(1)Mae’r adran hon yn gymwys os caiff adroddiad arbennig ei wneud mewn achos pan gafodd yr ymchwiliad ei wneud mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru neu Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2)Rhaid i’r person perthnasol osod copi o’r adroddiad gerbron y Cynulliad.
(3)Yn is-adran (2) ystyr “y person perthnasol” yw—
(a)os cafodd yr ymchwiliad ei wneud mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru, Prif Weinidog Cymru, a
(b)os cafodd yr ymchwiliad ei wneud mewn cysylltiad â Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, aelod o’r Comisiwn hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2A. 30 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2