RHAN 7AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cymhwyso Deddf 2005 i ymchwiliadau penodol

74Ymchwiliadau a gychwynnir cyn y daw adrannau 3, 4, 43 a 44 i rym

(1)

Mae is-adran (2) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad i fater cyn y dyddiad y daw adrannau 3, 4, 43 a 44 i rym ac nad yw’r Ombwdsmon wedi penderfynu ar yr ymchwiliad neu nad yw’r mater wedi’i ddatrys erbyn y dyddiad hwnnw.

(2)

Ar y dyddiad hwnnw, ac ar ôl hynny, mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10) yn parhau i fod yn gymwys at ddibenion yr ymchwiliad er gwaethaf darpariaethau eraill y Ddeddf hon.