Search Legislation

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 60

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, Adran 60 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 18 Chwefror 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

60Adroddiadau arbennigLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i adroddiad arbennig—

(a)nodi’r ffeithiau sy’n rhoi hawl i’r Ombwdsmon baratoi’r adroddiad arbennig (hynny yw, y ffeithiau sy’n gwneud achos 1, 2 neu 3 o adran 59 yn gymwys), a

(b)gwneud y cyfryw argymhellion sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon o ran y camau gweithredu y dylid, ym marn yr Ombwdsmon, eu cymryd—

(i)i unioni neu atal yr anghyfiawnder neu’r caledi i’r person, a

(ii)i atal anghyfiawnder neu galedi tebyg rhag cael ei achosi i unrhyw berson yn y dyfodol.

(2)Os yw’r adroddiad arbennig yn cael ei baratoi am fod achos 1 o adran 59 yn gymwys, rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad at bob person yr anfonwyd copi o’r adroddiad adran 55 ato o dan adran 55(2)(b).

(3)Os yw’r adroddiad arbennig yn cael ei baratoi am fod achos 2 neu 3 o adran 59 yn gymwys, rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad—

(a)os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chwyn, at y person a wnaeth y gŵyn;

(b)at y darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef.

(4)Caiff yr Ombwdsmon anfon copi o adroddiad arbennig at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(5)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi adroddiad arbennig.

(6)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o adroddiad arbennig a gyhoeddwyd, neu ran o adroddiad o’r fath, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.

(7)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad arbennig, neu ran o adroddiad o’r fath, o dan is-adran (6).

(8)Ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn fersiwn o adroddiad arbennig a anfonir at berson o dan is-adran (2), (3) neu (4) neu a gyhoeddir o dan is-adran (5)—

(a)enw unrhyw berson heblaw’r darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef;

(b)gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud y cyfryw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad arbennig.

(9)Nid yw is-adran (8) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad arbennig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 60 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Back to top

Options/Help