RHAN 5YMCHWILIO I GWYNION SY’N YMWNEUD Â PHERSONAU ERAILL: GOFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL
Adroddiadau arbennig
61Cyhoeddusrwydd pellach i adroddiadau arbennig
(1)
Caiff yr Ombwdsmon drefnu i hysbysiad am adroddiad arbennig gael ei gyhoeddi—
(a)
mewn un neu ragor o bapurau newydd, neu
(b)
drwy gyfrwng darlledu neu gyfryngau electronig eraill.
(2)
Caiff yr hysbysiad, er enghraifft—
(a)
darparu crynodeb o ganfyddiadau’r Ombwdsmon,
(b)
pennu cyfeiriad neu gyfeiriadau lle gellir archwilio copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ystod oriau swyddfa arferol, a lle y ceir copi o’r adroddiad hwnnw (neu ran o’r adroddiad hwnnw), a
(c)
pennu cyfeiriad gwefan lle gellir gweld copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd.
(3)
Rhaid i’r darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, os yw’r Ombwdsmon yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, ad-dalu’r Ombwdsmon y costau rhesymol o drefnu i gyhoeddi’r hysbysiad.
(4)
Wrth benderfynu pa un ai i wneud trefniadau o dan is-adran (1), rhaid i’r Ombwdsmon ystyried y canlynol—
(a)
budd y cyhoedd,
(b)
buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un), ac
(c)
buddiannau unrhyw berson arall sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol.