RHAN 3YMCHWILIADAU
Adroddiadau arbennig
I1I230Adroddiadau arbennig sy’n ymwneud â Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1
Mae’r adran hon yn gymwys os caiff adroddiad arbennig ei wneud mewn achos pan gafodd yr ymchwiliad ei wneud mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru neu Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
2
Rhaid i’r person perthnasol osod copi o’r adroddiad gerbron y Cynulliad.
3
Yn is-adran (2) ystyr “y person perthnasol” yw—
a
os cafodd yr ymchwiliad ei wneud mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru, Prif Weinidog Cymru, a
b
os cafodd yr ymchwiliad ei wneud mewn cysylltiad â Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, aelod o’r Comisiwn hwnnw.