RHAN 1LL+CHYGYRCHEDD CYFRAITH CYMRU
1Dyletswydd i gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiadLL+C
(1)Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiad.
(2)Yn y Rhan hon, ystyr “hygyrchedd” cyfraith Cymru yw’r graddau y mae—
(a)ar gael yn hwylus i aelodau’r cyhoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg;
(b)wedi ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiweddaraf yn y ddwy iaith (sy’n dangos a yw deddfiadau mewn grym ac yn corffori unrhyw ddiwygiadau a wneir iddynt);
(c)wedi ei threfnu’n glir ac yn rhesymegol (o fewn deddfiadau yn ogystal â rhwng deddfiadau);
(d)yn hawdd ei deall ac yn sicr ei heffaith.
(3)Yn y Rhan hon, ystyr “cyfraith Cymru” yw—
(a)[Deddfau Senedd Cymru] a Mesurau’r Cynulliad;
(b)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan [Ddeddfau Senedd Cymru] a Mesurau’r Cynulliad;
(c)unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
(d)unrhyw ddeddfiad arall, neu unrhyw reol gyfreithiol arall, i’r graddau ... y gellid darparu ar ei gyfer mewn [Deddf gan Senedd Cymru].
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
2Rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith CymruLL+C
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol lunio rhaglen sy’n nodi’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
(2)Rhaid llunio rhaglen ar gyfer pob un o dymhorau [Senedd Cymru] sy’n dechrau ar ôl i’r adran hon ddod i rym.
(3)Rhaid i’r rhaglen gynnwys gweithgareddau arfaethedig y bwriedir iddynt—
(a)cyfrannu at broses barhaus o gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru;
(b)cynnal ffurf cyfraith Cymru (wedi iddi gael ei chodeiddio);
(c)hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru;
(d)hwyluso defnydd o’r Gymraeg.
(4)Caiff y rhaglen hefyd gynnwys gweithgareddau arfaethedig—
(a)y gellir eu cyflawni drwy gydweithio â Chomisiwn y Gyfraith (yn unol â Deddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 (p. 22)), neu
(b)o unrhyw fath arall y mae Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried ei fod yn briodol.
(5)Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen gerbron [Senedd Cymru] o fewn 6 mis i benodi Prif Weinidog ar ôl etholiad cyffredinol a gynhelir o dan Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
(6)Caiff Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddiwygio’r rhaglen ar unrhyw adeg, ac os gwnânt hynny rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen ddiwygiedig gerbron [Senedd Cymru].
(7)Rhaid [i Senedd Cymru] adrodd yn flynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar y cynnydd a wneir o dan y rhaglen.
(8)Yn is-adran (3), mae codeiddio cyfraith Cymru yn cynnwys—
(a)mabwysiadu strwythur ar gyfer cyfraith Cymru sy’n gwella ei hygyrchedd;
(b)trefnu a chyhoeddi cyfraith Cymru sydd wedi ei chydgrynhoi yn ôl y strwythur hwnnw.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
RHAN 2LL+CDEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Cymhwyso’r Rhan a’i heffaithLL+C
3Deddfwriaeth y mae’r Rhan hon yn gymwys iddiLL+C
(1)Mae’r Rhan hon yn gymwys i—
(a)y Ddeddf hon;
(b)[Deddfau Senedd Cymru] sy’n cael y Cydsyniad Brenhinol ar [1 Ionawr 2020 neu ar ôl y diwrnod hwnnw];
(c)is-offerynnau Cymreig a wneir ar [1 Ionawr 2020] neu ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2)Ystyr “is-offeryn Cymreig” yw offeryn (pa un a yw’r offeryn hwnnw yn offeryn statudol ai peidio) nad yw ond yn cynnwys un neu ddau o’r canlynol—
(a)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu Fesur Cynulliad, pa un ai gan Weinidogion Cymru neu gan unrhyw berson arall;
(b)is-ddeddfwriaeth—
(i)a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol [a gymathwyd],
(ii)nas gwneir ond gan Weinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), a
(iii)nad yw ond yn gymwys o ran Cymru.
(3)Mae cyfeiriadau yng ngweddill y Rhan hon at [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi neu iddo yn rhinwedd is-adran (1).
[(4)Mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â physgota, pysgodfeydd neu iechyd pysgod ac a wneir ar ôl i adran 45 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (p. 22) ddod i rym, mae'r cyfeiriad yn is-adran (2)(b)(iii) at Gymru yn cynnwys yr ardal o barth Cymru sydd y tu hwnt i derfynau atfor y môr tiriogaethol.]
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
4Effaith darpariaethau’r Rhan honLL+C
(1)Pan fo’r Rhan hon yn gymwys i [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, mae’r darpariaethau yn y Rhan hon yn cael effaith mewn perthynas â’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw, ac eithrio i’r graddau—
(a)y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu
(b)y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.
(2)Nid yw’r eithriad yn is-adran (1) yn gymwys i adran 5 (statws cyfartal testunau deddfwriaeth ddwyieithog).
(3)Nid yw paragraff (b) o’r eithriad hwnnw yn gymwys i—
(a)adran 10 (cyfeiriadau at amser o’r dydd);
(b)adran 28 (cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron);
(c)adran 33 (nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoes).
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Deddfwriaeth ddwyieithog CymruLL+C
5Statws cyfartal y testunau Cymraeg a SaesnegLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [Deddf gan Senedd Cymru] yn cael ei deddfu, neu pan fo is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
(2)Mae i’r testun Cymraeg a’r testun Saesneg statws cyfartal at bob diben.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Ystyr geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn neddfwriaeth CymruLL+C
6Diffiniadau o eiriau ac ymadroddionLL+C
(1)Mae geiriau ac ymadroddion a restrir yn y Tabl yn Atodlen 1 i’w dehongli yn unol â’r Tabl hwnnw pan fônt yn ymddangos mewn [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 1 er mwyn—
(a)mewnosod diffiniadau newydd o eiriau neu ymadroddion;
(b)dileu diffiniadau o eiriau neu ymadroddion;
(c)diwygio diffiniadau o eiriau neu ymadroddion.
(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed, a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu, yn dirymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir).
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
7Mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog ac fel arallLL+C
Mewn [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig—
(a)mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog;
(b)mae geiriau yn y ffurf luosog yn cynnwys y ffurf unigol.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
8Nid yw geiriau sy’n dynodi rhywedd yn gyfyngedig i’r rhywedd hwnnwLL+C
Mewn [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, nid yw geiriau sy’n dynodi personau o rywedd penodol i’w darllen fel pe baent yn gyfyngedig i bersonau o’r rhywedd hwnnw.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
9Amrywio geiriau ac ymadroddion oherwydd gramadeg etc.LL+C
Pan fo deddfiad yn rhoi ystyr i air neu ymadrodd mewn [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, mae rhannau ymadrodd eraill a ffurfiau neu oleddfiadau gramadegol ar y gair neu’r ymadrodd i’w dehongli yn unol â’r ystyr hwnnw.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
10Cyfeiriadau at amser o’r dyddLL+C
Mae cyfeiriad at amser o’r dydd mewn [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at amser safonol Greenwich; ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 3 o Ddeddf Amser Haf 1972 (p. 6) (pwyntiau o amser yn ystod amser haf).
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
11Cyfeiriadau at y SofrenLL+C
Mae cyfeiriad at y Sofren mewn [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig i’w ddarllen fel cyfeiriad at y Sofren ar y pryd.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
12Mesur pellterLL+C
Mae cyfeiriad at bellter mewn [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at y pellter hwnnw wedi ei fesur mewn llinell syth ar blân llorweddol.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronigLL+C
13Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronigLL+C
(1)Pan fo [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen drwy’r post i berson arall (“B”), mae A yn cyflwyno’r ddogfen os yw A yn cyfeirio’n briodol lythyr sy’n cynnwys y ddogfen, yn talu ymlaen llaw am ei bostio, ac yn ei bostio at B.
(2)Pan fo [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen i berson arall (“B”) yn electronig, mae A yn cyflwyno’r ddogfen—
(a)os yw A yn cyfeirio’n briodol gyfathrebiad electronig sy’n ffurfio’r ddogfen neu’n cynnwys y ddogfen, neu y mae’r ddogfen ynghlwm wrtho, ac yn ei anfon at B, a
(b)os yw’r ddogfen yn cael ei hanfon ar ffurf electronig y gall B ei chyrchu a’i chadw.
(3)Mae’r adran hon yn gymwys pa un a yw’r Ddeddf ... neu’r [offeryn] yn defnyddio’r gair “cyflwyno” neu unrhyw ymadrodd arall (megis “anfon” neu “rhoi”) i gyfeirio at gyflwyno’r ddogfen.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
14Y diwrnod pan fernir bod dogfen wedi ei chyflwynoLL+C
Pan fo dogfen yn cael ei chyflwyno drwy’r post neu’n electronig o dan [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno, oni phrofir i’r gwrthwyneb—
(a)yn achos dogfen a gyflwynir drwy’r post, ar y diwrnod y byddai’r llythyr sy’n cynnwys y ddogfen yn cyrraedd yn nhrefn arferol y post;
(b)yn achos dogfen a gyflwynir yn electronig, ar y diwrnod yr anfonir y cyfathrebiad electronig.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Pwerau a dyletswyddauLL+C
15Parhad pwerau a dyletswyddauLL+C
(1)Caniateir arfer pŵer a roddir gan [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig ar fwy nag un achlysur.
(2)Mae dyletswydd a osodir gan [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn ddyletswydd barhaus a rhaid ei chyflawni yn ôl y gofyn.
(3)Pan roddir pŵer gan [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig i ddeiliad swydd neu pan osodir dyletswydd ar ddeiliad swydd gan [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, mae i’w arfer neu i’w harfer gan ddeiliad y swydd ar y pryd.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
16Arfer pŵer neu ddyletswydd nad yw mewn grymLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo pŵer neu ddyletswydd yn cael ei roi neu ei gosod—
(a)gan ddarpariaeth mewn [Deddf gan Senedd Cymru] a ddaw i rym—
(i)ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau, a
(ii)mwy nag un diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, neu
(b)gan ddarpariaeth mewn is-offeryn Cymreig na ddaw i rym unwaith y caiff yr offeryn ei wneud.
(2)Caniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd (a chaiff unrhyw offeryn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd ddod i rym) yn ystod y cyfnod—
(a)sy’n dechrau pan gaiff y Ddeddf ... y Cydsyniad Brenhinol neu pan wneir yr [offeryn], a
(b)sy’n gorffen pan ddaw’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd i rym.
(3)Ond yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd ond i’r graddau y mae’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn—
(a)i’r Ddeddf ... neu i’r [offeryn] sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd, neu
(b)i ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw,
ar yr adeg neu ar ôl yr adeg y daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym.
(4)Pan fo darpariaeth mewn [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig nad yw mewn grym—
(a)yn gysylltiedig â phŵer neu ddyletswydd, neu’n atodol i bŵer neu ddyletswydd, a arferir yn unol â’r adran hon, a
(b)yn dod i rym ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau,
mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai mewn grym i’r graddau y mae’n angenrheidiol i arfer y pŵer neu’r ddyletswydd yn unol â’r adran hon.
(5)Mae arfer pŵer neu ddyletswydd yn unol â’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu gyfyngiadau a osodir gan y Ddeddf ... neu’r [offeryn] sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd (pa un a yw’r ddarpariaeth sy’n gosod yr amod neu’r cyfyngiad mewn grym ai peidio).
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
17Cynnwys darpariaethau machlud a darpariaethau adolygu mewn is-ddeddfwriaethLL+C
(1)Caniateir arfer pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir neu a osodir gan [Ddeddf gan Senedd Cymru] fel bod yr is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth adolygu neu ddarpariaeth fachlud (neu’r ddwy).
(2)Yn yr adran hon—
(a)ystyr “darpariaeth adolygu” yw darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth yr is-ddeddfwriaeth adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth honno, neu effeithiolrwydd unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, o fewn cyfnod penodedig neu ar ddiwedd cyfnod penodedig;
(b)ystyr “darpariaeth fachlud” yw darpariaeth i’r is-ddeddfwriaeth, neu unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, beidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod penodedig neu gyfnod penodedig;
(c)ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn yr is-ddeddfwriaeth.
(3)Caiff darpariaeth adolygu, ymhlith pethau eraill, wneud adolygiad yn ofynnol i ystyried a yw amcanion yr is-ddeddfwriaeth y mae’n gymwys iddi yn dal i fod yn briodol ac, os felly, a ellid eu cyflawni mewn ffordd arall.
(4)Caiff yr is-ddeddfwriaeth sy’n cynnwys y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud ddarparu i’r ddarpariaeth fod yn gymwys yn gyffredinol neu’n unig mewn perthynas â darpariaethau penodedig yr is-ddeddfwriaeth neu achosion neu amgylchiadau penodedig.
(5)Caniateir arfer y pŵer i wneud y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
18Dirymu, diwygio ac ailddeddfu is-ddeddfwriaethLL+C
(1)Caniateir arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir gan [Ddeddf gan Senedd Cymru] i ddiwygio, dirymu neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y pŵer.
(2)Mae dyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a osodir gan [Ddeddf gan Senedd Cymru] yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) y caniateir ei arfer i ddiwygio, dirymu a disodli, neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y ddyletswydd (neu o dan y pŵer a ddarperir gan yr is-adran hon).
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
19Diwygio is-ddeddfwriaeth gan [Ddeddf gan Senedd Cymru] LL+C
Nid yw diwygio na dirymu is-ddeddfwriaeth gan [Ddeddf gan Senedd Cymru] yn cyfyngu nac yn effeithio fel arall ar y pŵer neu’r ddyletswydd y gwnaed yr is-ddeddfwriaeth odano neu odani.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
20Amrywio cyfarwyddydau a’u tynnu’n ôlLL+C
(1)Caniateir arfer pŵer a roddir gan [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu gan is-offeryn Cymreig i roi cyfarwyddydau i amrywio unrhyw gyfarwyddydau neu dynnu’n ôl unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y pŵer.
(2)Mae dyletswydd i roi cyfarwyddydau a osodir gan [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu gan is-offeryn Cymreig yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) i amrywio, neu dynnu’n ôl a disodli, unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y ddyletswydd.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Cyfeiriadau yn neddfwriaeth Cymru at ddeddfwriaeth a dogfennau eraillLL+C
21Cyfeiriadau at raniadau o ddeddfiadau, offerynnau a dogfennauLL+C
(1)Pan fo [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig—
(a)yn disgrifio rhaniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen neu’n cyfeirio at raniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen, a
(b)yn gwneud hynny drwy gyfeirio at eiriau, adrannau neu rannau eraill y mae’r rhaniad yn ymestyn oddi wrthynt neu atynt (neu oddi wrthynt ac atynt),
mae’r rhaniad yn cynnwys y geiriau, yr adrannau neu’r rhannau eraill y cyfeirir atynt.
(2)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—
(a)Deddf gan Senedd yr Alban;
(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));
(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
22Argraffiadau o [Ddeddfau Senedd Cymru] neu o Fesurau’r Cynulliad y cyfeirir atyntLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at [Ddeddf gan Senedd Cymru] (gan gynnwys [Deddf gan Senedd Cymru] nad yw’r Rhan hon yn gymwys iddi) neu Fesur Cynulliad.
(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y copi ardystiedig o’r Ddeddf, neu’r Mesur fel y’i cymeradwywyd, a gyhoeddir—
(a)gan Argraffydd y Frenhines, neu
(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
23Argraffiadau o Ddeddfau gan Senedd y Deyrnas Unedig y cyfeirir atyntLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (pa un yn ôl ei henw byr ynteu yn ôl blwyddyn, statud, sesiwn neu bennod).
(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y Ddeddf fel y’i deddfwyd a gyhoeddir—
(a) gan Argraffydd y Frenhines, neu
(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.
(3)Ond—
(a)pan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys mewn argraffiad diwygiedig o’r statudau a argreffir drwy awdurdod, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw;
(b)pan na fo paragraff (a) yn gymwys a phan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys yn yr argraffiad a luniwyd o dan gyfarwyddyd y Comisiwn Cofnodion, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
24Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir mewn cyfraith ddomestig ar ôl ymadael â’r UELL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
(a)[Deddf gan Senedd Cymru] yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl y [diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu], a
(b)y Ddeddf neu’r offeryn yn cyfeirio at unrhyw reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE sy’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) [neu adran 1 o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2)] (cynnwys deddfwriaeth uniongyrchol UE).
(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig (ac nid fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith yr UE).
[(2A)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 25A (cyfeiriadau at gyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu).]
(3)Yn yr adran hon, mae i’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn yr un ystyron ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018—
“cyfraith ddomestig” (“domestic law”);
“deddfwriaeth drydyddol gan yr UE” (“EU tertiary legislation”);
“penderfyniad gan yr UE” (“EU decision”);
“rheoliad gan yr UE” (“EU regulation”).
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
25Mae cyfeiriadau at ddeddfiadau yn gyfeiriadau at ddeddfiadau fel y’u diwygiwydLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at ddeddfiad (“A”), a
(b)pan fo A yn cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan ddeddfiad (”B”) ar unrhyw adeg (pa un ai cyn, ar neu ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf ... y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr [offeryn] ei wneud).
(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.
(3)Nid oes dim yn adrannau 22 i 24 yn cyfyngu ar weithrediad yr adran hon.
(4)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—
(a)Deddf gan Senedd yr Alban;
(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));
(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
[25ACyfeiriadau at gyfraith berthnasol y cytundebau gwahanuLL+C
—(1) Mae'r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo Deddf gan Senedd Cymru yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu pan fo is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, a
(b)pan fo'r Ddeddf neu'r offeryn yn cyfeirio at unrhyw gytuniad sy'n ymwneud â'r UE, neu unrhyw offeryn neu ddogfen arall gan unrhyw endid o'r UE, sy'n cael effaith yn rhinwedd adran 7A neu 7B o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (gweithredu gweddill y cytundeb ymadael â'r UE etc. yn gyffredinol).
(2)Mae'r cyfeiriad, i'r graddau y mae'n ofynnol at ddibenion cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu, yn gyfeiriad at y cytuniad, yr offeryn neu'r ddogfen fel y mae'n cael effaith yn rhinwedd yr adran honno (gan gynnwys, i'r graddau y mae'n ofynnol, fel y mae'n cael effaith o bryd i'w gilydd).
(3)Yn yr adran hon—
mae i “cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu” yr ystyr a roddir i “relevant separation agreement law” gan adran 7C(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018; mae “cytuniad” (“treaty”) yn cynnwys unrhyw gytundeb rhyngwladol (ac unrhyw brotocol neu atodiad i gytuniad neu gytundeb rhyngwladol); mae i “endid o'r UE” yr ystyr a roddir i “EU entity” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.]
26Cyfeiriadau at [offerynnau penodol gan yr UE] LL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at offeryn UE (“A”), a
(b)pan fo A wedi cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan offeryn arall gan yr UE (“B”) cyn y diwrnod y caiff y Ddeddf ... y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr [offeryn] ei wneud.
(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.
(3)Gweler hefyd [baragraff 2A o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16)] ....
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Dyblygu troseddauLL+C
27Troseddau dyblygLL+C
(1)Pan fo gweithred neu anweithred yn drosedd o dan [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig (“A”) a hefyd yn drosedd—
(a)o dan [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A,
(b)yn ôl y gyfraith gyffredin, neu
(c)o dan [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A ac yn ôl y gyfraith gyffredin,
mae person yn agored i’w erlyn a’i gosbi o dan y naill neu’r llall neu unrhyw un o’r Deddfau neu’r offerynnau hynny neu yn ôl y gyfraith gyffredin, ond ni ellir ei gosbi fwy nag unwaith am yr un drosedd.
(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r weithred neu’r anweithred hefyd yn drosedd o dan unrhyw ddeddfwriaeth y mae adran 18 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) yn gymwys iddi (ond mae’r adran honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol mewn perthynas â gweithred neu anweithred o’r fath).
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Cymhwyso i’r GoronLL+C
28Cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r GoronLL+C
(1)Mae [Deddf gan Senedd Cymru] yn rhwymo’r Goron.
(2)Mae is-offeryn Cymreig yn rhwymo’r Goron i’r graddau y mae wedi ei wneud o dan ddeddfiad sy’n rhwymo’r Goron neu’n rhoi pŵer i wneud darpariaeth sy’n rhwymo’r Goron.
(3)Nid yw [Deddf gan Senedd Cymru] nac is-offeryn Cymreig yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd, ond mae’n gymwys i bersonau sy’n gwasanaethu’r Goron fel y mae’n gymwys i bersonau eraill.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Deddfwriaeth yn dod i rymLL+C
29Yr amser pan ddaw deddfwriaeth Cymru i rymLL+C
Pan fo—
(a)[Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, neu
(b)darpariaeth mewn [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig,
yn dod i rym ar ddiwrnod y darperir ar ei gyfer mewn deddfiad, daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod hwnnw.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
30Y diwrnod y daw [Deddf gan Senedd Cymru] i rymLL+C
Pan na fo darpariaeth mewn deddfiad bod [Deddf gan Senedd Cymru] neu ddarpariaeth mewn [Deddf gan Senedd Cymru] yn dod i rym, daw’r Ddeddf neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
31Gorchmynion a rheoliadau sy’n dwyn [Deddfau Senedd Cymru] i rymLL+C
Pan fo [Deddf gan Senedd Cymru] yn darparu i orchymyn neu reoliadau benodi—
(a)y diwrnod y daw’r Ddeddf i rym, neu
(b)y diwrnod y daw darpariaeth yn y Ddeddf i rym,
caiff y gorchymyn neu’r rheoliadau benodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Diwygio, diddymu a dirymu deddfwriaethLL+C
32Diwygiadau a wneir i ddeddfwriaeth Cymru neu gan ddeddfwriaeth CymruLL+C
(1)Pan fo deddfiad yn diwygio [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw.
(2)Pan fo [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn diwygio deddfiad drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r deddfiad hwnnw.
(3)Gweler hefyd adran 23ZA o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) ar gyfer darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf honno i ddeddfwriaeth uniongyrchol [a gymathwyd] sy’n cael ei diwygio gan [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig (neu gan ddeddfwriaeth benodol arall).
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
33Nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoesLL+C
Pan fo—
(a)[Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad (“A”), a
(b)A eisoes wedi diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad arall (“B”) neu wedi dileu unrhyw rheol gyfreithiol arall (“C”),
nid yw diddymiad neu ddirymiad A yn adfer B neu C.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
34Arbedion cyffredinol mewn cysylltiad â diddymiadau a dirymiadauLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.
(2)Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad—
(a)yn adfer unrhyw beth nad yw mewn grym neu mewn bod ar yr adeg pan yw’r diddymiad neu’r dirymiad yn cymryd effaith;
(b)yn effeithio ar weithrediad blaenorol y deddfiad neu unrhyw beth a wneir neu a oddefir o dan y deddfiad.
(3)Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad ychwaith yn effeithio ar—
(a)unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth neu atebolrwydd a geir, a gronnir neu yr eir iddi neu iddo o dan y deddfiad;
(b)unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth a osodir mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y deddfiad;
(c)unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad ag unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth, atebolrwydd, cosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath,
a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a gosod unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath, fel pe na bai’r diddymiad neu’r dirymiad wedi digwydd.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
35Effaith ailddeddfuLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad (“A”)—
(a)yn cael ei ddiddymu neu ei ddirymu gan [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, a
(b)yn cael ei ailddeddfu (gydag addasiadau neu hebddynt) gan ddeddfiad (“B”) sy’n [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu’n is-offeryn Cymreig neu’n ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn [Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig.
(2)Mae cyfeiriad at A mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen i’w ddarllen fel (neu fel pe bai’n cynnwys) cyfeiriad at B.
(3)I’r graddau y gallasai unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan A neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan A gael ei gwneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan B.
(4)I’r graddau y gallasai unrhyw beth a wneir neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan A gael ei wneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan B.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
36Cyfeirio at [Ddeddf gan Senedd Cymru] yn ôl ei henw byr ar ôl iddi gael ei diddymuLL+C
Caniateir parhau i gyfeirio at [Ddeddf gan Senedd Cymru] yn ôl yr enw byr a roddir iddi gan ddeddfiad er i’r deddfiad hwnnw gael ei ddiddymu.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
37Ystyr diddymu a dirymu yn y Rhan honLL+C
(1)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddiddymu neu ddirymu deddfiad neu ddileu rheol gyfreithiol yn cynnwys—
(a)amnewid unrhyw beth am y deddfiad neu’r rheol (neu unrhyw ran ohono neu ohoni);
(b)cyfyngu ar gymhwysiad neu effaith y deddfiad neu’r rheol;
(c)darparu i’r deddfiad neu’r rheol beidio â chael effaith.
(2)At ddibenion adrannau 34 i 36 (ond nid adran 33)—
(a)pan ddaw [Deddf dros dro gan Senedd Cymru] i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r Ddeddf wedi ei diddymu gan [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig;
(b)pan ddaw is-offeryn Cymreig dros dro i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r offeryn wedi ei ddirymu gan [Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
RHAN 3LL+CAMRYWIOL
38Pŵer i ddisodli disgrifiadau o ddyddiadau ac amseroedd yn neddfwriaeth CymruLL+C
(1)Pan fo darpariaeth mewn unrhyw ddeddfwriaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi yn disgrifio dyddiad neu amser drwy gyfeirio at ddyfodiad deddfiad i rym neu unrhyw ddigwyddiad arall, caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r ddarpariaeth drwy reoliadau fel ei bod yn cyfeirio at y gwir ddyddiad neu amser (unwaith y bydd yn hysbys).
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) hefyd—
(a)diwygio’r ddeddfwriaeth er mwyn cynnwys esboniad o’r dyddiad neu’r amser y maent yn ei fewnosod;
(b)gwneud diwygiad canlyniadol sy’n diwygio, yn diddymu, neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad.
(3)Mae’r adran hon yn gymwys i’r ddeddfwriaeth a ganlyn (pryd bynnag y’i deddfir neu i’i gwneir)—
(a)[Deddfau Senedd Cymru] a Mesurau’r Cynulliad;
(b)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan [Ddeddfau Senedd Cymru] a Mesurau’r Cynulliad;
(c)unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) nad yw ond yn gymwys o ran Cymru;
(d)unrhyw ddeddfiad arall, i’r graddau y caiff ei ddiwygio gan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c).
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
39Pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurfiau gwahanolLL+C
(1)Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurf rheoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, cânt arfer y pŵer neu’r ddyletswydd drwy wneud yr is-ddeddfwriaeth ar unrhyw un o’r ffurfiau eraill hynny drwy offeryn statudol.
(2)Nid yw hyn yn effeithio ar y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth.
(3)Mae cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen at reoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd yn cynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir odano neu odani mewn unrhyw ffurf arall drwy ddibynnu ar is-adran (1).
(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i is-ddeddfwriaeth—
(a)a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol [a gymathwyd], a
(b)sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
40Cyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y [Senedd] LL+C
(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud, neu’n bwriadu gwneud, offeryn statudol a fyddai fel arall yn ddarostyngedig i ddwy neu ragor o weithdrefnau gwahanol yn y [Senedd] o ganlyniad i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys, mae pa un bynnag o’r gweithdrefnau hynny yn y [Senedd] a grybwyllir gyntaf yn is-adran (2) yn gymwys i’r offeryn (ac nid yw’r un o’r gweithdrefnau eraill yn y [Senedd] yn gymwys).
(2)Yn yr adran hon, ystyr “gweithdrefn yn y [Senedd]” yw gweithdrefn sy’n cael yr effaith—
(a)na chaniateir gwneud offeryn statudol (neu’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron [Senedd Cymru] a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad,
(b)bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron [Senedd Cymru] ar ôl iddo gael ei wneud a rhaid iddo gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan [Senedd Cymru] er mwyn i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys ddod i rym neu barhau mewn grym,
(c)bod offeryn statudol yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan [Senedd Cymru],
(d)bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron [Senedd Cymru] ar ôl iddo gael ei wneud, neu
(e)nad yw’n ofynnol i offeryn statudol gael ei osod gerbron [Senedd Cymru] ar unrhyw adeg.
(3)Nid yw’r ffaith bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offeryn statudol y mae is-adran (1) yn gymwys iddo yn—
(a)eu hatal rhag gwneud is-ddeddfwriaeth bellach mewn offeryn statudol nad yw’r is-adran honno yn gymwys iddo, na
(b)effeithio ar y weithdrefn yn y [Senedd] sy’n gymwys i offeryn o’r fath.
(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth—
(a)a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol [a gymathwyd], a
(b)sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
[40ACymhwyso'r Rhan hon mewn perthynas â pharth CymruLL+C
Mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â physgota, pysgodfeydd neu iechyd pysgod, mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at Gymru yn cynnwys yr ardal o barth Cymru sydd y tu hwnt i derfynau atfor y môr tiriogaethol.”]
RHAN 4LL+CCYFFREDINOL
41Diwygiadau canlyniadol a diddymiadauLL+C
Mae Atodlen 2 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
42Pŵer i wneud darpariaeth ychwanegol i roi effaith lawn i’r Ddeddf honLL+C
(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, cânt drwy reoliadau wneud—
(a)darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;
(b)darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon).
43Rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf honLL+C
(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;
(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron [Senedd Cymru] ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—
(a)rheoliadau o dan adran 6(2);
(b)rheoliadau o dan adran 42(1) sy’n diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddarpariaeth mewn [Deddf gan Senedd Cymru] neu Fesur Cynulliad neu mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.
(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan is-adran 42(1) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan [Senedd Cymru].
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
44Y Ddeddf hon yn dod i rymLL+C
(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)Rhan 1;
(b)adran 6(2) a (3);
(c)y darpariaethau eraill yn Rhan 2, i’r graddau y maent yn gymwys i’r Ddeddf hon;
(d)Rhan 3;
(e)y Rhan hon.
(2)I’r graddau nad yw wedi cael ei dwyn i rym gan is-adran (1), daw Rhan 2 i rym ar ddiwrnod a benodir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
(3)O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—
(a)rhaid ei wneud drwy offeryn statudol;
(b)caiff gynnwys ddarpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
45Enw byrLL+C
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.