RHAN 1HYGYRCHEDD CYFRAITH CYMRU

I611Dyletswydd i gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiad

1

Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiad.

2

Yn y Rhan hon, ystyr “hygyrchedd” cyfraith Cymru yw’r graddau y mae—

a

ar gael yn hwylus i aelodau’r cyhoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg;

b

wedi ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiweddaraf yn y ddwy iaith (sy’n dangos a yw deddfiadau mewn grym ac yn corffori unrhyw ddiwygiadau a wneir iddynt);

c

wedi ei threfnu’n glir ac yn rhesymegol (o fewn deddfiadau yn ogystal â rhwng deddfiadau);

d

yn hawdd ei deall ac yn sicr ei heffaith.

3

Yn y Rhan hon, ystyr “cyfraith Cymru” yw—

a

F31Deddfau Senedd Cymru a Mesurau’r Cynulliad;

b

is-ddeddfwriaeth a wneir o dan F31Ddeddfau Senedd Cymru a Mesurau’r Cynulliad;

c

unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;

d

unrhyw ddeddfiad arall, neu unrhyw reol gyfreithiol arall, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru ac y mae’n ymwneud â phwnc y gellid darparu ar ei gyfer mewn F26Deddf gan Senedd Cymru.

I642Rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru

1

Rhaid i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol lunio rhaglen sy’n nodi’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.

2

Rhaid llunio rhaglen ar gyfer pob un o dymhorau F2Senedd Cymru sy’n dechrau ar ôl i’r adran hon ddod i rym.

3

Rhaid i’r rhaglen gynnwys gweithgareddau arfaethedig y bwriedir iddynt—

a

cyfrannu at broses barhaus o gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru;

b

cynnal ffurf cyfraith Cymru (wedi iddi gael ei chodeiddio);

c

hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru;

d

hwyluso defnydd o’r Gymraeg.

4

Caiff y rhaglen hefyd gynnwys gweithgareddau arfaethedig—

a

y gellir eu cyflawni drwy gydweithio â Chomisiwn y Gyfraith (yn unol â Deddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 (p. 22)), neu

b

o unrhyw fath arall y mae Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried ei fod yn briodol.

5

Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen gerbron F9Senedd Cymru o fewn 6 mis i benodi Prif Weinidog ar ôl etholiad cyffredinol a gynhelir o dan Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

6

Caiff Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddiwygio’r rhaglen ar unrhyw adeg, ac os gwnânt hynny rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen ddiwygiedig gerbron F4Senedd Cymru.

7

Rhaid F16i Senedd Cymru adrodd yn flynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar y cynnydd a wneir o dan y rhaglen.

8

Yn is-adran (3), mae codeiddio cyfraith Cymru yn cynnwys—

a

mabwysiadu strwythur ar gyfer cyfraith Cymru sy’n gwella ei hygyrchedd;

b

trefnu a chyhoeddi cyfraith Cymru sydd wedi ei chydgrynhoi yn ôl y strwythur hwnnw.

RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Cymhwyso’r Rhan a’i heffaith

I48I253Deddfwriaeth y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi

1

Mae’r Rhan hon yn gymwys i—

a

y Ddeddf hon;

b

F31Deddfau Senedd Cymru sy’n cael y Cydsyniad Brenhinol ar F81 Ionawr 2020 neu ar ôl y diwrnod hwnnw;

c

is-offerynnau Cymreig a wneir ar F341 Ionawr 2020 neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

2

Ystyr “is-offeryn Cymreig” yw offeryn (pa un a yw’r offeryn hwnnw yn offeryn statudol ai peidio) nad yw ond yn cynnwys un neu ddau o’r canlynol—

a

is-ddeddfwriaeth a wneir o dan F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu Fesur Cynulliad, pa un ai gan Weinidogion Cymru neu gan unrhyw berson arall;

b

is-ddeddfwriaeth—

i

a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir,

ii

nas gwneir ond gan Weinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), a

iii

nad yw ond yn gymwys o ran Cymru.

3

Mae cyfeiriadau yng ngweddill y Rhan hon at F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi neu iddo yn rhinwedd is-adran (1).

I43I154Effaith darpariaethau’r Rhan hon

1

Pan fo’r Rhan hon yn gymwys i F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, mae’r darpariaethau yn y Rhan hon yn cael effaith mewn perthynas â’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw, ac eithrio i’r graddau—

a

y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

b

y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.

2

Nid yw’r eithriad yn is-adran (1) yn gymwys i adran 5 (statws cyfartal testunau deddfwriaeth ddwyieithog).

3

Nid yw paragraff (b) o’r eithriad hwnnw yn gymwys i—

a

adran 10 (cyfeiriadau at amser o’r dydd);

b

adran 28 (cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron);

c

adran 33 (nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoes).

Annotations:
Commencement Information
I43

A. 4 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I15

A. 4 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Deddfwriaeth ddwyieithog Cymru

I60I735Statws cyfartal y testunau Cymraeg a Saesneg

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo F26Deddf gan Senedd Cymru yn cael ei deddfu, neu pan fo is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, yn y Gymraeg a’r Saesneg.

2

Mae i’r testun Cymraeg a’r testun Saesneg statws cyfartal at bob diben.

Annotations:
Commencement Information
I60

A. 5 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I73

A. 5 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Ystyr geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn neddfwriaeth Cymru

I27I816Diffiniadau o eiriau ac ymadroddion

I27I11

Mae geiriau ac ymadroddion a restrir yn y Tabl yn Atodlen 1 i’w dehongli yn unol â’r Tabl hwnnw pan fônt yn ymddangos mewn F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig.

I812

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 1 er mwyn—

a

mewnosod diffiniadau newydd o eiriau neu ymadroddion;

b

dileu diffiniadau o eiriau neu ymadroddion;

c

diwygio diffiniadau o eiriau neu ymadroddion.

I813

Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed, a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu, yn dirymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir).

Annotations:
Commencement Information
I27

A. 6(1) mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I81

A. 6(2)(3) mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(b)

I1

A. 6(1) mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I26I787Mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog ac fel arall

Mewn F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig—

a

mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog;

b

mae geiriau yn y ffurf luosog yn cynnwys y ffurf unigol.

Annotations:
Commencement Information
I26

A. 7 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I78

A. 7 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I72I668Nid yw geiriau sy’n dynodi rhywedd yn gyfyngedig i’r rhywedd hwnnw

Mewn F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, nid yw geiriau sy’n dynodi personau o rywedd penodol i’w darllen fel pe baent yn gyfyngedig i bersonau o’r rhywedd hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I72

A. 8 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I66

A. 8 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I70I659Amrywio geiriau ac ymadroddion oherwydd gramadeg etc.

Pan fo deddfiad yn rhoi ystyr i air neu ymadrodd mewn F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, mae rhannau ymadrodd eraill a ffurfiau neu oleddfiadau gramadegol ar y gair neu’r ymadrodd i’w dehongli yn unol â’r ystyr hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I70

A. 9 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I65

A. 9 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I76I3210Cyfeiriadau at amser o’r dydd

Mae cyfeiriad at amser o’r dydd mewn F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at amser safonol Greenwich; ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 3 o Ddeddf Amser Haf 1972 (p. 6) (pwyntiau o amser yn ystod amser haf).

Annotations:
Commencement Information
I76

A. 10 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I32

A. 10 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I30I7911Cyfeiriadau at y Sofren

Mae cyfeiriad at y Sofren mewn F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig i’w ddarllen fel cyfeiriad at y Sofren ar y pryd.

Annotations:
Commencement Information
I30

A. 11 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I79

A. 11 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I9I4212Mesur pellter

Mae cyfeiriad at bellter mewn F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at y pellter hwnnw wedi ei fesur mewn llinell syth ar blân llorweddol.

Annotations:
Commencement Information
I9

A. 12 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I42

A. 12 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronig

I52I7513Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronig

1

Pan fo F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen drwy’r post i berson arall (“B”), mae A yn cyflwyno’r ddogfen os yw A yn cyfeirio’n briodol lythyr sy’n cynnwys y ddogfen, yn talu ymlaen llaw am ei bostio, ac yn ei bostio at B.

2

Pan fo F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen i berson arall (“B”) yn electronig, mae A yn cyflwyno’r ddogfen—

a

os yw A yn cyfeirio’n briodol gyfathrebiad electronig sy’n ffurfio’r ddogfen neu’n cynnwys y ddogfen, neu y mae’r ddogfen ynghlwm wrtho, ac yn ei anfon at B, a

b

os yw’r ddogfen yn cael ei hanfon ar ffurf electronig y gall B ei chyrchu a’i chadw.

3

Mae’r adran hon yn gymwys pa un a yw’r Ddeddf F25... neu’r F33offeryn yn defnyddio’r gair “cyflwyno” neu unrhyw ymadrodd arall (megis “anfon” neu “rhoi”) i gyfeirio at gyflwyno’r ddogfen.

I44I1914Y diwrnod pan fernir bod dogfen wedi ei chyflwyno

Pan fo dogfen yn cael ei chyflwyno drwy’r post neu’n electronig o dan F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno, oni phrofir i’r gwrthwyneb—

a

yn achos dogfen a gyflwynir drwy’r post, ar y diwrnod y byddai’r llythyr sy’n cynnwys y ddogfen yn cyrraedd yn nhrefn arferol y post;

b

yn achos dogfen a gyflwynir yn electronig, ar y diwrnod yr anfonir y cyfathrebiad electronig.

Annotations:
Commencement Information
I44

A. 14 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I19

A. 14 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Pwerau a dyletswyddau

I11I5115Parhad pwerau a dyletswyddau

1

Caniateir arfer pŵer a roddir gan F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig ar fwy nag un achlysur.

2

Mae dyletswydd a osodir gan F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn ddyletswydd barhaus a rhaid ei chyflawni yn ôl y gofyn.

3

Pan roddir pŵer gan F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig i ddeiliad swydd neu pan osodir dyletswydd ar ddeiliad swydd gan F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, mae i’w arfer neu i’w harfer gan ddeiliad y swydd ar y pryd.

Annotations:
Commencement Information
I11

A. 15 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I51

A. 15 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I46I3416Arfer pŵer neu ddyletswydd nad yw mewn grym

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo pŵer neu ddyletswydd yn cael ei roi neu ei gosod—

a

gan ddarpariaeth mewn F26Deddf gan Senedd Cymru a ddaw i rym—

i

ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau, a

ii

mwy nag un diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, neu

b

gan ddarpariaeth mewn is-offeryn Cymreig na ddaw i rym unwaith y caiff yr offeryn ei wneud.

2

Caniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd (a chaiff unrhyw offeryn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd ddod i rym) yn ystod y cyfnod—

a

sy’n dechrau pan gaiff y Ddeddf F19... y Cydsyniad Brenhinol neu pan wneir yr F14offeryn, a

b

sy’n gorffen pan ddaw’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd i rym.

3

Ond yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd ond i’r graddau y mae’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn—

a

i’r Ddeddf F15... neu i’r F24offeryn sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd, neu

b

i ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw,

ar yr adeg neu ar ôl yr adeg y daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym.

4

Pan fo darpariaeth mewn F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig nad yw mewn grym⁠—

a

yn gysylltiedig â phŵer neu ddyletswydd, neu’n atodol i bŵer neu ddyletswydd, a arferir yn unol â’r adran hon, a

b

yn dod i rym ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau,

mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai mewn grym i’r graddau y mae’n angenrheidiol i arfer y pŵer neu’r ddyletswydd yn unol â’r adran hon.

5

Mae arfer pŵer neu ddyletswydd yn unol â’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu gyfyngiadau a osodir gan y Ddeddf F32... neu’r F21offeryn sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd (pa un a yw’r ddarpariaeth sy’n gosod yr amod neu’r cyfyngiad mewn grym ai peidio).

I8I4517Cynnwys darpariaethau machlud a darpariaethau adolygu mewn is-ddeddfwriaeth

1

Caniateir arfer pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir neu a osodir gan F26Ddeddf gan Senedd Cymru fel bod yr is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth adolygu neu ddarpariaeth fachlud (neu’r ddwy).

2

Yn yr adran hon—

a

ystyr “darpariaeth adolygu” yw darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth yr is-ddeddfwriaeth adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth honno, neu effeithiolrwydd unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, o fewn cyfnod penodedig neu ar ddiwedd cyfnod penodedig;

b

ystyr “darpariaeth fachlud” yw darpariaeth i’r is-ddeddfwriaeth, neu unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, beidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod penodedig neu gyfnod penodedig;

c

ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn yr is-ddeddfwriaeth.

3

Caiff darpariaeth adolygu, ymhlith pethau eraill, wneud adolygiad yn ofynnol i ystyried a yw amcanion yr is-ddeddfwriaeth y mae’n gymwys iddi yn dal i fod yn briodol ac, os felly, a ellid eu cyflawni mewn ffordd arall.

4

Caiff yr is-ddeddfwriaeth sy’n cynnwys y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud ddarparu i’r ddarpariaeth fod yn gymwys yn gyffredinol neu’n unig mewn perthynas â darpariaethau penodedig yr is-ddeddfwriaeth neu achosion neu amgylchiadau penodedig.

5

Caniateir arfer y pŵer i wneud y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud.

Annotations:
Commencement Information
I8

A. 17 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I45

A. 17 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I59I3318Dirymu, diwygio ac ailddeddfu is-ddeddfwriaeth

1

Caniateir arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir gan F26Ddeddf gan Senedd Cymru i ddiwygio, dirymu neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y pŵer.

2

Mae dyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a osodir gan F26Ddeddf gan Senedd Cymru yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) y caniateir ei arfer i ddiwygio, dirymu a disodli, neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y ddyletswydd (neu o dan y pŵer a ddarperir gan yr is-adran hon).

Annotations:
Commencement Information
I59

A. 18 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I33

A. 18 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I4I4719Diwygio is-ddeddfwriaeth gan F26Ddeddf gan Senedd Cymru

Nid yw diwygio na dirymu is-ddeddfwriaeth gan F26Ddeddf gan Senedd Cymru yn cyfyngu nac yn effeithio fel arall ar y pŵer neu’r ddyletswydd y gwnaed yr is-ddeddfwriaeth odano neu odani.

Annotations:
Commencement Information
I4

A. 19 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I47

A. 19 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I40I4120Amrywio cyfarwyddydau a’u tynnu’n ôl

1

Caniateir arfer pŵer a roddir gan F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu gan is-offeryn Cymreig i roi cyfarwyddydau i amrywio unrhyw gyfarwyddydau neu dynnu’n ôl unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y pŵer.

2

Mae dyletswydd i roi cyfarwyddydau a osodir gan F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu gan is-offeryn Cymreig yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) i amrywio, neu dynnu’n ôl a disodli, unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y ddyletswydd.

Annotations:
Commencement Information
I40

A. 20 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I41

A. 20 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Cyfeiriadau yn neddfwriaeth Cymru at ddeddfwriaeth a dogfennau eraill

I16I6721Cyfeiriadau at raniadau o ddeddfiadau, offerynnau a dogfennau

1

Pan fo F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig—

a

yn disgrifio rhaniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen neu’n cyfeirio at raniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen, a

b

yn gwneud hynny drwy gyfeirio at eiriau, adrannau neu rannau eraill y mae’r rhaniad yn ymestyn oddi wrthynt neu atynt (neu oddi wrthynt ac atynt),

mae’r rhaniad yn cynnwys y geiriau, yr adrannau neu’r rhannau eraill y cyfeirir atynt.

2

Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—

a

Deddf gan Senedd yr Alban;

b

deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));

c

offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

Annotations:
Commencement Information
I16

A. 21 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I67

A. 21 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I50I522Argraffiadau o F31Ddeddfau Senedd Cymru neu o Fesurau’r Cynulliad y cyfeirir atynt

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at F26Ddeddf gan Senedd Cymru (gan gynnwys F26Deddf gan Senedd Cymru nad yw’r Rhan hon yn gymwys iddi) neu Fesur Cynulliad.

2

Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y copi ardystiedig o’r Ddeddf, neu’r Mesur fel y’i cymeradwywyd, a gyhoeddir—

a

gan Argraffydd y Frenhines, neu

b

o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.

Annotations:
Commencement Information
I50

A. 22 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I5

A. 22 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I57I2323Argraffiadau o Ddeddfau gan Senedd y Deyrnas Unedig y cyfeirir atynt

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (pa un yn ôl ei henw byr ynteu yn ôl blwyddyn, statud, sesiwn neu bennod).

2

Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y Ddeddf fel y’i deddfwyd a gyhoeddir—

a

gan Argraffydd y Frenhines, neu

b

o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.

3

Ond—

a

pan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys mewn argraffiad diwygiedig o’r statudau a argreffir drwy awdurdod, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw;

b

pan na fo paragraff (a) yn gymwys a phan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys yn yr argraffiad a luniwyd o dan gyfarwyddyd y Comisiwn Cofnodion, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I57

A. 23 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I23

A. 23 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I10I624Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir mewn cyfraith ddomestig ar ôl ymadael â’r UE

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

a

F26Deddf gan Senedd Cymru yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl y F23diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, a

b

y Ddeddf neu’r offeryn yn cyfeirio at unrhyw reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE sy’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) F30neu adran 1 o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2) (cynnwys deddfwriaeth uniongyrchol UE).

2

Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig (ac nid fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith yr UE).

F352A

Ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 25A (cyfeiriadau at gyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu).

3

Yn yr adran hon, mae i’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn yr un ystyron ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018—

  • “cyfraith ddomestig” (“domestic law”);

  • “deddfwriaeth drydyddol gan yr UE” (“EU tertiary legislation”);

  • “penderfyniad gan yr UE” (“EU decision”);

  • “rheoliad gan yr UE” (“EU regulation”).

I29I5325Mae cyfeiriadau at ddeddfiadau yn gyfeiriadau at ddeddfiadau fel y’u diwygiwyd

1

Mae’r adran hon yn gymwys—

a

pan fo F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at ddeddfiad (“A”), a

b

pan fo A yn cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan ddeddfiad (”B”) ar unrhyw adeg (pa un ai cyn, ar neu ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf F12... y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr F27offeryn ei wneud).

2

Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.

3

Nid oes dim yn adrannau 22 i 24 yn cyfyngu ar weithrediad yr adran hon.

4

Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—

a

Deddf gan Senedd yr Alban;

b

deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));

c

offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

25AF37Cyfeiriadau at gyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu

—(1) Mae'r adran hon yn gymwys—

a

pan fo Deddf gan Senedd Cymru yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu pan fo is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, a

b

pan fo'r Ddeddf neu'r offeryn yn cyfeirio at unrhyw gytuniad sy'n ymwneud â'r UE, neu unrhyw offeryn neu ddogfen arall gan unrhyw endid o'r UE, sy'n cael effaith yn rhinwedd adran 7A neu 7B o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (gweithredu gweddill y cytundeb ymadael â'r UE etc. yn gyffredinol).

2

Mae'r cyfeiriad, i'r graddau y mae'n ofynnol at ddibenion cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu, yn gyfeiriad at y cytuniad, yr offeryn neu'r ddogfen fel y mae'n cael effaith yn rhinwedd yr adran honno (gan gynnwys, i'r graddau y mae'n ofynnol, fel y mae'n cael effaith o bryd i'w gilydd).

3

Yn yr adran hon—

mae i “cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu” yr ystyr a roddir i “relevant separation agreement law” gan adran 7C(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018; mae “cytuniad” (“treaty”) yn cynnwys unrhyw gytundeb rhyngwladol (ac unrhyw brotocol neu atodiad i gytuniad neu gytundeb rhyngwladol); mae i “endid o'r UE” yr ystyr a roddir i “EU entity” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

I49I2826Cyfeiriadau at F38offerynnau penodol gan yr UE

1

Mae’r adran hon yn gymwys—

a

pan fo F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at offeryn UE (“A”), a

b

pan fo A wedi cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan offeryn arall gan yr UE (“B”) cyn y diwrnod y caiff y Ddeddf F17... y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr F10offeryn ei wneud.

2

Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.

3

Gweler hefyd F36baragraff 2A o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16)F20....

Dyblygu troseddau

I3I6327Troseddau dyblyg

1

Pan fo gweithred neu anweithred yn drosedd o dan F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig (“A”) a hefyd yn drosedd—

a

o dan F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A,

b

yn ôl y gyfraith gyffredin, neu

c

o dan F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A ac yn ôl y gyfraith gyffredin,

mae person yn agored i’w erlyn a’i gosbi o dan y naill neu’r llall neu unrhyw un o’r Deddfau neu’r offerynnau hynny neu yn ôl y gyfraith gyffredin, ond ni ellir ei gosbi fwy nag unwaith am yr un drosedd.

2

Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r weithred neu’r anweithred hefyd yn drosedd o dan unrhyw ddeddfwriaeth y mae adran 18 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) yn gymwys iddi (ond mae’r adran honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol mewn perthynas â gweithred neu anweithred o’r fath).

Annotations:
Commencement Information
I3

A. 27 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I63

A. 27 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Cymhwyso i’r Goron

I17I7128Cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron

1

Mae F26Deddf gan Senedd Cymru yn rhwymo’r Goron.

2

Mae is-offeryn Cymreig yn rhwymo’r Goron i’r graddau y mae wedi ei wneud o dan ddeddfiad sy’n rhwymo’r Goron neu’n rhoi pŵer i wneud darpariaeth sy’n rhwymo’r Goron.

3

Nid yw F26Deddf gan Senedd Cymru nac is-offeryn Cymreig yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd, ond mae’n gymwys i bersonau sy’n gwasanaethu’r Goron fel y mae’n gymwys i bersonau eraill.

Annotations:
Commencement Information
I17

A. 28 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I71

A. 28 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Deddfwriaeth yn dod i rym

I69I5429Yr amser pan ddaw deddfwriaeth Cymru i rym

Pan fo—

a

F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, neu

b

darpariaeth mewn F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig,

yn dod i rym ar ddiwrnod y darperir ar ei gyfer mewn deddfiad, daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I69

A. 29 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I54

A. 29 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I35I1430Y diwrnod y daw F26Deddf gan Senedd Cymru i rym

Pan na fo darpariaeth mewn deddfiad bod F26Deddf gan Senedd Cymru neu ddarpariaeth mewn F26Deddf gan Senedd Cymru yn dod i rym, daw’r Ddeddf neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

Annotations:
Commencement Information
I35

A. 30 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I14

A. 30 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I58I8031Gorchmynion a rheoliadau sy’n dwyn F31Deddfau Senedd Cymru i rym

Pan fo F26Deddf gan Senedd Cymru yn darparu i orchymyn neu reoliadau benodi—

a

y diwrnod y daw’r Ddeddf i rym, neu

b

y diwrnod y daw darpariaeth yn y Ddeddf i rym,

caiff y gorchymyn neu’r rheoliadau benodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

Annotations:
Commencement Information
I58

A. 31 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I80

A. 31 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Diwygio, diddymu a dirymu deddfwriaeth

I24I3932Diwygiadau a wneir i ddeddfwriaeth Cymru neu gan ddeddfwriaeth Cymru

1

Pan fo deddfiad yn diwygio F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw.

2

Pan fo F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn diwygio deddfiad drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r deddfiad hwnnw.

3

Gweler hefyd adran 23ZA o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) ar gyfer darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf honno i ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir sy’n cael ei diwygio gan F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig (neu gan ddeddfwriaeth benodol arall).

Annotations:
Commencement Information
I24

A. 32 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I39

A. 32 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I21I2233Nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoes

Pan fo—

a

F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad (“A”), a

b

A eisoes wedi diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad arall (“B”) neu wedi dileu unrhyw rheol gyfreithiol arall (“C”),

nid yw diddymiad neu ddirymiad A yn adfer B neu C.

Annotations:
Commencement Information
I21

A. 33 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I22

A. 33 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I62I7734Arbedion cyffredinol mewn cysylltiad â diddymiadau a dirymiadau

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.

2

Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad—

a

yn adfer unrhyw beth nad yw mewn grym neu mewn bod ar yr adeg pan yw’r diddymiad neu’r dirymiad yn cymryd effaith;

b

yn effeithio ar weithrediad blaenorol y deddfiad neu unrhyw beth a wneir neu a oddefir o dan y deddfiad.

3

Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad ychwaith yn effeithio ar—

a

unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth neu atebolrwydd a geir, a gronnir neu yr eir iddi neu iddo o dan y deddfiad;

b

unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth a osodir mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y deddfiad;

c

unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad ag unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth, atebolrwydd, cosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath,

a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a gosod unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath, fel pe na bai’r diddymiad neu’r dirymiad wedi digwydd.

Annotations:
Commencement Information
I62

A. 34 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I77

A. 34 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I13I2035Effaith ailddeddfu

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad (“A”)—

a

yn cael ei ddiddymu neu ei ddirymu gan F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, a

b

yn cael ei ailddeddfu (gydag addasiadau neu hebddynt) gan ddeddfiad (“B”) sy’n F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu’n is-offeryn Cymreig neu’n ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn F26Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig.

2

Mae cyfeiriad at A mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen i’w ddarllen fel (neu fel pe bai’n cynnwys) cyfeiriad at B.

3

I’r graddau y gallasai unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan A neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan A gael ei gwneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan B.

4

I’r graddau y gallasai unrhyw beth a wneir neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan A gael ei wneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan B.

Annotations:
Commencement Information
I13

A. 35 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I20

A. 35 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I7I5636Cyfeirio at F26Ddeddf gan Senedd Cymru yn ôl ei henw byr ar ôl iddi gael ei diddymu

Caniateir parhau i gyfeirio at F26Ddeddf gan Senedd Cymru yn ôl yr enw byr a roddir iddi gan ddeddfiad er i’r deddfiad hwnnw gael ei ddiddymu.

Annotations:
Commencement Information
I7

A. 36 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I56

A. 36 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

I12I3137Ystyr diddymu a dirymu yn y Rhan hon

1

Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddiddymu neu ddirymu deddfiad neu ddileu rheol gyfreithiol yn cynnwys—

a

amnewid unrhyw beth am y deddfiad neu’r rheol (neu unrhyw ran ohono neu ohoni);

b

cyfyngu ar gymhwysiad neu effaith y deddfiad neu’r rheol;

c

darparu i’r deddfiad neu’r rheol beidio â chael effaith.

2

At ddibenion adrannau 34 i 36 (ond nid adran 33)—

a

pan ddaw F26Deddf dros dro gan Senedd Cymru i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r Ddeddf wedi ei diddymu gan F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig;

b

pan ddaw is-offeryn Cymreig dros dro i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r offeryn wedi ei ddirymu gan F26Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig.

Annotations:
Commencement Information
I12

A. 37 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I31

A. 37 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

RHAN 3AMRYWIOL

I1838Pŵer i ddisodli disgrifiadau o ddyddiadau ac amseroedd yn neddfwriaeth Cymru

1

Pan fo darpariaeth mewn unrhyw ddeddfwriaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi yn disgrifio dyddiad neu amser drwy gyfeirio at ddyfodiad deddfiad i rym neu unrhyw ddigwyddiad arall, caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r ddarpariaeth drwy reoliadau fel ei bod yn cyfeirio at y gwir ddyddiad neu amser (unwaith y bydd yn hysbys).

2

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) hefyd—

a

diwygio’r ddeddfwriaeth er mwyn cynnwys esboniad o’r dyddiad neu’r amser y maent yn ei fewnosod;

b

gwneud diwygiad canlyniadol sy’n diwygio, yn diddymu, neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad.

3

Mae’r adran hon yn gymwys i’r ddeddfwriaeth a ganlyn (pryd bynnag y’i deddfir neu i’i gwneir)—

a

F31Deddfau Senedd Cymru a Mesurau’r Cynulliad;

b

is-ddeddfwriaeth a wneir o dan F31Ddeddfau Senedd Cymru a Mesurau’r Cynulliad;

c

unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) nad yw ond yn gymwys o ran Cymru;

d

unrhyw ddeddfiad arall, i’r graddau y caiff ei ddiwygio gan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c).

Annotations:
Commencement Information
I18

A. 38 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(d)

I5539Pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurfiau gwahanol

1

Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurf rheoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, cânt arfer y pŵer neu’r ddyletswydd drwy wneud yr is-ddeddfwriaeth ar unrhyw un o’r ffurfiau eraill hynny drwy offeryn statudol.

2

Nid yw hyn yn effeithio ar y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth.

3

Mae cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen at reoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd yn cynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir odano neu odani mewn unrhyw ffurf arall drwy ddibynnu ar is-adran (1).

4

Nid yw is-adran (1) yn gymwys i is-ddeddfwriaeth—

a

a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, a

b

sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I55

A. 39 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(d)

I6840Cyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y F29Senedd

1

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud, neu’n bwriadu gwneud, offeryn statudol a fyddai fel arall yn ddarostyngedig i ddwy neu ragor o weithdrefnau gwahanol yn y F13Senedd o ganlyniad i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys, mae pa un bynnag o’r gweithdrefnau hynny yn y F13Senedd a grybwyllir gyntaf yn is-adran (2) yn gymwys i’r offeryn (ac nid yw’r un o’r gweithdrefnau eraill yn y F13Senedd yn gymwys).

2

Yn yr adran hon, ystyr “gweithdrefn yn y F3Senedd” yw gweithdrefn sy’n cael yr effaith⁠—

a

na chaniateir gwneud offeryn statudol (neu’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron F22Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad,

b

bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron F1Senedd Cymru ar ôl iddo gael ei wneud a rhaid iddo gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan F1Senedd Cymru er mwyn i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys ddod i rym neu barhau mewn grym,

c

bod offeryn statudol yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan F28Senedd Cymru,

d

bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron F7Senedd Cymru ar ôl iddo gael ei wneud, neu

e

nad yw’n ofynnol i offeryn statudol gael ei osod gerbron F11Senedd Cymru ar unrhyw adeg.

3

Nid yw’r ffaith bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offeryn statudol y mae is-adran (1) yn gymwys iddo yn—

a

eu hatal rhag gwneud is-ddeddfwriaeth bellach mewn offeryn statudol nad yw’r is-adran honno yn gymwys iddo, na

b

effeithio ar y weithdrefn yn y F6Senedd sy’n gymwys i offeryn o’r fath.

4

Nid yw is-adran (1) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth—

a

a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, a

b

sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.

RHAN 4CYFFREDINOL

I241Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau

Mae Atodlen 2 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Annotations:
Commencement Information
I2

A. 41 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)

I3842Pŵer i wneud darpariaeth ychwanegol i roi effaith lawn i’r Ddeddf hon

1

Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, cânt drwy reoliadau wneud—

a

darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;

b

darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

2

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon).

Annotations:
Commencement Information
I38

A. 42 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)

I3643Rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon

1

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

a

yn arferadwy drwy offeryn statudol;

b

yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

2

Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron F18Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

a

rheoliadau o dan adran 6(2);

b

rheoliadau o dan adran 42(1) sy’n diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddarpariaeth mewn F26Deddf gan Senedd Cymru neu Fesur Cynulliad neu mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

3

Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan is-adran 42(1) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan F5Senedd Cymru.

I3744Y Ddeddf hon yn dod i rym

1

Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

a

Rhan 1;

b

adran 6(2) a (3);

c

y darpariaethau eraill yn Rhan 2, i’r graddau y maent yn gymwys i’r Ddeddf hon;

d

Rhan 3;

e

y Rhan hon.

2

I’r graddau nad yw wedi cael ei dwyn i rym gan is-adran (1), daw Rhan 2 i rym ar ddiwrnod a benodir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

3

O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—

a

rhaid ei wneud drwy offeryn statudol;

b

caiff gynnwys ddarpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

Annotations:
Commencement Information
I37

A. 44 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)

I7445Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.