xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i’r Cynulliad, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ddiwedd y cyfnod 5 mlynedd, baratoi a chyhoeddi adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon yn ystod y cyfnod 5 mlynedd.
(2)Caiff y Cynulliad baratoi a chyhoeddi adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon ar unrhyw adeg.
(3)Wrth baratoi adroddiad o dan yr adran hon, rhaid i’r Cynulliad ymgynghori â’r cyfryw bersonau sydd, ym marn y Cynulliad, yn briodol.
(4)Yn yr adran hon, ystyr “y cyfnod 5 mlynedd” yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2A. 73 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2