Search Legislation

Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 11/09/2019.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, Croes Bennawd: Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronig. Help about Changes to Legislation

Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronigLL+C

13Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronigLL+C

(1)Pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen drwy’r post i berson arall (“B”), mae A yn cyflwyno’r ddogfen os yw A yn cyfeirio’n briodol lythyr sy’n cynnwys y ddogfen, yn talu ymlaen llaw am ei bostio, ac yn ei bostio at B.

(2)Pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen i berson arall (“B”) yn electronig, mae A yn cyflwyno’r ddogfen—

(a)os yw A yn cyfeirio’n briodol gyfathrebiad electronig sy’n ffurfio’r ddogfen neu’n cynnwys y ddogfen, neu y mae’r ddogfen ynghlwm wrtho, ac yn ei anfon at B, a

(b)os yw’r ddogfen yn cael ei hanfon ar ffurf electronig y gall B ei chyrchu a’i chadw.

(3)Mae’r adran hon yn gymwys pa un a yw’r Ddeddf Cynulliad neu’r is-offeryn Cymreig yn defnyddio’r gair “cyflwyno” neu unrhyw ymadrodd arall (megis “anfon” neu “rhoi”) i gyfeirio at gyflwyno’r ddogfen.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

14Y diwrnod pan fernir bod dogfen wedi ei chyflwynoLL+C

Pan fo dogfen yn cael ei chyflwyno drwy’r post neu’n electronig o dan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno, oni phrofir i’r gwrthwyneb—

(a)yn achos dogfen a gyflwynir drwy’r post, ar y diwrnod y byddai’r llythyr sy’n cynnwys y ddogfen yn cyrraedd yn nhrefn arferol y post;

(b)yn achos dogfen a gyflwynir yn electronig, ar y diwrnod yr anfonir y cyfathrebiad electronig.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 14 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

Back to top

Options/Help