Search Legislation

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 44

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, Adran 44 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 17 Chwefror 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

44Pŵer i ymchwilio ar ei liwt ei hunLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i fater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo pa un a oes cwyn wedi’i gwneud yn briodol neu wedi’i hatgyfeirio’n briodol at yr Ombwdsmon ai peidio.

(2)Ond os yw’r mater yn ymwneud â darparwr gofal lliniarol annibynnol, dim ond os bodlonir yr amod yn adran 43(2) y caniateir defnyddio’r pŵer yn is-adran (1).

(3)Cyn i’r Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad o dan yr adran hon, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi sylw i fudd y cyhoedd wrth gychwyn ymchwiliad,

(b)bod ag amheuaeth resymol o gamweinyddiaeth systemig,

(c)ymgynghori â’r cyfryw bersonau sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon (ond gweler adran 66 am ddyletswyddau pellach ynghylch ymgynghori), a

(d)rhoi sylw i’r meini prawf ar gyfer cychwyn ymchwiliadau ar ei liwt ei hun a gyhoeddir o dan adran 45.

(4)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr adran hon—

(a)mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad, i barhau ag ymchwiliad ai i roi’r gorau i’r ymchwiliad o dan yr adran hon;

(b)caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu a all, ym marn yr Ombwdsmon, helpu i wneud penderfyniad o dan is-adran (4)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 44 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Back to top

Options/Help