Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

68Gweithio gydag Archwilydd Cyffredinol CymruLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi gwybod i Archwilydd Cyffredinol Cymru am gynigion yr Ombwdsmon ar gyfer cynnal ymchwiliad, a

(b)ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch y dull mwyaf effeithiol o gynnal ymchwiliad.

(2)Os yw’r Ombwdsmon yn ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan yr adran hon, caiff yr Ombwdsmon ac Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)cydweithredu â’i gilydd mewn perthynas â’r mater y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef,

(b)cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r mater, ac

(c)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â’r ymchwiliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 68 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2