RHAN 5YMCHWILIO I GWYNION SY’N YMWNEUD Â PHERSONAU ERAILL: GOFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL
Ymchwilio i gwynion
I1I243Pŵer i ymchwilio i gwynion
1
Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i gŵyn ynghylch mater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo os yw’r gŵyn—
a
wedi’i gwneud yn briodol i’r Ombwdsmon, neu
b
wedi’i hatgyfeirio’n briodol at yr Ombwdsmon, ac
yn achos cwyn sy’n ymwneud â darparwr gofal lliniarol annibynnol, os bodlonir yr amod yn is-adran (2).
2
Yr amod yw bod y darparwr gofal lliniarol annibynnol wedi cael cyllid cyhoeddus, o fewn y tair blynedd cyn dyddiad y camau gweithredu y mae’r ymchwiliad yn ymwneud â hwy, mewn perthynas â gwasanaeth gofal lliniarol y mae’n ei ddarparu yng Nghymru.
3
Yn is-adran (2) ystyr “cyllid cyhoeddus” yw cyllid gan—
a
Gweinidogion Cymru,
b
Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42),
c
Ymddiriedolaeth GIG, neu
d
cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
4
Mae cwyn wedi’i “gwneud yn briodol” i’r Ombwdsmon os (ond dim ond os)—
a
caiff y gŵyn ei gwneud gan berson sydd â hawl o dan adran 47 i wneud cwyn i’r Ombwdsmon,
b
cyn i’r gŵyn gael ei gwneud—
i
yw’r mater y mae’n ymwneud ag ef wedi ei ddwyn, gan neu ar ran y person yr effeithir arno, i sylw’r darparwr y mae’r gŵyn yn ymwneud ag ef, a
ii
yw’r darparwr wedi cael cyfle rhesymol i ymchwilio i’r mater ac ymateb iddo, ac
c
caiff gofynion adran 48(1) eu bodloni mewn perthynas â’r gŵyn.
5
Mae cwyn wedi’i “hatgyfeirio’n briodol” at yr Ombwdsmon os (ond dim ond os)—
a
caiff y gŵyn ei gwneud gan berson sydd â hawl o dan adran 47 i wneud cwyn i’r Ombwdsmon, a
b
caiff gofynion adran 49(1) eu bodloni mewn perthynas â hi.
6
Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a yw gofynion is-adran (1) wedi eu bodloni mewn perthynas â chŵyn.
7
Pan fo’r Ombwdsmon yn penderfynu na chafodd gofynion is-adran (1) eu bodloni mewn perthynas â chŵyn am na fodlonwyd gofynion is-adran (4)(b), adran 48(1) neu adran 49(1)(b), (c) neu (d) mewn perthynas â’r gŵyn honno, caiff yr Ombwdsmon, er hynny, ymchwilio i’r gŵyn—
a
os yw’n ymwneud â mater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo, a
b
os yw’r Ombwdsmon o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny.
8
Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad, i barhau ag ymchwiliad ai i roi’r gorau i ymchwiliad (ond gweler adran 48(5)(a) am gyfyngiad ar y pŵer i gychwyn ymchwiliad o dan is-adran (1)(a)).
9
Caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu a all, ym marn yr Ombwdsmon, helpu i wneud penderfyniad o dan is-adran (8).
10
Caiff yr Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad i gŵyn neu barhau ag ymchwiliad i gŵyn hyd yn oed os yw’r gŵyn wedi’i thynnu’n ôl (ond gweler adran 48(5)(a) am gyfyngiad ar y pŵer i gychwyn ymchwiliad o dan is-adran (1)(a)).