RHAN 5YMCHWILIO I GWYNION SY’N YMWNEUD Â PHERSONAU ERAILL: GOFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL
Gweithdrefn ymchwilio a thystiolaeth
54Rhwystro a dirmygu
(1)
Os bodlonir yr Ombwdsmon fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran person, caiff yr Ombwdsmon ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw i’r Uchel Lys.
(2)
Yr amod yw bod y person—
(a)
heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon rhag cael eu cyflawni o dan y Rhan hon, neu
(b)
wedi cyflawni gweithred mewn perthynas ag ymchwiliad a fyddai, pe bai’r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn gyfystyr â dirmyg llys.
(3)
Os yw’r Ombwdsmon yn dyroddi tystysgrif, caiff yr Uchel Lys ymchwilio i’r mater.
(4)
Os bodlonir yr Uchel Lys fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran y person, caiff drin y person hwnnw yn yr un ffordd ag y caiff drin person sydd wedi cyflawni dirmyg llys o ran yr Uchel Lys.