(1)Mae’r personau a bennir yn Atodlen 3 yn awdurdodau rhestredig at ddibenion y Ddeddf hon.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 3 drwy—
(a)ychwanegu person,
(b)hepgor person, neu
(c)newid y disgrifiad o berson.
(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) sy’n ychwanegu person at Atodlen 3 ddarparu bod y Ddeddf hon yn gymwys i’r person hwnnw gyda’r addasiadau a bennir yn y rheoliadau.
(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ombwdsmon ac unrhyw bersonau eraill sydd, yn eu barn hwy, yn briodol.
(5)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (2) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
(6)Mae adrannau 32 a 33 yn cynnwys cyfyngiadau pellach ar y pŵer yn is-adran (2).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2A. 31 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2