61Cyhoeddusrwydd pellach i adroddiadau arbennigLL+C
(1)Caiff yr Ombwdsmon drefnu i hysbysiad am adroddiad arbennig gael ei gyhoeddi—
(a)mewn un neu ragor o bapurau newydd, neu
(b)drwy gyfrwng darlledu neu gyfryngau electronig eraill.
(2)Caiff yr hysbysiad, er enghraifft—
(a)darparu crynodeb o ganfyddiadau’r Ombwdsmon,
(b)pennu cyfeiriad neu gyfeiriadau lle gellir archwilio copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ystod oriau swyddfa arferol, a lle y ceir copi o’r adroddiad hwnnw (neu ran o’r adroddiad hwnnw), a
(c)pennu cyfeiriad gwefan lle gellir gweld copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd.
(3)Rhaid i’r darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, os yw’r Ombwdsmon yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, ad-dalu’r Ombwdsmon y costau rhesymol o drefnu i gyhoeddi’r hysbysiad.
(4)Wrth benderfynu pa un ai i wneud trefniadau o dan is-adran (1), rhaid i’r Ombwdsmon ystyried y canlynol—
(a)budd y cyhoedd,
(b)buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un), ac
(c)buddiannau unrhyw berson arall sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2A. 61 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2