i’r awdurdod rhestredig ystyried yr adroddiad a hysbysu’r Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod a ganiateir—
a
am y camau gweithredu y mae wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd mewn ymateb iddo, a
b
cyn diwedd pa gyfnod y mae’n bwriadu cymryd y camau gweithredu hynny (os nad yw wedi gwneud hynny eisoes).
3
Y cyfnod a ganiateir yw—
a
y cyfnod o fis sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r awdurdod yn cael yr adroddiad, neu
b
unrhyw gyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.