RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Deddfwriaeth yn dod i rym

29Yr amser pan ddaw deddfwriaeth Cymru i rym

Pan fo—

(a)

F1Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, neu

(b)

darpariaeth mewn F1Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig,

yn dod i rym ar ddiwrnod y darperir ar ei gyfer mewn deddfiad, daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod hwnnw.

30Y diwrnod y daw F1Deddf gan Senedd Cymru i rym

Pan na fo darpariaeth mewn deddfiad bod F1Deddf gan Senedd Cymru neu ddarpariaeth mewn F1Deddf gan Senedd Cymru yn dod i rym, daw’r Ddeddf neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

31Gorchmynion a rheoliadau sy’n dwyn F2Deddfau Senedd Cymru i rym

Pan fo F1Deddf gan Senedd Cymru yn darparu i orchymyn neu reoliadau benodi—

(a)

y diwrnod y daw’r Ddeddf i rym, neu

(b)

y diwrnod y daw darpariaeth yn y Ddeddf i rym,

caiff y gorchymyn neu’r rheoliadau benodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.