RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Diwygio, diddymu a dirymu deddfwriaeth

32Diwygiadau a wneir i ddeddfwriaeth Cymru neu gan ddeddfwriaeth Cymru

1

Pan fo deddfiad yn diwygio Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw.

2

Pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn diwygio deddfiad drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r deddfiad hwnnw.

3

Gweler hefyd adran 23ZA o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) ar gyfer darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf honno i ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir sy’n cael ei diwygio gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig (neu gan ddeddfwriaeth benodol arall).

33Nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoes

Pan fo—

a

Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad (“A”), a

b

A eisoes wedi diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad arall (“B”) neu wedi dileu unrhyw rheol gyfreithiol arall (“C”),

nid yw diddymiad neu ddirymiad A yn adfer B neu C.

34Arbedion cyffredinol mewn cysylltiad â diddymiadau a dirymiadau

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.

2

Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad—

a

yn adfer unrhyw beth nad yw mewn grym neu mewn bod ar yr adeg pan yw’r diddymiad neu’r dirymiad yn cymryd effaith;

b

yn effeithio ar weithrediad blaenorol y deddfiad neu unrhyw beth a wneir neu a oddefir o dan y deddfiad.

3

Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad ychwaith yn effeithio ar—

a

unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth neu atebolrwydd a geir, a gronnir neu yr eir iddi neu iddo o dan y deddfiad;

b

unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth a osodir mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y deddfiad;

c

unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad ag unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth, atebolrwydd, cosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath,

a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a gosod unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath, fel pe na bai’r diddymiad neu’r dirymiad wedi digwydd.

35Effaith ailddeddfu

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad (“A”)—

a

yn cael ei ddiddymu neu ei ddirymu gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, a

b

yn cael ei ailddeddfu (gydag addasiadau neu hebddynt) gan ddeddfiad (“B”) sy’n Ddeddf Cynulliad neu’n is-offeryn Cymreig neu’n ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig.

2

Mae cyfeiriad at A mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen i’w ddarllen fel (neu fel pe bai’n cynnwys) cyfeiriad at B.

3

I’r graddau y gallasai unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan A neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan A gael ei gwneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan B.

4

I’r graddau y gallasai unrhyw beth a wneir neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan A gael ei wneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan B.

36Cyfeirio at Ddeddf Cynulliad yn ôl ei henw byr ar ôl iddi gael ei diddymu

Caniateir parhau i gyfeirio at Ddeddf Cynulliad yn ôl yr enw byr a roddir iddi gan ddeddfiad er i’r deddfiad hwnnw gael ei ddiddymu.

37Ystyr diddymu a dirymu yn y Rhan hon

1

Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddiddymu neu ddirymu deddfiad neu ddileu rheol gyfreithiol yn cynnwys—

a

amnewid unrhyw beth am y deddfiad neu’r rheol (neu unrhyw ran ohono neu ohoni);

b

cyfyngu ar gymhwysiad neu effaith y deddfiad neu’r rheol;

c

darparu i’r deddfiad neu’r rheol beidio â chael effaith.

2

At ddibenion adrannau 34 i 36 (ond nid adran 33)—

a

pan ddaw Deddf dros dro gan y Cynulliad i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r Ddeddf wedi ei diddymu gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig;

b

pan ddaw is-offeryn Cymreig dros dro i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r offeryn wedi ei ddirymu gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig.